Rhoi'r gorau i ymgyrch i achub tafarn yng Ngwynedd dros dro

Roedd angen i'r grŵp cymunedol gasglu £75,000 er mwyn gallu prynu'r adeilad yn y pentref ger Blaenau Ffestiniog
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch gymunedol i geisio achub tafarn hanesyddol yng Ngwynedd wedi cael ei ohirio dros dro.
Roedd ymgyrchwyr yn gobeithio prynu'r Wynnes Arms ym Manod ger Blaenau Ffestiniog, ac eisoes wedi cael addewid o £50,000 mewn grant gan Gyngor Gwynedd.
Ond dywedodd yr ymgyrchwyr ar y cyfryngau cymdeithasol fore Mawrth ei bod yn "siom fawr" eu bod yn gorfod "rhoi'r gorau i'r ymgyrch ar gyfer y Wynnes dros dro".
Dywedon nhw fod hynny oherwydd bod y dyddiad ar gyfer defnyddio'r cyllid oedd ganddyn nhw mewn egwyddor, wedi pasio.
Ychwanegon nhw fod "cryn dipyn i fynd i gyrraedd y targed", ond eu bod yn parhau i fod yn obeithiol ac yn benderfynol o wireddu'r freuddwyd.
£75,000 mewn pythefnos
Fe gyhoeddodd y grŵp cymunedol fis diwethaf bod ganddyn nhw bythefnos i gasglu £75,000 er mwyn ceisio prynu'r adeilad.
Gyda'r adeilad ar y farchnad, gobaith grŵp Wynnes Cymunedol yw ei berchnogi fel menter gymunedol.
Mae eu cynlluniau yn cynnwys creu bar a chaffi, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau, llety hostel, gweithgareddau dros dro, marchnadoedd cynnyrch, arlwywyr gwadd, a llogi ystafelloedd.
Fel nifer o dafarndai cymunedol eraill ar draws Cymru, bwriad y grŵp oedd casglu digon o arian mewn cyfranddaliadau i sefydlu busnes fydd yn cael ei redeg gan yr aelodau.
Roedd y Wynnes, a gafodd ei hagor yn 1867, yn arfer bod yn un o dafarndai mwyaf poblogaidd yr ardal, ond mae wedi ei chau ers 2017.
Ers cau'r drysau mae sawl cais cynllunio wedi eu cyflwyno i drosi'r adeilad yn fflatiau.

Roedd y Wynnes yn arfer bod yn un o dafarndai mwyaf poblogaidd yr ardal, ond mae wedi ei chau ers 2017
Dywedodd pwyllgor yr ymgyrch fore Mawrth: "Er bod angen i ni ailfeddwl ein strategaethau ariannu, rydym am ad-dalu cyfranddaliadau dros yr wythnos nesa.
Dywedon nhw hefyd y bydden nhw "mewn cyswllt gyda phawb ac ymchwilio i ffynonellau cyllid amgen".
"Mae ein hymrwymiad i droi'r Wynnes yn dafarn gymunedol yn parhau'n gadarn!
"Gyda'ch cefnogaeth barhaus, credwn yn gryf y gallwn ddod o hyd i ffyrdd newydd o wireddu'r freuddwyd hon.
"Diolch o galon am eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i ni weithio tuag at ddyfodol llwyddiannus i'n cymuned."
Ychwanegon nhw eu bod yn "diolch yn ddiffuant i Gyngor Gwynedd am roi'r cyfle am gyllideb Cronfa Ffyniant i ni fel cymuned".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi