Menyw, 32, yn 'sownd mewn ysbyty' o achos diffyg llety addas
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 32 oed wedi bod yn byw mewn ysbytai am 16 mis oherwydd diffyg tai cymdeithasol hygyrch.
Mae Sophie Shuttleworth o Gasnewydd wedi'i pharlysu ar ôl datblygu llid yr ymennydd (meningitis) yng Ngorffennaf 2022.
Mae cartrefi cymdeithasol fyddai'n addas iddi wedi dod ar gael ers hynny, ond maen nhw'n cael eu cadw i bobl dros 55 oed.
Dywedodd Cyngor Casnewydd eu bod yn cydymdeimlo â Sophie, ac yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i ganfod llety all gael ei addasu i gwrdd â'i hanghenion i'w galluogi i adael yr ysbyty".
Cyn ei salwch roedd Sophie yn gweithio ym myd harddwch ac fel dylunydd, ac yn hoff o fynd i wyliau cerddorol.
Ond un bore fe ddeffrodd a darganfod nad oedd hi'n gallu symud.
Cafodd ei chymryd i Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân, ble cafodd diagnosis o lid yr ymennydd feirol a'i rhoi mewn coma.
Roedd y feirws wedi ymosod ar ei hasgwrn cefn a'i pharlysu, a phan ddeffrodd o'r coma dair wythnos yn ddiweddarach roedd yn rhaid iddi ddefnyddio cadair olwyn.
Ym mis Mawrth eleni, wedi wyth mis o adfer, roedd Sophie yn holliach i adael yr ysbyty, ond doedd ganddi nunlle i fynd.
Cyn ei salwch roedd Sophie wedi bod yn byw gyda'i theulu yng Nghasnewydd tra'n ceisio arbed arian ar gyfer prynu cartref ei hun.
Ond doedd tŷ ei theulu ddim yn addas ar gyfer cadair olwyn.
Pan aeth Sophie ar y gofrestr tŷ cymdeithasol ym mis Mawrth cafodd wybod y gallai fod yn disgwyl hyd at 40 wythnos am le.
'Blaenoriaethu'r henoed'
Sawl mis a sawl ysbyty yn ddiweddarach, mae hi'n dal yn ddigartref.
Cafodd ei symud o Ysbyty'r Faenor i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac yna ymlaen i Ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg.
Mae hi bellach yn Ysbyty Gwynllyw yng Nghasnewydd ers mis Awst.
"Rwy'n rhwystro rhywun arall rhag cael gwely - rhywun sydd angen triniaeth feddygol - achos bod dim lle i fi fyw," meddai Sophie.
"Mae'n hurt, ac ni ddylai fod mor anodd â hyn."
Pob wythnos mae Sophie yn byw mewn gobaith y bydd tŷ cymdeithasol addas ar gael iddi, ond heb unrhyw lwc hyd yma.
Mae hi angen rhywle ar y llawr gwaelod, gyda choridorau a drysau llydan, cegin â chownter isel ac "ystafell wlyb" fel ystafell 'molchi.
Dywedodd bod ei "chalon yn suddo" pob tro mae hi'n gweld llety "fyddai'n berffaith", cyn sylweddoli mai dim ond pobl dros 55 oed sy'n gymwys amdano.
Mae Sophie yn teimlo bod y system yn "gwahaniaethu yn fy erbyn", a bod awdurdodau lleol wedi troi eu cefnau arni.
Dywedodd Cyngor Casnewydd eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i ganfod llety all gael ei addasu i gwrdd â'i hanghenion i'w galluogi i adael yr ysbyty".
Fe wnaeth Holly Greader, 25 oed o Gaerdydd, hefyd gais am dŷ cymdeithasol, cyn darganfod nad oedd hi'n gymwys ar gyfer sawl lle oherwydd ei hoed.
Mae Holly yn byw gyda phoen cronig a syndrom hypermobility, sy'n golygu bod angen amryw o offer hygyrchedd arni, gan gynnwys cadair olwyn trydan.
Cafodd ei rhoi ar y rhestr am lety cymdeithasol yn 2020, ond dywedodd ei bod "wedi cael gwybod gan sawl person yng Nghyngor Caerdydd bod byngalos yn cael eu cadw i'r henoed".
Dywedodd ei bod hi'n teimlo'n "drist a dig" fod pobl hŷn yn cael eu blaenoriaethu dros bobl ifanc ag anabledd.
"Mae'n teimlo'n anghywir iawn. Ro'n i'n gallu dweud bod diffyg dealltwriaeth," meddai.
Ar ôl dwy flynedd fe wnaeth teuluoedd Holly a'i phartner gyfuno eu harian er mwyn prynu tŷ iddynt, ond dywedodd Holly nad yw hyn yn opsiwn i'r mwyafrif o bobl anabl.
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod "diffyg sylweddol o dai fforddiadwy, o safon uchel" yn y ddinas, a bod tai newydd yn cael eu hadeiladu er mwyn "ateb y galw sylweddol".
Ychwanegodd fod byngalos yn dueddol o gael eu rhoi i bobl dros 60 oed, ond bod rhai sydd wedi'u haddasu "yn gallu cael eu rhoi i bobl o unrhyw oed".
Ond maen nhw'n cyfaddef mai nifer "cyfyngedig" o'r rhain sydd ar gael.
Dywedon nhw fod Holly wedi bod ar y rhestr flaenoriaeth ac wedi cael cynnig llety ym Mai 2022 ond bod hyn wedi cael ei wrthod am fod angen mwy o addasiadau.
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i wella hygyrchedd mewn tai cymdeithasol".
Ychwanegodd ei bod yn ceisio gwella'r sefyllfa trwy orchymyn pob awdurdod lleol i gadw cofrestr o dai hygyrch a'i adolygu'n gyson.