'Cafodd Mamgu sawl strôc - o'n i ddim yn disgwyl cael un yn 31'
- Cyhoeddwyd
Mae mam ifanc a gafodd strôc wedi bod yn trafod pwysigrwydd siarad gyda phobl sydd wedi mynd drwy'r un profiad.
Yn gynharach eleni, llai na chwe mis ar ôl priodi, fe gafodd Angharad Dennis strôc - ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn 32.
Roedd siarad gyda phobl eraill oedd wedi dioddef yn help iddi drafod ei phrofiad gyda'i theulu - yn enwedig gyda'i merch fach Cari, oedd yn chwech oed ar y pryd.
Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod traean o'r bobl sydd wedi cael strôc yn dweud bod siarad gydag eraill yn allweddol i’w gwellhad.
Ar Ddiwrnod Strôc y Byd, mae’r Gymdeithas Strôc yn ceisio tynnu sylw at bwysigrwydd siarad, yn enwedig gyda rhai sy’n deall y profiad.
Roedd Angharad Dennis, o Gasllwchwr yn Abertawe, a'i theulu wedi dod adre o barc safari fis Mawrth, pan gafodd ei tharo'n wael gyda'r nos.
Mae'n disgrifio teimlo fel petai'n feddw, er nad oedd hi wedi yfed alcohol, a gweld yr ystafell wely'n troi.
Doedd hi ddim yn gallu symud un o'i breichiau ac un o'i choesau, ac fe symudodd ochr o'i hwyneb i lawr.
“Achos bod Mamgu wedi cael sawl strôc, ro’n i wastad yn meddwl bod risg uwch i fi," meddai.
"Felly o’n i wastad yn meddwl y gallen i gael un rywbryd yn fy mywyd, ond ddim yn 31 oed...
"O'dd dim byd oedd wedi gwneud i mi feddwl y galle rhywbeth mor traumatic a mawr ddigwydd ar y cyfnod yna yn fy mywyd."
Roedd hi a'i gŵr newydd briodi ychydig fisoedd ynghynt, ac mae Angharad yn cydnabod nad oedd "bywyd ddim i fod i fynd fel hyn... oedd cynllunie i'r dyfodol gyda ni".
Roedd Angharad yn yr ysbyty am ryw wythnos, a’r holl gyfnod yn anodd iddi yn gorfforol ac yn emosiynol.
“Ro’n i’n arfer llefen lot yn yr ysbyty, pan o’n i’n meddwl am fy merch, Cari," meddai.
“Ond wnaeth fy emosiynau ddim dal lan 'da fi yn iawn tan i fi ddod adre. Dyna pryd nath e' fwrw fi.
"Er bo' fi’n fam, [o'n i] ddim yn gallu gwneud pethau mae 'Mam' yn 'neud.
"Ac roedd ceisio cael fy merch i ddeall nad o’n i’n gallu gwneud pethe' penodol yn eitha' anodd.”
Siarad wedi 'achub bywyd'
Yn fuan ar ôl dod adref o'r ysbyty, fe gysylltodd gyda'r Gymdeithas Strôc i gael cymorth.
Daeth hynny drwy law Dave Jones, cydlynydd cefnogi adferiad i'r elusen.
“Pan ddaeth Dave i mewn, fy mhrif flaenoriaeth a’r her fwya' oedd, ‘sut ydw i’n siarad gyda fy merch am hyn?’" meddai Angharad.
"O’n i ddim yn gwybod sut i esbonio beth oedd strôc."
Mae ymchwil ar ran y Gymdeithas Strôc yn awgrymu mai siarad gyda rhywun sydd wedi cael strôc eu hunain - i lawer - oedd y peth pwysicaf o ran gwellhad.
“O’n i’n gwybod bod gan Dave fab ifanc pan gafodd e’r strôc... Felly o'dd e’n gallu dweud wrtha' i y strategaethau mae e' wedi cyflwyno gyda’i fab, ac o’n i’n cael fy ysbrydoli wedyn ar gyfer fy merch," ychwanegodd Angharad.
Roedd Dave Jones newydd ddod yn dad am y tro cyntaf, ac yn 36 oed, pan gafodd ddwy strôc o fewn blwyddyn i'w gilydd.
"Ro'n i'n euog o ganolbwyntio ar yr hyn nad o'n i'n gallu ei wneud [ar ôl cael strôc]," meddai.
"Ond gyda help pobl [sydd wedi cael yr un profiad], chi'n dechrau canolbwyntio ar 'falle y galla i wneud hyn, beth am roi cynnig arni'."
Ar ôl clywed ei bod hi'n annhebygol y gallai weithio eto ar ôl cael ei strôc yn 2017, mae bellach yn gweithio fel cydlynydd cefnogi gwellhad i'r Gymdeithas Strôc.
Mae'n cefnogi sawl grŵp, gan gynnwys rhai i ddynion o dan 70 oed. Ond mae oedrannau'r aelodau'n amrywio'n fawr, a rhai mor ifanc â 26 oed.
"Dywedodd un o'r dynion ar sawl achlysur, os nad oedd e' yn y grŵp, na fydde' fe yma nawr - mae'r grŵp wedi achub ei fywyd."
'Dwi'n fwy cariadus'
Yng Nghymru, mae dros 7,000 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn yn ôl y Gymdeithas Strôc, ac mae dros 70,000 o bobl yn byw gyda'r sgil-effeithiau tymor-hir.
Mae Angharad Dennis yn dweud fod y profiad wedi newid ei blaenoriaethau, yn enwedig o ran ei merch.
“Dwi isie treulio amser gyda hi... O'n i’n arfer meddwl mai ennill lot o arian, cael gwyliau a’r Nadolig gorau erioed oedd y ffordd ymlaen," meddai.
"Ond dim dyna yw e'. 'Na gyd o'dd hi isie oedd fy amser, a fi’n teimlo na fasen i wedi sylweddoli hynny, tase digwyddiad bywyd fel hyn heb ddigwydd.
"Mewn ffordd, fi’n ffeindio fe’n anodd, achos fi’n ddiolchgar o 'mhrofiad, achos mae e wedi troi fi mewn i rywun mwy tyner, cariadus, sylwgar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd26 Mai 2023