Her hwylio yn magu hyder wrth frwydro gorbryder
- Cyhoeddwyd
Mae merch o Sir Benfro yn gobeithio gosod record fel y fenyw ieuengaf i hwylio ar ei phen ei hun o amgylch y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Yn 21 oed, mae Freya Terry yn dechrau ei siwrnai o farina Neyland, gan deithio 2,300 o filltiroedd morol.
Ond mae’n llawer mwy na ras i Freya, gan fod hwylio yn rhoi hyder iddi ddelio â gorbryder ac iselder.
Mae’n bwriadu bwrw angor mewn degau o gymunedau yn ystod ei thaith er mwyn siarad gyda grwpiau am ei hiechyd meddwl.
'Trafferth cyfathrebu'
Bellach yn hyfforddwraig hwylio, dechreuodd Freya ddioddef gyda’i hiechyd meddwl yn 11 oed.
“Roedd nifer o bethau bach wedi digwydd, yna ges i drafferth wrth ddechrau’n yr ysgol uwchradd a hefyd gwneud ffrindiau," meddai.
“Ro'n i’n ynysu fy hun, dyna lle dechreuodd fy mrwydrau, ac fe waethygodd pethau."
Dywedodd Freya nad oedd yn gallu siarad â theulu, ffrindiau, neu weithwyr iechyd proffesiynol.
“Ro'n i’n cael trafferth cyfathrebu â nhw am gyfnod hir.
“Doedd dim modd i fi ymddiried mewn pobl, ro'n i’n eistedd mewn swyddfa therapydd a doeddwn i ddim yn siarad â nhw."
Disgrifiodd Freya nosweithiau lle byddai'n rhedeg i ffwrdd heb ddweud wrth neb, gan hunan niweidio, a'i guddio rhag pawb.
Dywedodd mai dim ond yn y blynyddoedd diwethaf, fel oedolyn, y mae hi wedi dod o hyd i gefnogaeth gan Brosiect Amethyst yn Aberteifi.
“Fe weles i nad oeddwn i ar fy mhen fy hun," meddai.
"Roedd pobl eraill yn cael trafferth hefyd ac nid fy mai i oedd e bod hyn yn digwydd, roedd yn gam enfawr i fi.”
'Teimlad anhygoel'
Mae hwylio wedi bod yn beth cyson ym mywyd Freya dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Mae’n dweud bod y gamp wedi rhoi hyder iddi, yn enwedig wrth hyfforddi eraill.
“Wrth sefyll i fyny a siarad am hwylio – mae’n deimlad anhygoel bod bobl wedi gwrando a dysgu gen i.”
Tra ar ei thaith bydd Freya yn aros mewn tua 80 o gymunedau dros y pum mis nesaf i siarad gyda grwpiau am ei hiechyd meddwl ei hun, yn y gobaith o “ddechrau sgwrs” ymhlith pobl ifanc.
Un sy’n falch iawn o ddatblygiad Freya yw ei mam, Julie Campbell. Dywedodd ei bod wedi ei “syfrdanu’n llwyr” gyda’i hyder.
Ychwanegodd nad oedd wedi dychmygu y byddai ei merch yn ymgymryd â her debyg.
“Am gyfnod doedden ni ddim yn edrych i’r dyfodol. Roedden ni’n ymdopi wrth fynd o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, o fis i fis,” meddai.
Dywedodd Julie fod ganddi hyder yn sgiliau hwylio Freya, ond fel mam, mae'n nerfus iawn am y daith.
I Freya, bod allan ar y tonnau yw’r peth cyffrous, rhannu ei thaith ag eraill sy’n achosi’r pryder mwyaf iddi.
“Y peth dwi’n fwyaf nerfus yn ei gylch yw siarad â phobl am iechyd meddwl oherwydd mae’n beth anodd iawn, ond dwi’n bwriadu gwneud e beth bynnag,” meddai.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023