Y Chwarelwr: 90 mlynedd ers y ffilm lafar gyntaf yn Gymraeg

Golygfa o'r ffilm
- Cyhoeddwyd
Mae'n 90 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm lafar gyntaf erioed yn y Gymraeg ac a ffilmwyd ym Mlaenau Ffestiniog - Y Chwarelwr.
Gweledigaeth Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru oedd cynhyrchu'r ffilm Gymraeg. Ei fwriad oedd profi i bobl ifanc Cymru nad oedd angen iddynt droi'n Saeson i gael talkies.
O 1935 hyd at ddechrau'r Ail Ryfel Byd yn 1939, byddai Ifan a'i selogion yn teithio i gymunedau Cymru gyda lorri ail-law a llond y cefn o offer er mwyn dangos y ffilm mewn neuaddau.
Un sy'n ymddiddori yn hanes creu'r ffilm yw'r prifardd Ifor ap Glyn. Ac yn ôl Ifor, "dydi'r ffilm ddim cweit yn Casablanca ond mae'n rhaid edmygu egni Ifan a'r cyfarwyddwr John Ellis Williams hyd heddiw".
Premiêr ym Mlaenau Ffestiniog yn 1935
Ifor sy'n egluro sut daeth ar draws y ffilm am y tro cyntaf: "O'n i'n ffilimio rhyw raglen ddogfen ym Mlaenau Ffestiniog a nes i ddigwydd taro ar ddwy oedd yn gysylltiedig â chwmni John Ellis Williams.
"John Ellis Williams oedd un o gyfarwyddwyr y ffilm efo Ifan ab Owen Edwards ac aelodau o'i gwmni o oedd yr actorion, a felly ges i fy hudo gan y peth.
"Mae'n anhygoel i feddwl fod dau mor ddibrofiad wedi mynd ati a neud rwbath sydd ar sawl lefel yn llwyddiannus, ac ar lefelau eraill, ella ddim mor llwyddiannus."
Ac roedd swm sylweddol o bres tu ôl i'r cynhyrchiad. Cost y ffilm oedd £2,900 – swm a ddychrynodd J. Ellis Williams, ond neges Ifan iddo oedd, 'Da chi, peidiwch â phoeni am y pres. Ymlaen â'r gwaith'.
Prynodd Ifan gamera, gwerth can punt o ffilm a dau daflunydd ag arian a roddwyd gan J.M. Howell, Aberdyfi, un o noddwyr hael yr Urdd yn nyddiau cynnar y mudiad.
"Roedd ganddo fo hyd yn oed fan Morris 8 ail law er mwyn creu rhyw fath o sinema deithiol; mynd â'r ffilm o le i le o gwmpas Cymru," eglura Ifor.
"Gafodd o'r pres i 'neud y ffilm ym mis Chwefror, erbyn diwadd mis Mawrth oedd John Ellis Williams wedi 'neud y sgript iddo fo. Erbyn diwadd mis Ebrill oedd o 'di cychwyn ffilmio ac ym mis Hydref gafodd y peth ei phremiêr cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog, felly mae'n rhaid i ni edmygu eu hegni nhw os nad dim byd arall."

Ifor ap Glyn
Diweddglo coll
Mae'r ffilm, sy'n 34 munud a naw eiliad o hyd a sydd ar gael i'w gwylio am ddim ar y we gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yn dilyn hanes teulu sy'n byw yng nghymuned chwarelyddol Blaenau Ffestiniog, ac mae caledi'r cyfnod yn ganolog.
Mae'r tad yn marw a mab ieuengaf teulu yn dewis aberthu ei yrfa ei hun er mwyn cynnal ei chwaer fach dalentog trwy'r coleg.
Ond hyd heddiw mae ail ran y ffilm ar goll.
Meddai Ifor: "Yn anffodus i ni mae be' sy 'di goroesi, oedd hi'n ffilm oedd yn cael ei dangos mewn pedwar reel - fel oedd un yn cicio mewn oedd llall yn dod i ben.
"Ond mae 'na botensial i ddarn o ffilm fynd ar goll efo hynny a dyna ddigwyddodd.
"Yn ffodus i ni er fod y reel ola' wedi mynd ar goll mae'r sain ar gyfer hwnnw wedi aros yn y cyfnod yna. Erbyn heddiw mae sain yn sownd yn y ffilm yndê, mi oedd hwn yn opsiwn bryd hynny - hyd yn oed yn 1935 - ond oedd hi yn opsiwn drud ac am fod nhw efo cyllideb gymharol isel nathon nhw ddewis opsiwn rhatach sef i roi y sain ar wahan.
"Oedd hwnna yn creu problema yn ei hun. Wrth ffilmio, er bod pobl yn deud ei leins doedd yna ddim modd recordio hynny, a be' oedd rhaid 'neud oedd mynd â nhw i stiwdio a chael nhw i syncio – i lefaru eu geiriau yn y gobaith bo' nhw yn matsio y ffilm ac oeddan nhw'n 'neud o i gyd ar un cynnig.
"Mae'r trac sain gwreiddiol, er ei bod hi'n werthfawr a 'dan i'n gwybod be' sy'n digwydd ar ddiwadd y ffilm, mae hi ychydig bach yn hen ffasiwn a melodramatig."

