Rhestrau aros ar eu lefel uchaf am ail fis yn olynol

Claf mewn ystafell aros ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae rhestrau aros am driniaeth ysbyty yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed ar yr ail fis yn olynol.

Mae cynnydd hefyd yn nifer y cleifion sy'n aros hiraf am driniaeth, gyda'r nifer sydd wedi bod yn disgwyl am dros flwyddyn ar ei lefel uchaf ers dechrau 2023.

Mae nifer y cleifion sydd wedi gorfod aros am dros ddwy flynedd wedi cynyddu hefyd, ar ôl bod yn gostwng am ddwy flynedd cyn hyn.

Ym mis Ebrill roedd 775,031 o driniaethau eto i'w cwblhau - ffigwr sy'n cynnwys cleifion sydd ar fwy nag un rhestr aros.

602,900 felly yw'r amcangyfrif ar gyfer nifer yr unigolion sy'n aros am driniaeth - ffigwr sydd ynddo'i hun hefyd yn torri record.

O ran cleifion dan feddygon ymgynghorol arbenigol, roedd 21.2% yn aros am o leiaf blwyddyn yng Nghymru, o'i gymharu â 4% yn Lloegr.

Roedd 21,289 wedi aros am dros ddwy flynedd - 275 yw'r ffigwr yn Lloegr.

Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos bod amseroedd ymateb gwasanaeth ambiwlans Cymru yr ail waethaf erioed ers cadw cofnodion.

Yn achos galwadau coch, ble mae bywyd yn y fantol, dim ond mewn 45.8% o'r achosion y cyrhaeddodd ambiwlans o fewn y targed o wyth munud.

Roedd yna dros 24,760 o oriau "coll" wrth i griwiau ambiwlans orfod aros tu allan i adrannau brys.

Dyma'r cyfnodau o oedi ar ben y 15 munud cyntaf wrth i griwiau orfod aros i drosglwyddo cleifion i ofal ysbyty.

Ffynhonnell y llun, EPA

Mae amseroedd aros yn yr adrannau brys eu hunain hefyd wedi gwaethygu o'i gymharu â'r mis blaenorol.

Dim ond 69.7% o gleifion gafodd eu trin, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn y targed o bedair awr.

Bu'n rhaid i dros 10,500 aros yn hirach na 12 awr, sy'n gynnydd eto mewn mis.

Does dim gwella ychwaith o ran cyrraedd targedau trin canser.

53.8% o gleifion oedd wedi dechrau ar gwrs o driniaeth lai na deufis ers iddyn nhw gael eu hamau o fod â chanser.

Dan y cynlluniau i adennill tir wedi'r pandemig, mae'r GIG yn anelu at sicrhau bod neb yn gorfod aros am apwyntiad allanol, ond fe fethodd â chyrraedd y nod hwnnw hefyd.

Bu cynnydd eto yn y rhestr aros yna wrth i'r ffigwr godi i 65,111.

Ystadegau 'siomedig'

Dywedodd Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru bod y ffigyrau'n rhai "sobreiddiol", a bod angen addewidion gan lywodraethau i ystyried y tymor hir.

"Mae gweithgaredd y GIG ar lefelau uchel eithriadol, "meddai. "Ni allai gadw i fyny gyda'r lefelau mwyaf erioed o alw yn dod trwy'r drws blaen."

Mae'r ffigyrau, medd Llywodraeth Lafur Cymru, yn "siomedig" ac yn dangos bod "ffordd bell eto i fyd i leihau amseroedd aros hir a gynyddodd yn ystod y pandemig".

Dywedodd llefarydd bod gwyliau'r Pasg ddechrau Ebrill a "lefelau galw digynsail" yn ffactorau, ac mai dim ond unwaith o'r blaen y gwelwyd ffigwr dyddiol mor uchel ar gyfartaledd o ran cyfeiriadau newydd am driniaeth.

Beio "camlywodraethu llwyr Llafur" am yr ystadegau mae Mabon ap Gwynfor - llefarydd iechyd Plaid Cymru - sy'n dweud y bydden nhw'n recriwtio 500 o feddygon teulu ychwanegol ac yn rhoi mwy o dâl i weithwyr gofal.

Oni bai bod y llywodraeth yn "mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol" o ran gofal iechyd ac eilradd, meddai, "bydd rhestrau aros yn parhau i dyfu".

Pynciau cysylltiedig