Carchar i gyn-heddwas am gicio'i wraig i lawr grisiau a thorri ei chefn
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-heddwas wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a hanner am dorri cefn ei wraig ar ôl ei chicio i lawr grisiau.
Cafwyd Huw Orphan, 32 oed o'r Barri, yn euog ddechrau Medi o achosi niwed corfforol difrifol i Amy Burley, a oedd hefyd yn gweithio i Heddlu Gwent.
Dywedodd wrth y llys ei bod hi'n dal mewn poen hyd heddiw, a'i bod hi'n ei chael hi'n anodd chwarae gyda'i phlant.
Roedd Orphan wedi gwadu ymosod arni, gan ddweud ei fod wedi ei chicio ar ddamwain yn dilyn ffrae ym mis Ebrill 2020.
Ni chafodd ei ganfod yn euog o gyhuddiad mwy difrifol o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
'Ffraeo yn aml'
Clywodd y rheithgor fod y cwpl wedi cyfarfod yn 2017 tra'n gweithio i Heddlu Gwent ac wedi priodi ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Roedden nhw'n ffraeo'n aml ac wedi bod yn dadlau trwy neges destun ar y noson cyn yr ymosodiad.
Nid oedd gan Orphan unrhyw euogfarnau blaenorol, ac fe gafodd ei ddisgrifio fel "tad ymroddedig", a oedd wedi gwneud llawer o waith gwirfoddol yn ystod ei amser gyda'r heddlu.
Yn gynharach y mis hwn cafodd ei wahardd rhag ymuno ag unrhyw heddlu yn ystod gwrandawiad camymddwyn.
Bydd cais gorchymyn atal yn cael ei ystyried ar 29 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi