'Dwi wedi aros 3 blynedd am gymorth trawma cam-drin rhyw'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw ifanc o sir Gaerfyrddin a gafodd ei cham-drin yn rhywiol, emosiynol a chorfforol gan ei llys-dadcu pan yn blentyn yn galw am fwy o help arbenigol i rai sydd wedi dioddef troseddau rhyw.
Mae Charlotte Robinson, 26, wedi ildio'r hawl i aros yn ddi-enw, er mwyn sicrhau fod cwnsela ar gael i ddioddefwyr pan fo'i angen.
Yn 2016 mi wnaeth roi gwybod i'r heddlu am Raymond Hodges, ac ym mis Gorffennaf 2017 cafwyd y dyn 71 oed yn euog o 24 o gyhuddiadau yn cynnwys treisio ac ymosod yn anweddus, a'i garcharu am 25 mlynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi sefydlu Rhaglen Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer rhai sydd wedi goroesi ymosodiad rhyw".
'Dwi'n dal i gael hunllefau'
“Ges i fy ngham-drin yn rhywiol, emosiynol ac yn gorfforol”, meddai Charlotte.
“Pan oeddwn i’n 15, ‘chydig cyn i mi droi’n 16, nes i lwyddo i adael garte’ a dyna pryd nes i ddechre siarad am yr hyn oedd yn digwydd i mi a beth oedd wedi digwydd.”
Mae Charlotte yn dweud ei bod yn eithriadol o anodd dod o hyd i therapi arbenigol i helpu i ddelio â phroblemau iechyd meddwl sydd wedi codi yn sgil y gamdriniaeth.
"Cyn ac yn ystod yr achos llys fe ges i gefnogaeth. Ar ôl hynny, ges i 'chydig bach o gwnsela am rai wythnose ond yna mi wnaeth e just ddiflannu'n ara'."
Esboniodd iddi "symud o le i le", gydag ambell le yn well na'i gilydd wrth helpu.
Mae nawr yn byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn dweud ei bod hi'n dal i ddisgwyl am gwnsela ar gyfer anhwylder straen wedi trawma (PTSD) sy'n ganlyniad i'r gamdriniaeth.
"Rwy ar restr aros, am tua tair blynedd [fis Awst] am IPTS sy'n therapi arbenigol ar gyfer trawma", esboniodd.
"Dwi'n deffro'n bwl o wres ac yn chwys i gyd. Mae'n anodd iawn i fynd 'mlan o ddydd i ddydd."
Bedair blynedd yn ôl fe wnaeth Charlotte gysylltu ag elusen Shadows yn Nyffryn Aman. Mae hi'n dweud fod hynny wedi achub ei bywyd.
Ond mae'r system fel "loteri cod post", meddai, â'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar lle ry' chi'n byw.
'Rhestrau aros yn niweidiol'
Dyw stori a phrofiad Charlotte ddim yn anghyffredin, yn ôl Johanna Robinson - cynghorydd cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod.
Mae'n cydnabod fod "rhestrau aros yn niweidiol" a bod angen "darganfod ffyrdd i fynd i'r afael â hynny".
"Mae pawb ohonom yn awyddus i weld rhywun sydd wedi cael profiad tebyg i brofiad Charlotte yn cael y gefnogaeth sydd angen arnyn nhw cyn gynted ac am ba mor hir sy' angen." meddai.
Ond mae'n dweud bod heriau ariannol: "Pwy sy'n talu?"
"Mae 'na fuddsoddiad mewn gwasanaethau ond yn anffodus yr hyn sydd ganddo ni yw fod y galw yn uwch na'r buddsoddiad."
Elusen sy'n darparu cymorth arbenigol i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drais, ymosodiad rhyw neu gam-drin yw New Pathways.
Mae Sarah Thomas o'r elusen yn cydnabod nad oes "digon o gwnsela arbenigol ar draws Cymru".
"Mae pobl yn dod at llefydd fel New Pathways ac ma' rhaid iddyn nhw aros am sbel cyn bod cwnsela ar gael iddyn nhw, am fisoedd yn aml, weithiau blwyddyn."
Mae effaith yr oedi'n gallu bod yn ddifrifol: "Mae pobl yn dechrau addasu a dod o hyd i strategaethau ymdopi ac yn anffodus gall rhai o'r strategaethau ymdopi hynny fod yn negyddol."
Oherwydd hyn mae'r elusen wedi bod yn "edrych ar sut allwn ni wella profiadau dioddefwyr a goroeswyr trais neu gam-drin rhywiol fel bo nhw yn cael cefnogaeth tra bo nhw'n aros".
Mae neges Charlotte yn un sydd wedi codi "dro ar ôl dro", meddai arbenigwr yn y maes.
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, ymgynghorydd annibynnol ym maes trais domestig a thrais rhywiol: "Pan maen nhw’n adrodd i’r heddlu mae cymorth arbenigol yn cael ei roi mewn lle iddyn nhw i helpu nhw trwy’r broses gyfiawnder."
Ond ychwanegodd fod "goroeswyr yn sôn dro ar ôl tro nad yw’r cymorth ar gael iddyn nhw yn y gymuned wedi’r achos yn y llys a dyna yr adeg pan bod angen cymorth arnyn nhw i symud ymlaen â'u bywydau".
Esboniodd fod "unrhyw drosedd trais a thrais rhywiol yn gallu cael effaith hirdymor ar unigolion ac maen rhaid i ni sylweddoli fod angen cymorth i gyd-fynd efo nhw pa bynnag hir fod isie arnyn nhw".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl pwrpasol", ond eu bod wedi "sefydlu Rhaglen Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer rhai sydd wedi goroesi ymosodiad rhywiol".
Ychwanegodd llefarydd: "Rydyn ni hefyd wedi ariannu Straen Trawmatig Cymru sydd â'r nod o wella iechyd a lles pobl o bob oedran sydd â risg o ddatblygu neu sydd ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
"Mae'r Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru a Straen Trawmatig Cymru wrthi'n edrych ar sut allwn ni wella mynediad i wasanaethau ar gyfer rhai sydd wedi goroesi ymosodiad rhywiol.”
Yn y cyfamser mae Charlotte yn dal i ddisgwyl am help arbenigol.
Ei gobaith yw cychwyn caffi cyn hir yng nghanolfan Shadows yn Nyffryn Aman ar gyfer pobol sydd â phroblemau iechyd meddwl.
"Rwy'n gobeithio gallu dechrau edrych ymlaen i'r dyfodol.
"Rwy' wedi treulio amser hir just yn llusgo byw o un diwrnod i'r llall. Bydde fe yn braf gallu just gweld y darlun ehangach."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC neu mi allwch chi ffonio 0800 077 077 am ddim unrhywbryd i glywed gwybodaeth wedi'i recordio.