Jeremy Miles: 'Fyddwn i wedi gwrthod rhodd o £200,000'

Jeremy Miles a Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles a Vaughan Gething oedd y ddau ymgeisydd yn y ras i olynu Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae gwrthwynebydd Vaughan Gething yn ras arweinyddiaeth Llafur Cymru wedi dweud na fyddai wedi derbyn rhoddion gan gwmni troseddwr amgylcheddol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles, "mai ymgeiswyr unigol sydd angen ateb cwestiynau am roddion penodol" ond na fyddai ef wedi derbyn yr arian.

Yn ei ymgyrch i olynu Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, fe dderbyniodd Mr Gething £200,000 gan y cwmni Dauson Environmental Group.

Mae pennaeth y cwmni hwnnw wedi ei erlyn ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae Mr Gething wedi mynnu o'r dechrau bod rhoddion i'w ymgyrch wedi eu cofnodi'n gywir.

Ar raglen Politics Wales ddydd Sul, dywedodd Mr Miles "nad yw'r cabinet ar y cyd yn gyfrifol am roddion yn ystod ymgyrchu" a'i fod yn awyddus i "drafod y materion hynny yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw ar y cyd".

Fis diwethaf fe wnaeth Mr Gething wrthod dychwelyd yr arian, gan fynnu "nad oes dim yn anghywir â'r hyn yr ydym wedi ei wneud".

Mae Llafur Cymru bellach wedi cyhoeddi eu bod am adolygu eu prosesau.

Ychwanegodd Mr Miles: "Mae hi'n bwysig ein bod ni'n cynnal adolygiad, ond dydw i ddim yn credu fod hyn yn golygu y byddwn ni'n gallu delio ag unrhyw fater sy'n codi.

"Dwi'n meddwl mai'r cwestiwn y mae'r cyhoedd yn ei ofyn yw 'oedd hyn yn cael digwydd ac ai dyma oedd y peth iawn i wneud?'"

Galw am ymchwiliad annibynnol

Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cysylltu ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Andrew Goodall, yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r mater.

Daw'r alwad wedi iddi ddod i'r amlwg fod cwmni Dauson wedi derbyn benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru - corff hyd braich sy'n eiddo i'r llywodraeth.

"Mae hi'n glir bod y mater yma yn mynd ymhellach na rhoddion i Aelod o'r Senedd. Mae'n fater sy'n ymwneud â gweithdrefnau’r llywodraeth a'r berthynas rhwng gweinidogion ac unigolion preifat," meddai Mr ap Iorwerth.

"Does gen i fawr o hyder y bydd Mr Gething yn cynnal ymchwiliad i'w ymddygiad ei hun."

Mae Plaid Cymru yn galw am gyhoeddi canfyddiadau'r ymchwiliad yn llawn.