Pythefnos i achub tafarn 'eiconig' ym Mlaenau Ffestiniog

Tafarn WynnesFfynhonnell y llun, Gwenlli Evans
  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp cymunedol yn dweud bod ganddyn nhw bythefnos i achub tafarn hanesyddol yng Ngwynedd.

Mae'r ymgyrchwyr, sy'n ceisio prynu'r Wynnes Arms, Manod, eisioes wedi cael addewid o £50,000 fel grant gan Gyngor Gwynedd.

Ond maen rhaid i'r grŵp cymunedol gasglu'r £75,000 sy'n weddill er mwyn gallu prynu'r adeilad yn y pentref ger Blaenau Ffestiniog, ac mae ganddyn nhw bythefnos i wneud hynny.

Dywedodd un o'r trefnwyr, oedd mewn cyfarfod cyhoeddus nos Fercher fel rhan o'r ymgyrch, eu bod yn gobeithio cael digon o bobl i ymuno gyda'r fenter er mwyn cyrraedd y nod.

Gwenlli Evans o flaen y dafarnFfynhonnell y llun, Gwenlli Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dafarn yn "eiconig" yn y pentref, meddai Gwenlli Evans

"Mae'n braf i weld y gymuned yn dod allan ac yn cefnogi ymgyrch sydd mor bwysig i'n cymuned ni yma," meddai Gwenlli Evans ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

"Mae'r £75,000 just er mwyn prynu'r adeilad cyn mynd ymlaen efo planiau sydd geno ni, ond dwi'n credu'n gryf fedrwn ni 'neud o.

"Mae'n ddwy wythnos rŵan, ac yn push mawr i 'neud hi.

"Mae o wedi bod ar gau ers naw i wyth mlynedd ac rydan ni wedi colli'r rhan yna o ddod at ein gilydd fel cymuned - yr elfen gymdeithasol yna.

"Dim just i yfed ond yr elfennau eraill sy'n dod efo fo."

Gwesty'r Wynnes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Wynnes Arms wedi bod yn rhan bwysig o bentref Manod, ger Blaenau Ffestiniog, ers ei sefydlu yn 1867

Roedd y Wynnes, gafodd ei hagor yn 1867, yn arfer bod yn un o dafarndai mwyaf poblogaidd yr ardal, ond mae wedi ei chau ers 2017.

Ers cau'r drysau mae sawl cais cynllunio wedi eu cyflwyno i drosi'r adeilad yn fflatiau.

Ond gyda'r adeilad ar y farchnad, gobaith grŵp Wynnes Cymunedol yw ei berchnogi fel menter gymunedol.

Mae eu cynlluniau yn cynnwys creu bar a chaffi, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau, llety hostel, gweithgareddau dros dro, marchnadoedd cynnyrch, arlwywyr gwadd, a llogi ystafelloedd.

Fel nifer o dafarndai cymunedol eraill ar draws Cymru, bwriad y grŵp ydy casglu digon o arian mewn cyfranddaliadau i sefydlu busnes fydd yn cael ei redeg gan yr aelodau.

Ers agor y cynllun cyfranddaliadau wythnos diwethaf maen nhw wedi casglu £6,000.

Dywedodd Ms Evans eu bod wedi cael cymorth a chyngor gan nifer o grwpiau cymunedol tebyg.

Meddai: "Mae tafarndai yn cael eu cymunedoli yn aml iawn ac rydan ni wedi cael nifer yn estyn allan.

"Rydan ni wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn cefnogaeth gan Tafarn Pengwern, yn Llan Ffestiniog, a lot o dafarndai cyfagos ac wedyn wedi edrych ar be' sydd wedi gweithio i bawb a sut ddaru pawb fynd o gwmpas hi. Rydan ni'n rhan o deulu fel yna mewn ffordd.

"Mae'r Wynnes reit yng nghanol y pentref, mae o ar y groesffordd ac yn rhywle sydd i fod yn gyrchfan gymunedol. I fi mae'n eiconig."

Ychwanegodd bod manylion eu cynllun busnes a ffurflen ymuno â'r fenter ar eu gwefan ac ar eu tudalen Facebook.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig