Hyfforddwr rygbi yn gwella wedi dau drawiad ar y galon a strôc

Victoria a Ryan Thomas gyda'u mab, TeddieFfynhonnell y llun, Eve Ash Photography
Disgrifiad o’r llun,

Victoria a Ryan Thomas gyda'u mab Teddie yn fuan wedi ei enedigaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae gwraig hyfforddwr rygbi wedi rhannu'r profiad "erchyll" wedi i'w gŵr 38 oed gael dau drawiad ar y galon a strôc o fewn dyddiau i'w gilydd.

Cafodd hyfforddwr Clwb Rygbi Pont-y-pŵl, Ryan Thomas, ei ruthro i'r ysbyty gan ei wraig, Victoria, fis Tachwedd ar ôl cael poenau yn ei frest a thrafferth anadlu yn dilyn sesiwn yn y gampfa.

Dywedodd Mrs Thomas ei bod wedi cael gwybod gan ddoctoriaid yn wreiddiol ei bod yn annhebygol y byddai ei gŵr yn goroesi.

Mae'n parhau yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbrân, ac nid yw'n medru cerdded bron i ddeufis wedi'r digwyddiad.

Ond mae bellach yn gwella, ac mae'r teulu'n troi eu golygon at sicrhau bod modd iddo ddod yn ôl adref ac yn gallu chwarae gyda'u mab tair oed.

Ffynhonnell y llun, Victoria Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Ryan Thomas 21 sioc i'w galon gan beiriant diffibriliwr wedi i'w galon stopio curo am awr

Dywedodd Mrs Thomas ei bod wedi penderfynu mynd â'i gŵr i'r ysbyty wedi iddo edrych "yn llwyd, ac yn cael poenau yn ei frest" wedi sesiwn yn y gampfa gydag aelodau o'r tîm rygbi ar 7 Tachwedd.

"Es i nôl diod o ddŵr i Ryan yn yr ardal aros, a phan ddes i yn fy ôl, roedd e wedi cwympo'n swp i'r gadair, yn gwneud synau rhyfedd a ddim yn ymateb, felly nes i sgrechian am help.

"Fe gymrodd staff meddygol e mewn yn syth a dechrau gweithio arno."

Ei galon wedi stopio am awr

Derbyniodd Mr Thomas 21 sioc i'w galon gan beiriant diffibriliwr er mwyn adfer rhythm arferol, wedi i'w galon stopio curo am awr.

"Mae Ryan yn ffit ac yn iach, prin mae e'n yfed ac mae'n mynd i'r gampfa yn gyson ac yn edrych ar ôl ei hun gyda deiet da," meddai ei wraig.

"Dwi methu credu fod hyn wedi digwydd i rywun sydd yn ffit ac yn iach."

Ffynhonnell y llun, Pontypool RFC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ryan Thomas yn chwarae i Glwb Rygbi Pont-y-pŵl cyn ymuno â'r tîm hyfforddi

Roedd Mr Thomas yn chwarae i Glwb Rygbi Pont-y-pŵl cyn iddo ymddeol oherwydd anaf, ond fe ddechreuodd rôl fel rheolwr y tîm ar ddechrau'r tymor.

Mae Ryan a Victoria wedi bod gyda'i gilydd ers 16 mlynedd ac wedi priodi ers wyth mlynedd, ac mae ganddyn nhw fab tair oed, Teddie.

Tra'r oedd Mr Thomas mewn coma yn yr uned gofal dwys, fe gafodd ail drawiad ar y galon dridiau ar ôl y cyntaf ddiweddarach.

Dangosodd sgan CT ei fod hefyd wedi cael strôc ddifrifol.

Rhybuddiodd meddygon bod unrhyw driniaeth bellach yn risg enfawr, a allai arwain at waedu difrifol.

Cafodd Mrs Thomas wybod ei bod hi'n annhebygol y byddai ei gŵr yn goroesi.

Codi arian i helpu ei adferiad

Roedd mewn coma am bum wythnos, ond mae bellach yn gwella ac mae disgwyl iddo gael ei symud i ysbyty cymunedol Ystrad Fawr yn fuan i barhau â'r broses.

Dywedodd Mrs Thomas fod meddygon wedi rhybuddio y gallai ei safon bywyd gael ei effeithio yn y dyfodol oherwydd y strôc, ond mae hi'n obeithiol y bydd modd iddo wneud gwellhad llawn.

"Mae'n edrych yn dda a dyw ei leferydd ddim wedi'i effeithio," meddai.

"Rwy'n gwybod y bydd e'n awyddus i gerdded eto cyn gynted â phosib - bydd e eisiau gallu chwarae gyda Teddie."

Ond bydd gwella yn broses hir, ac mae'r teulu'n codi arian er mwyn talu am ffisiotherapydd niwrolegol i helpu gyda'i adferiad ac addasu eu cartref yn New Inn ger Pont-y-pŵl.

Mae eu tudalen codi arian eisoes wedi casglu bron i £27,000, a dywedodd Mrs ei bod wedi'i syfrdanu gan y gefnogaeth.

"Mae pobl yn meddwl y byd o Ryan - mae'n hoffus, mae'n boblogaidd, ac mae pobl yn ei adnabod," meddai.

"Fi'n gwybod mai fy ngŵr i yw e, ond mae e wir yn berson mor garedig."

Ychwanegodd fod y clwb rygbi hefyd wedi rhoi cefnogaeth a chymorth ariannol.

Dywedodd Tom Hancock, prif hyfforddwr Clwb Rygbi Pont-y-pŵl bod gweld y teulu'n mynd trwy gyfnod mor anodd "wedi rhoi'r cyfle i ni ddangos faint mae Ryan yn ei olygu i ni".

"Mae'n berson arbennig, ac mae wedi bod yn hanfodol o ran helpu cymaint o bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r clwb.

"'Dyn ni wrth ein boddau ei fod yn gwella, a methu aros i'w weld nôl gyda ni."

Pynciau cysylltiedig