'Dwi'n trefnu gigs achos dwi methu chwarae'r gitâr'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y wlad i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar 7 Chwefror - ond pwy sy'n trefnu'r nosweithiau sy'n cynnal y sin drwy'r flwyddyn?
Bryn Jones fu'n holi dau sy'n weithgar oddi ar y llwyfan mewn cyfnod sy'n anodd i'r diwydiant cerddoriaeth byw ar lawr gwlad.
Pan symudodd Andrew Gordon yn ôl i orllewin Cymru i fagu teulu, roedd mewn sefyllfa dda i ddechrau ei rôl newydd yn trefnu gigs, diolch i'w waith yn recriwtio staff i brif swyddi cwmnïau eiddo ac ariannol rhyngwladol.
Efallai bod y ddwy swydd yn ymddangos yn wahanol iawn ar yr olwg gyntaf, ond mae'n dweud bod 'na dipyn o ffactorau sy'n gyffredin.
Meddai: "Mae lot o'r sgiliau yn debyg, â bod yn onest. Mae 'na lot o waith trefnu, lot o problem solving, delio gyda lot fawr o bobl sydd eisiau pethau gwahanol, a ma' angen lot o'r un fath o sgiliau fire fighting."
Tydi Andrew ddim yn wyneb cyfarwydd yn y sin Gymraeg - ar y llwyfan o leia'. Ond heb bobl fel fo, fyddai neb ar y llwyfan.
O Gaerfyrddin yn wreiddiol, mae'n dweud iddo ddechrau ei garwriaeth gyda cherddoriaeth pan glywodd Pulp pan oedd o tua 10 oed. Tydi'r diddordeb heb bylu yn y tri degawd ers hynny.
Am flynyddoedd bu'n byw yn Llundain, gyda sawl lleoliad cerddoriaeth byw wych ar ei stepen drws. Cyn hynny roedd yn dilyn y sin ym Mryste. Heblaw am drefnu ambell ddigwyddiad pan oedd yn fyfyriwr yno a chael yr awch i fod yn rhan o'r trefniadau pan oedd yn mynd i wyliau cerddorol, mynd i gigs i fwynhau yn unig oedd o.
Yna pam symudodd nôl i Gaerfyrddin i fagu teulu 10 mlynedd yn ôl, a mwynhau cerddoriaeth byw yn nhafarn Cwrw, fe wnaeth benderfyniad un noson.
"Nath Mike [Hilton - y perchennog] ddweud rhywbeth fel 'os faswn i'n gallu clonio fy hun faswn i'n gallu bwcio bands yma llawn amser ond mae 'na ormod i neud'.
"Nes i jest deud 'nai neud hynny i chdi - am hwyl'."
A dyna ddechrau arni.
'Caru pob rhan o'r gwaith'
O fewn misoedd roedd o wrthi o ddifri, gan ddechrau cwmni bychan hyrwyddo Slush. Rhwng mis Mai llynedd a'r Nadolig fe drefnodd 24 gig oedd yn cynnwys 60 artist gwahanol - o enwau cyfarwydd fel Ynys a Buzzard, Buzzard, Buzzard i grwpiau newydd wedi eu ffurfio gan ddisgyblion ysgol.
"Dwi'n caru pob rhan o'r gwaith - wrth fy modd yn mynd i'r gigs a dod i adnabod yr artistiaid a rhoi'r gig ymlaen," meddai.
"Mae rhywun yn rhan o'r peth. Fydda i'n dweud wrth bobl mai'r rheswm dwi'n bwcio bandiau a threfnu gigs ydi achos dwi methu chwarae'r gitâr."
Ond tydi o ddim yn waith hawdd, yn rhannol oherwydd y lleoliad.
Mae'r rhan fwyaf o'r gigs mae o'n eu trefnu yn digwydd yn Cwrw, tafarn sy'n ganolbwynt i gerddoriaeth byw yng ngorllewin Cymru.
Ond i gyrraedd Caerfyrddin mae'n rhaid perswadio bandiau o'r dwyrain i fynd heibio canolfannau amlwg fel Bryste, Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe cyn eu cyrraedd nhw.
"Ry ni'n gorfod gwerthu'r lle fel rhywle gwahanol sy'n llawn cymeriadau, lle gyda chymeriad, gyda tua 100 o bobl lle fydd hi'n noson hwyliog gyda lot o atgofion," meddai.
"Ry ni'n gorfod gweithio'n galetach gyda pobl i gael nhw i ddod aton ni yn hytrach na rhywle arall."
'Gwneud rhywbeth yn lle cwyno'
Draw yng Nghaernarfon, agwedd DIY arweiniodd Huw Bebb i ddechrau trefnu gigs.
Roedd o'n chwilio am lefydd er mwyn i'w fand 3 Hŵr Doeth berfformio pan oedd o yn y brifysgol rai blynyddoedd yn ôl. Heb ryw lawer yn digwydd, aeth ati i drefnu rhai ei hun.