Teitlau agoriadol y ffilm
Rai blynyddoedd yn ôl felly aeth Ifor at i ailgreu rhan olaf y ffilm ac fe gafodd hanes adfer y ffilm a'r ffilm ei hun ei dangos ar S4C.
Dyw Ifor ddim yn difaru ailgreu'r diweddglo: "Doedd John Ellis Williams na Ifan ddim yn fodlon efo safon y sain gafon nhw. Oeddan nhw yn ymwybodol fod cyllideb wedi eu cyfyngu nhw.
"Peth arall oeddan nhw wedi gobeithio 'neud oedd i gael mwy o fiwsig yn y ffilm; mond chwarter o'r ffilm sydd efo deialog ynddo fo felly am ysbeidiau hir mae gynnoch chi dawelwch.
"Yn hynny o beth o'n i yn gallu rhoi naws yn nes at beth oedd y ddau awdur gwreiddiol wedi bwriadu."
Sinema deithiol
Nôl yn 1935 roedd diddordeb ysgubol i'r ffilm, yng Nghymru a thu hwnt.
"O Mawrth ac Ebrill 1935 ymlaen, hyd yn oed cyn iddo fo gal ei ffilmio, oedd y Daily Express wedi dangos diddordeb, y Manchester Guardian a The Era – papur mawr Prydeinig.
"Oeddan nhw wedi dechra siarad am Dafydd Iwan Jones oedd yn chwarae Robin, un o'r prif gymeriada', a'i alw yn The New Jackie Cooper, un o'r sêr ifanc yn y sinema ar y pryd."
Yn yr 1930au roedd gan yr Urdd dros 50,000 o aelodau felly roedd Ifan ab Owen Edwards yn eithaf siŵr bod ganddo gynulleidfa gref i'r ffilm Gymraeg. Ei syniad felly oedd mynd â'r ffilm Y Chwarelwr ar daith.

Golygfa o fywyd caled y chwarel yn y ffilm
Ifor sy'n mesur llwyddiant y sinema deithiol:
"Oedd hi'n costio swllt i oedolyn a thair ceiniog i blentyn.
"Pan 'nathon nhw ddangos y ffilm yn Pwllheli yn 1938 'nathon nhw gymryd saith bunt ar y drws y diwrnod yna, tasa nhw i gyd yn oedolion ac mae'n siŵr doeddan nhw ddim, mae hynny yn o leiaf 140 o bobl!"
Teithiodd y ffilm o amgylch Cymru rhwng 1938 a 1939, gan ymweld â neuaddau o ddyffrynnoedd y gogledd i gymoedd y de.
"Ceredigion gafodd y gigs mwya o ran ymddangosiada' a wedyn Morgannnwg," eglura Ifor.
"Bob tymor, rhwng Hydref tan Ebrill byddai'r ffilm yn ymweld â 120 lefydd, ac yn cael ei dangos chwe diwrnod yr wythnos.
"Tom Morgan ac Ap Moris oedd wedi cael y cyfrifoldeb i hebrwng y ffilm a'i setio fo fyny. Mae'n debyg mai sheet oedd gynnon nhw yn hytrach na sgrin.
"Mae cofnodion yr Urdd yn nodi bod angen mynd â sheet y ffilm i gael ei olchi mewn laundry yn Aberystwyth!"

Un o'r cymeriadau
Sut mae Ifor yn adlewyrchu ar lwyddiant y ffilm heddiw?
"Erbyn diwedd Ebrill 1939, dim ond chwe phunt yn brin o adennill yr holl bres oedd wedi ei wario ar y ffilm oedd Ifan.
"Gafon nhw un tymor arall cyn i'r rhyfal roi stop ar bob dim felly mae'n rhaid bo' nhw wedi clirio hynny a mynd i 'chydig o elw.
"Y Chwarelwr o bosib ydy'r unig ffilm Gymraeg yn ein hanas ni sydd weddi llwyddo ar lefel masnachol fel'na heb gefnogaeth o du'r Llywodraeth neu S4C."
Pynciau cysylltiedig
Gwrandewch ar Ifor ap Glyn yn trafod y ffilm ar raglen Aled Hughes:
- Adran y stori
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Chwefror