'Dwi'n ofalwr nid gwraig - alla i ddim cario mlaen'

Mae Sue Rendell eisiau gallu cael gofal i'w gŵr mewn cartref am gyfnod, er mwyn iddi gael seibiant call
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gaernarfon sydd wedi bod yn gofalu am ei gŵr ers 12 mlynedd yn dweud nad yw hi'n "gallu cario 'mlaen" dan y drefn bresennol.
Mae Sue Rendell yn galw am fwy o gyfleoedd ysbaid i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Hi ydy prif ofalwr ei gŵr Terry, sydd â chlefyd Parkinson fasgwlaidd.
Mae'n dweud, er ei hymdrechion, ei bod hi wedi methu â chanfod unrhyw gyfleoedd am ysbaid dros nos wedi'i gynllunio o flaen llaw i'w gŵr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan awdurdodau lleol "ddyletswydd" i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl a bod cynllun "seibiannau byr" ar gael.
Gyda 310,000 o ofalwyr di-dâl drwy Gymru, mae'r Aelod o'r Senedd Sian Gwenllian yn rhybuddio y gallai'r system "ddymchwel" oni bai bod mwy o gymorth yn cael ei roi i ofalwyr.
'Dwi'n berson gwahanol'
Mae Sue bellach yn gwneud popeth dros ei gŵr, sy'n methu siarad na symud yn hawdd.
O drefnu apwyntiadau, ei folchi, ei symud a'i fwydo, mae hi'n dweud ei bod hi'n gweithio 80 awr yr wythnos er ei bod wedi ymddeol.
Dywedodd bod hynny'n cael effaith ar ei hiechyd corfforol a meddyliol.
"Nes i edrych yn y mirror wythnos diwethaf ac mae gen i bags dan fy llygaid a dwi'n gw'bod dwi ddim mor patient ag oeddwn i," meddai.
"Dwi'n berson gwahanol i'r person dwi'n gwybod ydw i rŵan."

Mae Sue yn dweud ei bod yn gweithio 80 awr yr wythnos yn gofalu am ei gŵr, Terry
Ar ôl ceisio gwneud pob dim ei hun, yn ddiweddar mae Sue wedi derbyn cefnogaeth gofalwyr drwy'r awdurdod lleol ddwywaith y dydd.
Ond yr hyn mae hi wir eisiau ydy gofal ysbaid - lle byddai modd gollwng ei gŵr mewn cartref am wythnos, dair neu bedair gwaith y flwyddyn, er mwyn iddi gael seibiant call.
"Es i at y cyngor sir a dweud 'dwi angen respite, dwi angen i bob dim just stopio am ychydig'.
"Dwi'n fodlon cario 'mlaen, ond dwi'n dweud 'alla i ddim cario 'mlaen heb seibiant'.
"Ar ôl gweithio fy holl fywyd, paratoi at hwn, cario 'mlaen am dros 10 mlynedd i 'neud o ar fy mhen fy hun... pan dwi'n mynd at y cyngor am help a mynd at y sector breifat... does dim byd ar gael."
'Cwbl hanfodol'
Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod yr heriau, gan ddweud mai "nifer fechan iawn o welyau ysbaid dwys sydd ar gael,, a hynny oherwydd ei fod yn wasanaeth gofal arbenigol, a hefyd gan fod y galw am welyau parhaol yn uchel".
Ond mae pryder nad yw'r her yn unigryw i Wynedd, gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn dweud bod hwn yn bryder cenedlaethol.
"Ni'n clywed ar lawr gwlad bod o'n anodd i gael y seibiant wedi ei gynllunio," meddai Dr Catrin Edwards o'r elusen.
"Mae gofalwyr di-dâl yn cyfrannu cyfwerth â 10 biliwn o oriau o ofal bob blwyddyn, felly petai gofalwyr di-dâl ddim yn cael eu cynnal, fydda'n rhaid i'r system iechyd a gofal gamu mewn.
"Mae'n gwbl hanfodol bo' nhw'n cael seibiannau sy'n cynnal nhw."

Mae'n rhaid "deffro i'r sefyllfa", meddai Sian Gwenllian AS
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Arfon, Sian Gwenllian, wedi bod yn helpu Sue Rendell naddu'r broses ac yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu heb ymyrraeth.
"'Neith y system ddymchwel os 'da ni ddim yn dechrau cydnabod gwerth gofalwyr di-dâl a rhoi y gefnogaeth maen nhw isio," meddai.
"Dwi'n meddwl, oni bai bod ni'n deffro i'r sefyllfa yma, mae'n mynd i fynd yn argyfwng go iawn.
"Mae gofal ysbaid yn rhan bwysig o be' allwn ni fod yn rhoi fel cefnogaeth i ofalwyr."
Drwy rannu ei phrofiad mae Sue yn gobeithio y bydd gweithredu o fewn y system i ddarparu mwy o ofal ysbaid.
"Dwi just isio dwy neu dair wythnos y flwyddyn... dwi ddim yn wraig bellach dwi just yn ofalwr," meddai.
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn "deall pryderon teuluoedd mewn perthynas ag argaeledd gofal ysbaid, yn enwedig i'r rhai sydd yn byw gyda dementia a/neu gyflyrau iechyd dwys".
"Mae Cyngor Gwynedd yn adolygu ei ddarpariaeth yn gyson ac yn parhau i ymdrechu i gynyddu darpariaeth ysbaid pan mae cyfleon ac adnoddau ar gael," meddai llefarydd.
"Gallwn gadarnhau bod darpariaeth ar gyfer anghenion dwys wedi ei gynnwys yn y cynlluniau arfaethedig ar gyfer ailddatblygu safle Penyberth ger Pwllheli, ac yn ystyriaeth wrth gynllunio rhaglenni buddsoddi mewn cartrefi preswyl eraill sydd dan reolaeth y cyngor."
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gwerthfawrogi rôl holl bwysig gofalwyr di-dâl, gan ddweud bod gan awdurdodau lleol "ddyletswydd" i'w cefnogi "a hynny yn cynnwys ysbaid".
"Yn ogystal â hyn, mae ein cynllun seibiannau byr cenedlaethol yn cael effaith gadarnhaol ar les, ac wedi mynd tu hwnt i'n targedau i ddarparu 30,000 o seibiannau i ofalwyr di-dâl yn 2022-25 ac rydym wedi darparu £3.5m pellach i barhau â'r cynllun tan fis Mawrth 2026," medd llefarydd.,