"Neshi jest weld bod 'na ddiffyg gigs ym Mangor ar y pryd ac yn lle cwyno, neud rhywbeth amdano fo a dechrau trefnu," meddai.
"Nath Nosweithiau Neithiwr fynd o nerth i nerth, a ro'n i efo 'chydig o bres ar ôl gwneud y rheiny i fedru gwneud mwy ac wedyn neshi drefnu Gŵyl Neithiwr - gŵyl un diwrnod - oedd yn llwyddiant ysgubol."
Ar ôl cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, aeth yn ôl i'w dref enedigol Caernarfon a chael yr un broblem. Felly fe ddechreuodd drefnu gigs ar y cyd rhwng aelodau o 3 Hŵr Doeth a'r grŵp Kim Hon.
Roedd y noson gyntaf 18 mis yn ôl yn llawn dop, ac felly dyma fathu'r enw: Gigs Tin Sardîns.
Fel un sy'n perfformio ac yn trefnu, mae Huw yn dweud ei fod yn cael boddhad o'r ddau.
"Mae 'na lot o bobl yn gofyn os ydi o'n anodd neu'n lot o waith - ond pan dwi'n mwynhau gwneud rhywbeth tydi o ddim," meddai.
"Dwi'n mwynhau gweld digwyddiad yn dod at ei gilydd, dwi'n licio gweld blaen tŷ pan 'da ni'n cymryd y tocynnau a'r bwrlwm o greu digwyddiad cerddorol a chymdeithasol. Tydi o ddim yn waith caled achos mae o'n rhywbeth dwi'n mwynhau.
"A tydi o ddim yn ddi-ddiolch dwi'm yn meddwl chwaith.
"Mae pobl yn dod fyny ata chdi ar ddiwedd noson i ddeud faint maen nhw wedi mwynhau o, a'r artistiaid - dwi wedi trio cael bandiau ifanc a rhoi cyfle ac maen nhw'n gwerthfawrogi. Tydi o ddim y peth mwya' glamorous ond dwi'n mwynhau o."
Angen mwy o gefnogaeth
Mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli bod 'na foddhad i'w gael o fod yn rhan o'r digwyddiadau i ffwrdd o'r llwyfan, meddai Huw, ac ymuno yn y gwaith trefnu er mwyn creu sin iach.
Dywedodd: "Mae 'na beryg mewn llefydd bychan fel Caernarfon bod y sin yn dibynnu ar un unigolyn neu grŵp neu un lleoliad.
"Ac wedyn pan mae'r ganolfan yn cau neu'r unigolyn yn symud i ffwrdd mae'r sin yn gorffen."
Mae'n gyfnod anodd i'r diwydiant cerddoriaeth.
Efallai bod hynny'n syndod o weld penawdau am artistiaid byd-enwog fel Taylor Swift, Coldplay ac Oasis yn llenwi stadiymau a thocynnau yn cael eu gwerthu am grocbris. Ond mae'r sin ar lawr gwlad yn wahanol.
Taylor Swift ac Oasis yn fyd arall
Dywed Andrew Gordon fod ystadegau yn dangos bod teithiau bandiau wedi byrhau gan nad ydyn nhw'n gallu talu eu ffordd. Mae trefnu gigs hefyd yn dod gyda risg o golli arian.
Mae o'n cefnogi ymgyrch y Music Venue Trust i godi rhwng 50c a £1 ar bris tocyn cyngherddau mawr er mwyn creu cronfa i helpu gigs ar lawr gwlad. Byddai hyn yn lleihau'r risg o wneud colled ac yn annog rhoi cyfle i artistiaid newydd neu ymylol.
Ychwanegodd: "Mae'r problemau yn clymu fewn i gostau byw ond yr eironi ydi bod pobl dal yn hapus i fforcio mas cannoedd o bunnoedd i weld artist maen nhw'n gyfarwydd â nhw mewn stadiwm fawr.
"Y bobl sydd wedi gwario £300 ar docyn Oasis er enghraifft - am yr un pris fase nhw wedi gallu fforddio bob un gig dwi wedi drefnu mewn chwe mis."
A byddai'r arian wedyn yn troi yn yr economi leol hefyd, meddai:
"Mae'n bwysig ar Ddydd Miwsig Cymru hefyd i gofio am yr holl bobl yn yr ecosystem sy'n wir bwysig - y venues, y bobl ffrilans sy'n gwneud y goleuo, y sain, y ffotograffwyr, y bobl sy'n gwneud y fideos - maen nhw i gyd yn rhan o'r peth.
"Mae'n bosib fydden nhw ddim eisiau bod yn llygad y cyhoedd ond maen nhw'n haeddu cydnabyddiaeth achos hebddyn nhw fyddai 'na ddim diwydiant cerddoriaeth."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024