Teulu o Fôn yn wynebu symud i'r Alban am dŷ cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae teulu â chwech o blant yn poeni y bydd angen iddyn nhw wahanu neu symud i fyw i'r Alban oherwydd "argyfwng tai" yng Nghymru.
Yn ôl Sarah a Geraint o Ynys Môn, mae'r unig lety addas iddyn nhw a'u plant gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o weddill y teulu.
Mae bron i 90,000 o aelwydydd yng Nghymru ar restr aros ar gyfer tŷ cymdeithasol, ac mae elusennau'n rhagweld y bydd y ffigwr yn cynyddu.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i gefnogi'r sector dai" ynghylch "galw sylweddol".
Ym mis Mehefin, fe gafodd y teulu o Langristiolus eu troi allan o'u cartref heb fai - sef pan mae landlord yn gorchymyn tenant i adael heb reswm penodol.
Fe ofynnwyd iddyn nhw adael o fewn deufis wedi i sefyllfa'r landlord newid.
'Dim ond hostel, B&B, neu Premier Inn'
Dyw Sarah ddim am wahanu ei phlant Michael, 18, Alfie, 13, Matilda, 12, Sofia, wyth, Freddie, pump, a Liberty, dwy.
Dywedodd eu bod yn "chwilio'n wyllt am dŷ yn yr ardal," ond "does gan y cyngor ddim byd".
"Y cwbl maen nhw'n gallu ei gynnig ydy hostel, B&B, neu Premier Inn. Does ganddyn nhw nunlle sy'n ddigon mawr i ni fel teulu."
Pwy sy'n cael tai cymdeithasol?
Gall unrhyw un dros 16 oed ofyn i'w cyngor lleol am gymorth i ddod o hyd i lety fforddiadwy.
Ond fel arfer mae yna restrau aros hir ar gyfer tai cyngor.
Roedd 65,000 o aelwydydd ar y rhestr aros yn 2018, yn ôl ymchwil gan Shelter Cymru.
Mae'r ffigwr wedi codi 40% i tua 89,200 yn 2022, yn ôl ffigyrau a gasglodd y BBC.
'Dan straen ac yn flin gyda'n gilydd'
Fe ddywedodd Sarah fod y straen emosiynol wedi bod yn galed ar ei gŵr, sydd wedi dioddef gyda'i iechyd meddwl o'r blaen.
"Fe ddechreuodd ei iechyd meddwl wella ar ôl y pandemig," meddai, "ond fe waethygodd pan gafon ni ein troi allan. Mae yna ddyddiau lle dydy o ddim yn gadael y gwely."
O ganlyniad, dim ond Sarah sy'n ennill incwm y teulu, ac mae hi'n poeni bod hynny'n effeithio ar eu siawns o gael tŷ.
"Pan maen nhw'n gweld fod yna chwech o blant a dim ond un ohonom ni'n gweithio, dy'n nhw ddim am ein dewis ni."
Mae'r teulu bellach yn ystyried symud i fyw i'r Alban.
Byddai hynny'n golygu diwedd addysg cyfrwng Cymraeg y plant, a symud ymhell o weddill y teulu.
"Ry'n ni dan straen ac yn mynd yn flin gyda'n gilydd. Dydy o ddim yn neis," meddai.
"Pam nad oes yna fwy o dai? Pam fod neb yn gweithredu i wneud hynny'n bosib?
Ychwanegodd y byddai ei "bywyd drosodd" petai angen iddi symud, ac mae hi am weld rhywun yn "gweithredu ar frys".
Dywedodd Cyngor Ynys Môn eu bod wedi gweld "nifer digynsail o aelwydydd yn cael eu troi allan heb fai".
Dywedodd llefarydd: "Ni fyddai'r cyngor yn bygwth gwahanu aelwyd er mwyn dapraru llety argyfwng dan unrhyw amgylchiadau."
Beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?
