Unigrwydd, TikTok, a chodi miloedd o bunnoedd i gyd dan chwerthin
- Cyhoeddwyd
Dechreuodd taith Katie Tradie fel dylanwadydd TikTok ac Instagram mewn man annisgwyl.
Yn ôl yn 2020 ynghanol pandemig byd-eang fe benderfynodd hi a'i theulu ddod oddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd eu defnyddio nhw'n achosi pryder iddi gan fod cymaint o gamwybodaeth a datganiadau di-sail.
Ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach - a'i gŵr wedi dychwelyd i'w waith ar ôl cyfnod hir o ffyrlo, a hithau adref ar ei phen ei hun gyda babi newydd - fe ddechreuodd deimlo'n unig.
Dywedodd y fam o Langennech wrth Cymru Fyw: "Ar ôl hynny, ro'n i'n teimlo'n isel, ac o'n i jest eisiau gwneud rhywbeth i fwynhau fy hun, ac felly 'nes i ddechrau gwneud fideos doniol."
Erbyn hyn mae ganddi nifer o gyfrifon gyda channoedd o filoedd o ddilynwyr.
"Dwi wastad wedi bod yn greadigol ac wedi gwneud fideos, ac yn cyfathrebu efo fy ffrindiau drwy wneud fideos. Felly ro'n i wedi ffendio rhywbeth oedd yn fendith am fy mod i'n siarad gyda phobl eraill."
Eglurodd Katie bod ei fideos cychwynnol amdani hi'n temlo ychydig ar goll fel mam, a rhannu ei phrofiadau fel "ychydig o hwyl".
Ond yn fuan roedd hi'n rhan o "gymuned anhygoel wnaeth helpu gyda iechyd meddwl".
Tair blynedd yn ddiweddarach, ar ddechrau 2024, fe roddodd y gorau i'w swydd mewn siop ffonau symudol a dechrau gweithio llawn amser ar gynnwys, a chreu partneriaethau rhwng gwahanol gyfrifon ar-lein.
Gwaith elusennol
Yn sgil ei phoblogrwydd ar-lein mae Katie yn gallu gwneud arian o'i chynnwys. Mae gan un o'i chyfrifon TikTok, the_tradie_wife bron i 450,000 o ddilynwyr.
Yn y misoedd cyn Nadolig 2024, fe benderfynodd Katie roi'r arian y byddai hi'n ei wneud o fis o gynnwys i elusen. Cafodd Katie ymateb gwych i'r syniad yma gan ei dilynwyr.
Defnyddiodd yr arian i wneud beth mae hi'n ei alw yn "hauls".
"Nes i feddwl yn galed am at ba elusen i gyfrannu. Meddyliais, wna i ei roi i elusen sy'n gweithio gyda mamau. Yna nes i feddwl, wna i gyfrannu i'r lloches menywod lleol.
"Dydyn nhw ddim yn gallu hysbysebu am roddion oherwydd natur y lloches, ac felly mae pobl yn gallu anghofio amdanyn nhw.
"Felly mi ddefnyddiais yr arian i brynu pethau oedd eu hangen ar fy lloches menywod lleol."
Ar ôl llwyddiant y cyntaf, penderfynodd wneud un arall gyda gwahanol siopau yn cynnig gostyngiadau hyd at 50% iddi er mwyn gwneud yr arian fynd yn bellach.
Mae wedi rhoi gwerth miloedd o bunnoedd o nwyddau i elusennau dros y misoedd diwethaf, ac ar hyn o bryd mae'n paratoi i fynd i wario'r cyfanswm diweddaraf o £1,300 ar ran ei banc bwyd lleol.
Bod yn Gymreig ar-lein
Bob hyn a hyn, fe fydd Katie yn gwyro oddi wrth y fideos dydd-i-ddydd am ei bywyd fel mam a'i hymdrechion elusennol a chreu fideos dychanol am rai o'r ystrydebau am genedlaetholwyr Cymreig neu bethau eraill y caiff Cymry eu gwawdio amdanynt.
"Dwi wedi sylwi, fel person Cymreig ar-lein, mae pobl yn cymryd yn ganiataol dy fod di'n dwp oherwydd dy acen di.
"A hefyd, mae gan lawer o bobl gamddealltwriaeth am Gymru. Mae rhai pobl wir yn meddwl ein bod ni'n byw'n bellenig heb unrhyw dechnoleg."
Felly yn ei fideos dychanol, mae Katie yn cymryd y pethau hyn ac yn mynd â nhw i'r eithaf gyda'i chymeriad "Kaddydd – the only English-speaking person in the Republic of Wales" ac yn "addysgu" pobl am ryfeddodau Cymru fel yr anifail bychan Araf, dolen allanol, sy'n cael ei warchod gan rybuddion wedi'u paentio ar y lonydd, neu draddodiadau fel dathlu Dry Dai Day, y diwrnod cenedlaethol i nodi'r unig ddiwrnod sych gafodd Cymru un flwyddyn.
Ond dydy ymateb pawb ddim wedi bod yn ffafriol. Meddai Katie, er mai jôc ydy'r cynnwys yn amlwg, mae'n anodd dod o hyd i'r cydbwysedd.
"Mae rhai pobl Gymraeg wedi dweud wrtha i 'ti jest yn gwneud i ni edrych yn wirion.' Ond dwi'n credu – mae pobl yn dweud hyn amdanon ni'n barod – y cwbl dwi'n ei wneud yw chwarae efo'r ystrydeb yna."
Ehangu a thyfu cynulleidfa
Gyda'i gallu comedi, mae Katie nawr yn troi ei llaw at gynnwys hirach na chynnwys ffurf-byr y cyfryngau cymdeithasol yn ffurf rhaglen Taff TV ar gyfer YouTube.
Ers rhai misoedd mae Katie a'i chyd-Gymro Jenkin Edwards wedi bod yn ffilmio cyfres y mae hi'n ei disgrifio fel "Gavin & Stacey meets Top Gear."
"Dwi'n credu fy mod i a Jenkin yn bersonoliaethau mawr, a hanner yr amser dydyn ni ddim yn cytuno. Felly mae 'na lawer o gecru, a dwi'n meddwl y bydd pobl yn mwynhau hynny!"
"Rydyn ni wrthi'n ffilmio mewn amryw leoliadau nawr. Felly mae'n rhyw fath o ddogfen-gomedi.
"Dwi a Jenkin yn mynd ar brofiad gwaith, ac yn cystadlu yn erbyn ein gilydd ar ddiwedd pob pennod i weld pwy sydd wedi gwneud orau.
"Rydyn ni wedi bod i bob mathau o lefydd, ond dydyn ni ddim yn gwybod i le ymlaen llaw. Un oedd rhaid i ni ei wneud oedd cynnal parti tywysogesau, lle roedd rhaid i'r ddau ohonon ni wisgo fyny fel tywysoges a diddannu llwyth o blant!
"Rydyn ni'n llenwi'r CVs 'na, achos mi allai'r cyfryngau cymdeithasol ddod i ben fory!"
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 Ionawr
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024