Gweithio 'am ddim' o achos cost gofal plant sydd 'drwy'r to'

Wrth i gynnig gofal plant am ddim ehangu yn Lloegr, mae galw am fwy o eglurder am gynlluniau Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen amserlen gliriach ar gyfer ehangu gofal plant am ddim i blant dwy oed yng Nghymru, yn ôl ymgyrchwyr.
Dywedodd un rhiant o Gaerdydd bod y gost bob mis yn “fwy na’i morgais“, a bod angen mwy o gymorth ariannol ynghynt yng Nghymru.
O fis Ebrill, mae rhieni yn Lloegr yn gallu hawlio 15 awr yr wythnos am ddim fel rhan o addewid i ymestyn cefnogaeth i blant mor ifanc â naw mis.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud cynnydd “ardderchog“ wrth ehangu gofal plant o ansawdd uchel i blant iau.

Yn ôl Nia Hodges, mae'n "anodd iawn ar deuluoedd i fforddio pob dim"
I Nia Hodges, athrawes o’r Eglwys Newydd, mae costau gofal plant ar ôl cael ei hail blentyn, “wedi mynd trwy’r to”.
Mae’r fam i ferch bedair oed a bachgen dwy oed, yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos.
Ond mae'n dweud ei bod hi’n “gweithio am ddim” ar y pedwerydd diwrnod oherwydd costau gofal plant.
Byddai Nia'n hoffi gweld rhieni Cymru'n cael mwy o gymorth yn gynt:
“Ma teulu ‘ngŵr yn byw yn Lloegr… a ma' nhw’n cael cymorth llawer gwell ‘swn i’n dweud.
“Bydde gweld falle rhywbeth tebyg yn digwydd o ran yr arian ni’n gallu hawlio i helpu gyda costau gofal plant, bydde fe’n fuddiol iawn ‘swn i’n dweud i deuluoedd, yn enwedig gyda costau byw… yn cynyddu."
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2023
Yng Nghymru, mae modd i blant tair a phedair oed gael 30 awr o ofal am ddim yr wythnos mewn gofal ac addysg gynnar.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae’r cynnig yma ar gael i rieni cymwys, gan gynnwys rhai sydd mewn addysg ac hyfforddiant, 48 wythnos y flwyddyn - “o'i gymharu â 38 wythnos yn Lloegr ar gyfer rhieni sy’n gweithio yn unig”.
Pa gymorth sydd ar gael i rieni yng Nghymru?
Plant tair a phedair oed
'Cynnig Gofal Plant Cymru' yw'r prif gynllun ar gyfer darparu cymorth gyda chostau ac mae ar gael i rieni plant tair a phedair oed.
Rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant, a’r naill na’r llall yn ennill cyflog o fwy na £100,000 yr un.
Fe all rhieni hawlio hyd at 30 awr am ddim – o’r 30 mae’n rhaid i o leiaf 10 awr fod yn addysg feithrin a dim mwy na 20 awr yn ofal plant.
Mae’r cynnig ar gael am 48 wythnos y flwyddyn.
Plant dwy oed
Mae gofal plant am ddim i blant dwy oed yn cael ei gynnig trwy gynllun 'Dechrau’n Deg'.
Mae’r rhaglen yma wedi bodoli ers blynyddoedd er mwyn rhoi cymorth i deuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig – ond ers 2022 mae’r ardaloedd wedi cael eu hehangu’n raddol.
Trwy’r cynllun, mae plant yn gallu cael gofal am 12.5 awr yr wythnos (2.5 awr y dydd).
Mae’r cynnig ar gael i unrhyw rieni yn yr ardaloedd penodol – does dim rhaid iddyn nhw fod yn gweithio - ac mae ar gael am 39 wythnos y flwyddyn.
Plant iau na dwy oed
Does 'na ddim cynllun penodol sy’n darparu gofal am ddim i blant iau na dwy oed.

Mae Bethan Sayed yn ymgyrchydd ar ofal plant, sy'n cyd-weithio gydag Oxfam
Yn ôl yr ymgyrchydd ar ofal plant, Bethan Sayed, mae'r newidiadau yn Lloegr yn gyfle nawr “i Lywodraeth Cymru ddweud yn iawn beth sydd yn mynd i ddigwydd yma, a sut mae hynny’n mynd i effeithio ar rieni a’u plant”.
Mae Bethan yn cydweithio gydag Oxfam ar waith gofal plant.
Yn ôl yr elusen mae gan y system yn Lloegr “broblemau”, ond does dim rhyfedd bod rhieni yng Nghymru’n teimlo eu bod nhw’n colli allan o'i gymharu â rhieni yn Lloegr.

Aeth Abi Lewis yn ôl i'w gwaith yn rhan amser ar ôl cael ei babi cyntaf, oherwydd costau gofal
I Abi Lewis, mam i ddwy ferch fach o Gaerdydd, byddai cymorth am ddim ynghynt yn werthfawr tu hwnt:
“Fi’n siwr neith y 30 awr lot o wahaniaeth pan ‘da ni’n cyrraedd hynny mewn blwyddyn.
"Ond ar hyn o bryd, sefyllfa ni ydy naill ai rhaid i fi ostwng oriau gwaith fi, sydd yn amlwg effeithio ar fy nghyflog. Neu, dibynnu ar aelodau o’r teulu sydd yn amlwg ddim yn opsiwn i bawb.”
'Dyw e ddim yn ddigonol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud cynnydd “ardderchog“ wrth ehangu gofal plant o ansawdd uchel i blant iau.
Cafodd cynllun gofal Dechrau’n Deg i roi gofal am ddim i blant dwy oed ei ehangu fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru.
Mae’r gofal yma ar gael i deuluoedd sy’n byw o fewn ardaloedd Dechrau’n Deg, ardaloedd sydd gan fwyaf yn ddifreintiedig.
Dros amser, y nod yn ôl Llywodraeth Cymru yw newid y cynllun gofal i fod ar gael i bawb.

Er yn croesawu’r ffaith bod cynllun gofal Dechrau'n Deg wedi ehangu, mae Bethan Sayed yn galw am fwy o gynllunio:
“Dyw e ddim yn ddigonol ac mae angen cynllun nawr ar gyfer pob plentyn dwy mlwydd oed.
"‘Da ni ddim eto wedi gweld y cynllun hynny ac eisiau gweld bod newidiadau ar droed gan Lywodraeth Cymru... A bod y plant yn cael y gofal mae'n nhw’n deilwng ohono.”