Disgwyl brwydr agos yn etholaeth newydd Caerfyrddin

Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl brwydr yn yr etholaeth newydd, sy'n cynnwys tref Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd

"Wyt ti'n cofio sgwâr Caerfyrddin?" ydy geiriau'r gân - pan gipiodd Gwynfor Evans sedd gyntaf Plaid Cymru yng Ngorffennaf 1966 mewn isetholiad hanesyddol.

Mae enw'r hen etholaeth wedi ei hatgyfodi ond gyda ffiniau newydd.

Mae sedd Caerfyrddin yn cwmpasu trefi fel Caerfyrddin, Llandeilo a Rhydaman, ynghyd ag ardaloedd gwledig tu hwnt.

Brwydr fydd hi rhwng Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr, ond mae yna farc cwestiwn a fydd yr aelod seneddol presennol dros ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a chyn-aelod o Blaid Cymru yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol.

Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Edwards yn teimlo bod ganddo "bleidlais bersonol gryf iawn"

Mae Jonathan Edwards wedi ennill pedwar etholiad, heb golled. Ond mae'n dal i ystyried a fydd yn sefyll yn erbyn ei hen blaid.

Dywedodd Mr Edwards: "Gall unrhyw beth ddigwydd, mae gennai bleidlais bersonol gryf iawn yn yr ardaloedd dwi wedi gwasanaethu."

Ychwanegodd Mr Edwards y bydd yn gwneud penderfyniad yr wythnos nesaf a fydd yn sefyll fel ymgeisydd.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae cyfle yn fan hyn i droi Sir Gaerfyrddin yn wyrdd unwaith eto," meddai Ann Davies

Yn gobeithio dilyn yn ôl traed un o fawrion y Blaid ydy'r ffarmwraig Ann Davies.

Mae'n dweud ei bod hi wedi cael ymateb da wrth ymgyrchu, ac na fydd hi'n poeni pwy arall sydd yn sefyll.

"Fe wnaethon ni pôl piniwn yn ôl ym mis Ionawr oedd yn dangos fy mod i ar y blaen ac felly mae'n bwysig i ni nodi bod yna gyfle yn fan hyn i droi Sir Gaerfyrddin yn wyrdd unwaith eto fel gwnaeth Gwynfor yn 1966," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Hart yn aelod o lywodraeth Rishi Sunak ar hyn o bryd

Gobeithio manteisio ar y rhwyg rhwng Plaid Cymru a Jonathan Edwards mae cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru.

Dywedodd Simon Hart: "Jonathan fydd yn penderfynu, mae e wedi bod yn AS yna am dipyn, wneith o benderfynu be' wneith o.

"Bydd y ffrae barhaus o fewn Plaid Cymru yn llosgi am amser hir.

"Cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, mae fy swyddfa yn yr etholaeth, dwi'n nabod y lle'n dda iawn, dwi wedi gweithio yno ers dros 30 mlynedd.

"Dwi eisiau perswadio pobl, os mai diogelwch eu teuluoedd a'u swyddi y maen nhw eu heisiau, dwi'n gynnig credadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Martha O'Neill mai ras rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr fydd yn yr etholaeth

Menyw ifanc o Rydaman ydy ymgeisydd Llafur. Mae hi'n mynnu taw brwydr ydy hon ynglŷn â phwy fydd yn meddiannu Rhif 10.

Dywedodd Martha O'Neill: "Y fwyaf ni'n siarad â phobl ar y drysau, y fwyaf mae e'n amlwg fod pobl yn deall fod hwn, really, yn gwestiwn rhwng Rishi Sunak a Keir Starmer.

"A os ni moyn sicrhau bod Rishi Sunak mas o Rif 10 yn y chwe wythnos nesaf, mae'n rhaid i ni wneud siŵr bod ni'n ethol pobl o'r blaid Lafur.

"Felly i fi, mae'n teimlo fel ras rhwng y Ceidwadwyr a Llafur yn fan hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Reform yn apelio at "Geidwadwyr sydd wedi'u dadrithio", meddai Bernard Holton

Gobeithio dwyn seddi gan y Ceidwadwyr a chynnig opsiwn arall fydd ymgeiswyr plaid Reform a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Bernard Holton o'r blaid Reform: "Y bobl y bydden ni'n apelio atynt yw Ceidwadwyr wedi'u dadrithio - mae hynny'n sicr.

"Ond mae hefyd llawer o bobl dosbarth gweithiol - pobl â swyddi arferol sy'n poeni am faint o dreth maen nhw'n ei thalu a chyn lleied maen nhw'n ei gael iddyn nhw eu hunain a pha mor dda yw'r gwasanaethau."

Disgrifiad o’r llun,

"Ni fydd pleidlais dros y Democratiaid Rhydfrydol yn cael ei wastraffu," meddai Nick Bennett

Dywedodd Nick Beckett o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bleidlais dros gymdeithas decach ac ni fydd yn cael ei gwastraffu."

Heb os, mae'r darlun difyr hwn yn mynd i greu ras i'w chofio.

Disgrifiad o’r llun,

"Wrth gwrs, gan fod hi'n etholaeth newydd, mae'n anodd iawn rhagweld," meddai Dr Elin Royles

Dywedodd Dr Elin Royles: "Mae hon falle'n un o'r pum etholaeth fwyaf ymylol yng Nghymru yn sgil y newid etholaethau ac mae'r arolygon diwethaf sy'n gosod Llafur falle'n cael 43% o'r bleidlais a Phlaid Cymru ar 14% yn argoeli yn y sedd yma bod hi'n debyg o fod yn agos iawn rhwng y ddwy blaid yna.

"Wrth gwrs, gan fod hi'n etholaeth newydd, mae'n anodd iawn rhagweld. Mae o'n mynd i fod yn hynod o gystadleuol rhwng y ddwy blaid yna."

A fydd Caerfyrddin yn wyrdd, yn goch neu'n las?

Dyna'r cwestiwn i etholwyr sedd Caerfyrddin.

Dadansoddiad Daniel Davies, gohebydd gwleidyddol

Dyma un o’r seddi i’w gwylio yn ystod yr ymgyrch.

Mae’n bosibl y bydd 'na frwydr rhwng y tair plaid fwyaf – Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru – yn yr etholaeth newydd hon.

Mae’r sedd yn cynnwys hen etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr – etholaeth o gymunedau glofaol a enillwyd gan Blaid Cymru ym mhob etholiad ers 2001.

Y cynghorydd lleol Ann Davies yw ymgeisydd Plaid Cymru y tro hwn. Fe fydd Llafur yn gobeithio bod eu hymgeisydd nhw, Martha O’Neill, gallu stopio Plaid rhag cadw’r sedd.

Ond mi all cyn-aelod seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, gymhlethu pethau iddi. Dyw e ddim wedi cadarnhau eto os fydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol.

Mae gorllewin yr etholaeth yn cynnwys rhan o’r hen etholaeth o Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Aelod Seneddol y sedd honno – Simon Hart, prif chwip llywodraeth Rishi Sunak –  yw ymgeisydd y Ceidwadwyr.

Pynciau cysylltiedig