Yng Nghymru, Casnewydd oedd â'r nifer uchaf o bobl yn aros am dŷ cymdeithasol fesul aelwyd, gyda saith allan o bob 50 aelwyd ar y rhestr aros.
Merthyr Tudful oedd yn ail, ac yna Bro Morgannwg a Blaenau Gwent.
Fe ddywedodd Cyngor Casnewydd fod yr ardal yn delio â "galw digynsail" a bod y galw yn cynyddu'n gynt na nifer y tai sydd ar gael.
Ychwanegon nhw: "Roedd yna gynnydd yn nifer yr aelwydydd digartref, ac mae hynny wedi parhau oherwydd yr argyfwng ariannol presennol."
"Fel sawl ardal arall ar draws y wlad, rydyn ni'n wynebu argyfwng dydyn ni heb ei brofi ers degawdau."
'Mae angen ymyrraeth'
Fe wnaeth yr elusen dai Shelter Cymru rybuddio bod y rhestrau aros am waethygu'n sylweddol.
"Rydyn ni mewn argyfwng tai", meddai'r prif weithredwr Ruth Power.
"Ar sail sawl cynnydd sylweddol dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac yng nghyd-destun argyfwng costau byw ac argyfwng tai, rydyn ni'n disgwyl i'r ffigyrau hyn godi.
"Mae teuluoedd yn byw mewn amgylchiadau gwael iawn am fisoedd a blynyddoedd, achos dyna'r cwbl maen nhw'n gallu dod o hyd iddo neu fforddio."
Dywedodd yr elusen fod ganddyn nhw dros 8,000 o bobl mewn llety dros dro, yn ogystal ag 89,000 o aelwydydd ar restrau aros.
Ychwanegodd Ms Power: "Byddwn ni'n bryderus iawn petawn ni'n gweld mwy o deuluoedd yn wnebu digartrefedd."
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddyblu eu gwariant ar dai rhent cymdeithasol y llynedd, gan ymrwymo i fuddsoddi £250m cychwynnol yn 2021-2022 ar gyfer 20,000 o dai carbon-isel newydd.
Ond yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog Tai Julie James fod yr economi yn bygwth y targed hynny.
Beiodd yr argyfwng costau byw yn ogystal â phroblemau yn y diwydiant adeiladu, gan ddweud eu bod yn creu "storm berffaith o ddioddefaint".
'Angen gweithredu ar frys'
Fe wnaeth Cartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, hefyd leisio pryder am y sefyllfa.
Dywedon nhw bod cymdeithasau tai yn cael trafferth ymdopi gyda'r galw cynyddol yn y sector adeiladu tai yn sgil costau uwch.
Fe ddywedodd y prif weithredwr Clarissa Corbisiero: "Rydyn ni'n gweld effaith tri argyfwng mewn cyfnod byr: yr argyfwng iechyd cyhoeddus; argyfwng biliau ynni; ac argyfwng costau byw ehangach."
"Rhaid i bob llywodraeth gydnabod fod yr her wedi newid ac mae angen gweithredu ar frys."
Ychwanegodd bod angen i gymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol gynyddu nifer y tai yn sylweddol er mwyn ateb y galw.
"Dyw hynny ddim yn hawdd. Dyw e erioed wedi bod mor anodd i adeiladu tai yng Nghymru... Mae'n ofidus iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodaeth Cymru: "Rydyn ni'n credu fod gan bawb yr hawl i gartref safonol, fforddiadwy ac rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi'r sector dai yn ystod y cyfnod presennol o alw sylweddol yn y sectorau rhent cymdeithasol a phreifat.
"Rydyn ni'n darparu £310m ar gyfer tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol hon, sef y ffigwr uchaf hyd yma, ynghyd â dros £190m ar gyfer atal digartrefedd a chymorth dai.
"Mae hyn oll yn cefnogi ein uchelgais i ddod â digartrefedd i ben a darparu 20,000 o dai rhent carbon-isel newydd yn y sector cymdeithol yn ystod tymor y llywodraeth hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022