'Sut all gofalwyr wneud popeth heb mwy o help?'
- Cyhoeddwyd
Mae angen blaenoriaethu iechyd a lles gofalwyr di-dâl a chydnabod eu "cyfraniad hanfodol" i'r economi iechyd a gofal.
Dyna neges Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar drothwy cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Dywed yr ymddiriedolaeth fod 310,000 o bobl yng Nghymru yn darparu gofal, yn ddi-dâl, ar gyfer teulu, ffrindiau a chymdogion.
Bob blwyddyn, mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cyfrannu cyfwerth â mwy na £10bn o ofal i'r economi – ffigwr tebyg i'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol gyfan.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwerthfawrogi ein gweithlu gofal cymdeithasol rhagorol ac yn cydnabod y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd".
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022
Mae Emyr Brown yn gofalu am ei rieni yng nghyfraith gyda'i bartner Carol yn Llanelli ac yn gweithio gyda hwb newydd i ofalwyr yn Abertawe.
"Ni'n dau yn gweithio ac ma' swyddi gyda ni. Ni yn trio trefnu pethau fel bo' ni gallu parhau i weithio a gofalu."
Fe gafodd ei fam yng nghyfraith strôc 5 mlynedd yn ôl, ac mae gan ei dad yng nghyfraith broblemau ar y galon a'r ysgyfaint.
Mae'n dweud fod pethau'n wahanol i bawb o ran gofalu, ond iddyn nhw fel teulu "mae'n galed achos ti gorfod balanso gwaith bob dydd, pethe i 'neud gartre a gofalu".
"Ni am i'n teulu yng nghyfraith allu byw mor annibynnol ac y maen nhw'n gallu."
Dywedodd hefyd ei fod yn derbyn "lot o help" gan yr hwb yn Abertawe er mwyn "ysgafnhau'r baich".
"Galle Llywodraeth Cymru ddishgwl ar roi rhagor o arian ar gyfer canolfannau fel hyn i roi hyder nôl i ofalwyr.
"Ma' popeth yn pwyso ar eich 'sgwyddau chi fel gofalwyr, sut all gofalwyr 'neud popeth heb mwy o help?"
'Anghenion gofalwyr di-dâl yn gymhleth'
Cyfarwyddwr hwb gofalwyr Abertawe yw Ifor Glyn, sy'n dweud bod anghenion gofalwyr di-dâl "yn fwy cymhleth nag y mae pobl yn feddwl".
"Ers covid ma' cynnydd wedi bod o ran problemau iechyd meddwl a'r pwysau sy' arnyn nhw i ofalu.
"Hefyd ry' ni wedi gweld probleme difrifol am gostau byw yn y blynydde diwethaf.
"Mae pwysau hefyd ar bobl sy'n gweithio ac yn gofalu."
Mae'r hwb sydd newydd agor yn hen gapel Bethesda, Abertawe yn cynnig cyrsiau ac arbenigwyr i helpu gyda materion fel budd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant a chymorth cyflogaeth.
Ond mae Ifor Glyn yn poeni bod y galw am help a gofynion gofalwyr yn cynyddu yn ddyddiol.
"Mae llawer mwy o broblemau gyda gofalwyr nag y mae pobl yn ei ystyried."
'Cefnogaeth yn hanfodol'
Yn ôl Kate Cubage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, rhaid i'r Gyllideb Ddrafft gynnig cymorth.
Dywedodd: "Rhaid i'r Gyllideb Ddrafft wneud darpariaeth ar gyfer ail-gyllido'r Cynllun Seibiannau Byr a'r Gronfa Cymorth Gofalwyr, yn ogystal â buddsoddi yn y gwasanaethau cymorth lleol y mae gofalwyr yn dibynnu arnynt.
"Nid yw'r rhaglenni hyn bellach yn 'braf eu cael' ond maent yn rhai 'hanfodol' os ydym am gynnal ein gofalwyr di-dâl, sydd eu hunain yn llenwi bylchau yn y system gofal cymdeithasol ac yn amddiffyn ein GIG."
Mae sicrhau fod cefnogaeth ar gael i ofalwyr a'r rheiny sydd yn derbyn gofal yn hanfodol, yn ôl Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
Dywedodd: "Ry' ni'n gwybod fod gofalwyr ishe cael cefnogaeth o'u cwmpas nhw fel gofalwyr yn uniongyrchol a hefyd bod y bobl ma' nhw yn gofalu amdanyn nhw yn cael mynediad at y gwasanaethau maen nhw angen."
Ychwanegodd bod angen "mwy o gefnogaeth ariannol" ar ofalwyr, a chyfle i gael "saib".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal cymdeithasol rhagorol ac yn cydnabod y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd."