Enwau lleoedd: Oes angen ffurfiau Cymraeg a Saesneg?
- Cyhoeddwyd
Dylem anelu at un ffurf o enwi lleoedd pan fod ond ambell i lythyren o wahaniaeth rhwng y ffurfiau Cymraeg a'r Saesneg, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.
Roedd Jeremy Miles yn ymateb i ddeiseb sy'n galw am ddefnyddio "enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru".
Cyflwynwyd y ddeiseb i Senedd Cymru gan Mihangel ap Rhisiart, ar ôl casglu 1,397 o lofnodion.
Mewn llythyr at gadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, Jack Sargeant, dywedodd Mr Miles bod yna "rhai enghreifftiau, lle mae ynganiad enwau Cymraeg a Saesneg ar dref neu ddinas mor debyg i'w gilydd bod dadl gref dros lynu at un sillafiad".
Ychwanegodd ei fod yn credu "y gall wneud synnwyr i lynu at y sillafiad Cymraeg".
'Dangos parch tuag at Gymru'
Mae sawl enghraifft o ddinasoedd, trefi a phentrefi yng Nghymru sydd ag enwau Cymraeg a Saesneg sy'n cael eu sillafu a'u hynganu yn debyg iawn yn y ddwy iaith, gan gynnwys; Caerffili - Caerphilly, Merthyr Tydfil - Merthyr Tudful, a Treorci - Treorchy.
Dywed y ddeiseb: "Byddai hyn yn dangos parch tuag at Gymru, fel cenedl sydd â'i hanes a'i diwylliant ei hun; a byddai'n cydnabod rhai o'r ffyrdd y mae Cymru wedi dioddef gorthrwm diwylliannol yn hanesyddol o ran ei hiaith a'i diwylliant.
"Yn y lle cyntaf, gallai pobl barhau i ddefnyddio enwau Saesneg yn ôl eu harfer.
"Fodd bynnag, ym mhob cyd-destun swyddogol, ac yn y cyfryngau llafar ac ysgrifenedig, dylid defnyddio'r enwau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer lleoedd yng Nghymru."
Mae sylwadau Mr Miles yn cyd-fynd â'r egwyddor sy'n cael ei hyrwyddo gan Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones.
Ond mae Gweinidog y Gymraeg yn rhybuddio bod y rhain yn aml iawn yn "faterion lleol".
"Rydyn ni wedi gweld yn y gorffennol sut y gall newid dim ond un llythyren mewn enw tref neu bentref, neu ychwanegu cysylltnod er mwyn cysoni orgraff, arwain at anghydweld chwyrn mewn cymunedau lleol," meddai Mr Miles.
"Rwy'n dal i gredu, felly, bod angen canfod ffordd o adlewyrchu'r ystod eang o safbwyntiau a goblygiadau sy'n bodoli."
Beth yw'r enw gwreiddiol?
Mewn achosion lle mae yna enwau gwahanol yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer yr un dref neu ddinas, mae Mr Miles yn nodi "nid yw'n eglur bob tro beth yw'r enw 'gwreiddiol' ar anheddiad penodol".
Mae'n crybwyll enghraifft Caerdydd: "Mae'r enw modern Cymraeg Caerdydd yn dod o'r ffurf Gymraeg canoloesol, Caerdyf, sydd yn y Saesneg wedi datblygu'n Cardiff (gyda'r 'f' Cymraeg yn cael ei drosi'n 'ff' Saesneg).
"Byddai'n anodd pennu, felly, pa un o'i ffurfiau modern sy'n glynu agosaf at y ffurf 'wreiddiol' yn yr achos hwn.
"Ac o hepgor yr enw 'Saesneg' modern, gellid dadlau ein bod hefyd yn dileu cysylltiad â ffurf ganoloesol Gymraeg enw'r ddinas."
Ychwanegodd: "Yr hyn yr wyf i wedi'i ddysgu wrth ymdrin ag enwau lleoedd yw bod gan bob enw unigol ei hanes unigryw."
Dywedodd Mr ap Rhisiart wrth y BBC yn gynharach eleni bod hwn yn bwnc allai fod yn gymhleth ond bod ei syniad yn ei hanfod yn un syml.
"Y cyfan yr ydw i yn ei ddweud yw - beth bynnag yw yr enw does dim angen dau enw ar un lle," meddai.
Mae Mr ap Rhisiart yn pwysleisio y gallai pobl barhau i ddefnyddio enwau Saesneg yn ôl eu harfer, ond ei fod am weld yr enw Cymraeg ym mhob cyd-destun swyddogol ar gyfer lleoedd yng Nghymru.
"Dwi ddim yn trio cael pobl i newid eu harferion. Jyst rhywbeth swyddogol dwi'n siarad amdano, er enghraifftjyst cael un enw ar arwydd yr heol."
Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026, dolen allanol Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd yn "gweithredu i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg" a'r Cytundeb Cydweithio, dolen allanol gyda Phlaid Cymru'n datgan y bydd yn "gweithredu i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am roi cyngor ar y ffurfiau safonol o enwau lleoedd yng Nghymru, ac mae rhestr o ffurfiau safonol enwau Cymraeg pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru ar gael ar-lein, dolen allanol.
Wrth siarad ar raglen BBC Dros Frecwast dydd Llun, dywedodd Efa Gruffudd Jones "wrth i ni bennu enwau llefydd newydd e.e. 'stadau tai neu etholaethau seneddol, ein bod ni o hyn ymlaen yn pennu enwau Cymraeg yn unig ar lefydd newydd".
Ychwanegodd fod gan "awdurdodau lleol rôl mewn enwi llefydd a weithie ma' 'na sail hanesyddol i ddwy fersiwn yr enw felly dyw hi ddim bob amser yn hawdd i bennu un enw".
"Mae 'na sawl trefn ar gael ac mae'n bwysig cymryd ystyriaeth leol a barn leol ond hefyd yn bwysig i sicrhau cysondeb ar draws Cymru."
Sefydlodd y Comisiynydd banel o arbenigwyr i weithio ar ffurf safonol enwau lleoedd Cymru a gwneud argymhellion arnynt.
Mae'r panel hefyd yn defnyddio Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru.
Mae Adran 9 - Ffurfiau deuol yn nodi'r cyngor hwn i'r panel ei ystyried: "Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a'r ffurf 'Saesneg', gan dueddu at y ffurf Gymraeg.
"Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau'r Priffyrdd. Eithr dylid cydnabod amrywiadau sefydlog (Caeriw/Carew, Biwmares/Beaumaris, Y Fflint/Flint, Wrecsam/Wrexham)."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022