Gething yn 'gresynu' clywed pryderon am roddion

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn "gresynu'n fawr" o glywed y pryderon ynglŷn â rhoddion i'w ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Mae'r Prif Weinidog wedi cael ei feirniadu'n hallt am dderbyn £200,000 gan gwmni sy'n eiddo i ddyn gafodd ei erlyn am droseddau amgylcheddol.

Mae bellach wedi gofyn i Bwyllgor Safonau Senedd Cymru "ystyried a chyflwyno cynigion" i ddiweddaru rheolau ar roddion i Aelodau o'r Senedd.

Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, nad oedd hynny'n ddigon.

Mae Vaughan Gething wedi mynnu o'r dechrau bod yr holl reolau cyfredol wedi'u dilyn gyda'r rhodd gan Grŵp Amgylcheddol Dauson.

Ond mae rhai o aelodau ei blaid ei hun wedi mynegi pryderon am y mater.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y cyn-Weinidog Trafnidiaeth Lee Waters ei bod hi’n “ysgytwol” darganfod o ble roedd yr arian wedi dod ac y dylai Mr Gething ei roi yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies yn galw am ymchwiliad "llawn ac annibynnol" i roddion Mr Gething

Yn ei lythyr, at gadeirydd y pwyllgor - yr aelod Llafur Vikki Howells - dywedodd Mr Gething: “Rwy’n cydnabod lefel y pryder ynghylch y rhoddion i’m hymgyrch fel rhan o ras arweinyddiaeth Llafur Cymru.

“Rwy’n gresynu’n fawr o glywed y pryderon sydd gan aelodau eraill, ac rwy’n trin y gwaith o geisio datrys hynny gyda mewnbwn cydweithwyr fel mater difrifol.

“Er bod dadleuon y Senedd wedi dangos y derbynnir bod y penderfyniadau a wnaed yn cydymffurfio â’r rheolau presennol, mae’r cwestiynau ehangach, yr amheuon a’r pryderon a godwyd yn tanlinellu’r angen am gamau gweithredu sy’n ein galluogi i edrych ar ddiwygiadau sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Mae’n bwysig ein bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y rheolau a’r prosesau sy’n ymwneud â rhoddion gwleidyddol yn gadarn, yn dryloyw a bod ganddynt hyder y cyhoedd.”

Cofrestr o lobïwyr?

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi "ystyried yn ofalus yr ystod o safbwyntiau a fynegwyd gan gydweithwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf" ac "wedi ystyried y llwybr gorau i ddatblygu diwygiadau ystyriol a all gael effaith barhaol".

Yn ei lythyr, mae'n awgrymu bod y pwyllgor yn ystyried rheolau ar "lefel adrodd a datgelu" ac "a ddylai fod cap ar roddion gan unrhyw un endid neu unigolyn".

Dywedodd Mr Gething y bydd hefyd yn gofyn i uwch was sifil i "ystyried argymhellion ar sut i gryfhau hyder y cyhoedd ynglŷn ag unrhyw wrthdaro buddiannau posib lle mae Aelod o'r Senedd hefyd yn aelod o'r llywodraeth".

Ychwanegodd yr hoffai weithio gyda'r pwyllgor i ailystyried dadleuon dros greu "cofrestr o lobïwyr" yng Nghymru.

“Drwy edrych ar yr arferion gorau sy’n bodoli mewn gwledydd eraill, gallai’r Senedd a Llywodraeth Cymru elwa o system fwy tryloyw sy’n helpu sefydliadau i ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn ffordd sy’n ennyn hyder y cyhoedd yn y tymor hir,” meddai.

Yn fuan ar ôl ei fuddugoliaeth ym mis Mawrth, gofynnodd Mr Gething i'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones adolygu'r rheolau ar gyfer gornestau yn y dyfodol.

Ddydd Mawrth fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, wfftio cynnwys llythyr Mr Gething at y Pwyllgor Safonau.

“Nid dim ond swm y rhoddion, ond yn hollbwysig y ffynhonnell, sydd wedi poeni llawer o bobl ledled Cymru ac o fewn plaid Gething ei hun.

“Yr unig ffordd y byddwn ni’n gallu lleddfu’r pryderon hynny yw trwy ymchwiliad llawn, annibynnol i roddion ymgyrch Mr Gething.”