Person yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gerbyd

Cafodd y cerddwr ei gludo i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae person yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gerbyd yng Ngheredigion.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd y Bont, Aberaeron am tua 15:30 ddydd Mawrth.
Roedd y person yn cerdded pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Does dim mwy o wybodaeth am ei gyflwr ar hyn o bryd.