Etholiad: Ble fydd y pleidiau'n targedu yng Nghymru?

Rishi SunakFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rishi Sunak wedi bod ar ymweliad â bragdy yn ne Cymru ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Gyda Rishi Sunak wedi tanio'r gwn ar gyfer ymgyrch etholiadol arall, mae chwe wythnos brysur o ymgyrchu wedi dechrau.

Os yw Syr Keir Starmer am wireddu ei obeithion o fod yn brif weinidog Llafur, yna fe fydd y canlyniadau yng Nghymru yn holl bwysig iddo.

Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019 fe drodd nifer o seddi Llafur traddodiadol yn las, ond mae'r arolygon barn yn awgrymu y bydd 'na dipyn mwy o goch i'w weld yng Nghymru y tro hwn.

Gyda nifer aelodau seneddol Cymru yn disgyn o 40 i 32, mae ffiniau'r rhan fwyaf o etholaethau wedi newid hefyd, heblaw am Ynys Môn.

Ond mi fydd Llafur yn gobeithio gallu cipio etholaethau newydd y gogledd-ddwyrain - Bangor Aberconwy, Dwyrain Clwyd, Gogledd Clwyd a Wrecsam.

Roedd Nia Griffith, aelod Llafur dros Lanelli, o'r farn fod gan Lafur "gynllun cryf iawn" wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nia Griffith AS fod y Blaid Lafur yn "barod i fod mewn llywodraeth"

"'Da ni yn barod i fod mewn llywodraeth, yn barod i ymgyrchu yn galed iawn yn yr etholiad i sicrhau bod pobl yn cael y dewis a'u bod nhw'n gallu gweld beth yw ein polisïau ni," meddai.

Dywedodd fod "pobl yn gweld bod y Torïaid wedi methu, wedi gwneud cawl o bethau ac am weld newid a sefydlogrwydd, a moyn gweld y syniadau newydd sydd gennym ni".

"Mae'n rhaid i ni weithio fel tîm ac os y'n ni am fod mewn rheolaeth mae'n rhaid cael disgyblaeth dda, a dyna sydd gennym ni yn Syr Kier Starmer."

Disgrifiad o’r llun,

Gyda nifer aelodau seneddol Cymru yn disgyn o 40 i 32, mae ffiniau'r rhan fwyaf o etholaethau wedi newid hefyd

Mi fydd hi'n frwydr dair ffordd ar Ynys Môn, ond mae'n sedd y bydd Plaid Cymru yn gobeithio ei hennill os ydyn nhw'n cael canlyniad da.

Yn y de mi fydd hi'n werth cadw llygad ar Ganol a De Sir Benfro, Bro Morgannwg a Sir Fynwy - seddi dau gyn-ysgrifennydd gwladol yn Stephen Crabb ac Alun Cairns, a'r un presennol David TC Davies.

Ar noson wael i'r Ceidwadwyr fe allai'r tri fod dan fygythiad.

Dywed Samuel Kurtz, aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn y Senedd, fod "angen bod yn bositif i ddangos i bobl beth mae'r Ceidwadwyr wedi gwneud gyda'u polisïau nhw fel chwyddiant, sy'n dod lawr, a'r stori economaidd, sy'n cryfhau yn well na gwledydd eraill yn Ewrop a'r byd".

Dywedodd ar Dros Frecwast fod y "Prif Weinidog Rishi Sunak yn glir iawn ynglŷn â'i priorities e i dorri chwyddiant a thyfu'r economi" a bod yr "ystadegau yn dangos bo' hynny'n digwydd".

"A beth yw'r alternative? Achos ar hyn o bryd mae beth sydd gan y blaid Lafur i'w ddweud yn eitha' gwan ar yr economi, a 'na ble fi'n meddwl y bydd yr etholiad yma yn cael ei ymladd - beth sydd nesaf i'r economi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Samuel Kurtz fod y "Prif Weinidog Rishi Sunak yn glir iawn ynglŷn â'i priorities e i dorri chwyddiant a thyfu'r economi"

Mae gan y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru siawns yn sedd newydd Caerfyrddin, ac mae'n debygol o fod yn fwy diddorol byth os yw'r cyn-aelod Plaid Cymru Jonathan Edwards yn penderfynu amddiffyn ei sedd fel ymgeisydd annibynnol.

Dydi o ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol eto, ond dwi wedi cael awgrym cryf y bydd o'n sefyll. Beth fydd hynny yn ei olygu i bleidlais Plaid Cymru?

Dywed arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "'Da ni 'di bod yn aros am y foment yma ers yn hir iawn, achos mae'n hen bryd i ni gael gwared â'r llywodraeth Geidwadol yma, lle mae blynyddoedd lawer o bolisïau creulon wedi taro pobl Cymru mor galed."

Er iddo gyfaddef ei bod hi'n "anodd codi llais, yn enwedig ar lefel y Deyrnas Unedig ar y cyfryngau torfol Prydeinig", dywedodd mai'r hyn sy'n "bwysig iawn i ni ydy ein bod ni'n cynnig rhywbeth amgen".

Aeth ymlaen i ddweud: "Mae'r Ceidwadwyr yn gorfod mynd - mae eu hamser nhw wedi dod - ond 'da ni hefyd yn gwybod o brofiad bod Llafur yn cymryd Cymru yn ganiataol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhun ap Iorwerth fod yn "rhaid cael y llais yna yn San Steffan yn mynnu y tegwch mae Cymru ei angen"

A beth am y Democratiaid Rhyddfrydol? Oes 'na obaith iddyn nhw gael Aelod Seneddol Cymreig unwaith eto?

Gallwn ddisgwyl gweld lot fawr o felyn yn Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe - cadarnle iddyn nhw yn y gorffennol ac un o'u prif seddi targed y tro hwn.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds fod y blaid yn "gobeithio ennill seddau a'n mynd i fod yn ymgyrchu'n galed yn ein cymunedau".

"Bydd y rhan fwyaf y bobl sydd wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr ddim eisiau rhoi eu pleidlais y tro yma i Lafur felly mae ganddo'n ni gyfle i siarad gyda nhw a sicrhau mai ni ydy'r dewis.

"Dydy pobl ddim yn gweld gwahaniaeth rhwng y Torïaid a Llafur, felly maen gyfle i ennill eu pleidleisiau nhw hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jane Dodds mai "Curo'r Ceidwadwyr ydy'r prif beth i ni"

Mae'n werth cadw golwg ar blaid Reform hefyd.

Dy'n nhw ddim yn debygol o ennill sedd, ond faint o gefnogaeth fydd 'na iddyn nhw, a chefnogaeth pwy fydden nhw'n ei ddwyn?

Mae 'na rai aelodau Llafur yng nghymoedd y de yn poeni y gallen nhw golli pleidleisiau i'r blaid oedd yn arfer cael ei hadnabod fel Plaid Brexit.

Mae un peth yn sicr - mae wythnosau difyr o'n blaenau.