Y cyflwynydd teledu Mari Grug yn datgelu triniaeth canser
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd teledu a radio, Mari Grug wedi dweud ei bod yn cael triniaeth chemotherapi ar ôl cael diagnosis o ganser y fron.
Yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd Heno a Phrynhawn Da ar S4C, mae Mari'n fam i dri o blant.
Wrth rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd ei bod wedi cael diagnosis ym mis Mai.
Ychwanegodd fod y canser wedi lledu i'r afu a'r nodau lymff ond ei bod yn "teimlo'n bositif".
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2015
Dywedodd mewn neges ar Instagram, dolen allanol: "Ma’ nhw’n taflu popeth ata' i, sawl dos o chemo a sawl llawdriniaeth o fy mlaen ond teimlo’n bositif ac yn benderfynol o ymladd hwn!
"Ma’r tri bach yn cadw fi fynd, Gareth fel y graig a mor lwcus i gael fy amgylchynu gyda theulu a ffrindiau arbennig."
'Ewch i weld y meddyg yn syth'
Fe rannodd Mari gyngor gan ddweud ei bod wedi sylwi ar lwmp rai misoedd yn ôl.
"I unrhyw un sy’n darllen hwn ac yn poeni am newidiadau i’w corff, ewch i weld eich meddyg yn syth.
"Fe wnes i ffeindio lwmpyn canol Ebrill, mynd i’r doctor cwpwl o ddyddiau yn ddiweddarach ac yna i Lanelli cyn diwedd y mis.
"Ond bu’n rhaid i fi aros tipyn o amser i gael scans a chanlyniadau’r scans cyn dechrau triniaeth."
Dywedodd ei bod yn siomedig i golli'r Sioe Fawr ac na fydd yn cyflwyno Heno yr wythnos hon.
Ond, dywedodd ei bod yn gobeithio parhau i "weithio ychydig dros y misoedd nesaf" yn cyflwyno Heno a Bore Cothi ar Radio Cymru o dro i dro.
"Diolch i bawb am yr holl negeseuon ‘dwi wedi dderbyn dros yr wythnosau diwethaf," meddai.
"Chi’n cadw fi fynd gyda’ch caredigrwydd."