Yr hanesydd Geraint H Jenkins wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r hanesydd a'r ysgolhaig Geraint H Jenkins wedi marw yn 78 oed.
Cyhoeddodd ddegau o lyfrau ac erthyglau ar bynciau amrywiol - gan arbenigo ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar.
Yn fwyaf diweddar ysgrifennodd gofiant cynhwysfawr a thraethodd yn helaeth ar gyfraniad Iolo Morganwg i fywyd Cymru.
Ef hefyd wnaeth olygu'r gyfres Cof Cenedl: Ysgrifau ar Hanes Cymru, yr 11 cyfrol ar Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg a'r cyfrolau ar Ddiwylliant Gweledol Cymru.
Mae nifer wedi rhoi teyrngedau i Mr Jenkins, sydd wedi cael ei alw yn "un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw Cymru".
Cafodd ei fagu ym Mhenparcau a bu'n byw ym Mlaenplwyf, Ceredigion am flynyddoedd.
Astudiodd Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe cyn cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ar lenyddiaeth a chrefydd rhwng yr Adferiad a Methodistiaeth.
Bu'n Athro a phennaeth Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth am dros 25 mlynedd, cyn cael ei benodi'n gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1993.
Rhwng 1993 a 2007 bu'n gadeirydd a chyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ac fe gafodd ei ethol yn Gymrawd gan yr Academi Brydeinig yn 2002.
Bu hefyd yn aelod o Gyngor yr Academi Brydeinig ac yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru, Abertawe ac roedd yn un o aelodau sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Wedi iddo ymddeol ym Medi 2008 cafodd ei benodi yn Athro Emeritws Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru.
Roedd Geraint Jenkins hefyd yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau gan ddarlledu am chwaraeon yn ogystal â phynciau yn ymwneud â hanes.
Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar bêl-droed gan gynnwys Cewri'r Bêl-droed yng Nghymru yn 1977 a sawl llyfr ar yr Elyrch.
Roedd hefyd yn weithgar yn ei sir enedigol - roedd yn gadeirydd siop gymunedol Blaenplwyf a llywydd anrhydeddus Cymdeithas Hanes Ceredigion.
'Colled aruthrol ar ei ôl'
Wrth ei gofio dywedodd yr Yr Athro Paul O'Leary o Brifysgol Aberystwyth: "Dyn amryddawn ac awdur toreth o lyfrau ysgolheigaidd a phoblogaidd ar hanes Cymru oedd Geraint H Jenkins, ac un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw Cymru.
"Roedd e'n dipyn o ffefryn fel darlithydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a'i ddawn dweud mewn dwy iaith llawn cystal â'i huotledd wrth ysgrifennu yn y ddwy iaith.
"Hanes, llenyddiaeth, crefydd ac iaith yn y Cyfnod Modern Cynnar oedd ei faes arbenigol ac fe gyhoeddodd astudiaethau pwysig yn y maes hwnnw.
"Ymhlith y gweithiau niferus y buodd fwyaf balch ohonynt oedd y prosiect cydweithredol ar Iolo Morganwg a arweiniwyd ganddo, ac roedd e'n credu bod Iolo yn ffigwr anhepgor yn ein hanes a diwylliant."
Ychwanegodd yr Athro O'Leary: "Ond roedd ei ddiddordebau a'i gyhoeddiadau yn ymestyn ymhell tu hwnt i'w arbenigedd cychwynnol.
"Sefydlodd a golygodd y gyfres werthfawr Cof Cenedl, cyhoeddiad blynyddol oedd yn darparu gwaith o safon ar hanes Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Roedd y fenter hon yn agos at ei galon.
"Gyda'i ddiddordeb ysol ym mhêl-droed, fe gyhoeddodd lyfr ar hanes ei hoff dîm, 'The Swans'.
"Cafodd ei gydnabod gydag anrhydeddau pwysig, fel cael ei ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig a Chymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy'n dangos y parch a dderbyniodd ymhlith ysgolheigion eraill, yng Nghymru a thu hwnt.
"Bydd colled aruthrol ar ei ôl. Fe'i cofir yn bennaf am ei ysgolheictod trylwyr, ei sgiliau cyfathrebu gyda chynulleidfaoedd amrywiol a'i ymroddiad di-wyro at Gymru a'r Gymraeg."
'Gweledigaeth angerddol'
Ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, dywedodd y Cyfarwyddwr, Elin Haf Gruffydd Jones: "Gyda thristwch mawr nodwn farwolaeth yr Athro Geraint H Jenkins, cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan.
"Yn hanesydd praff ac un o ysgolheigion blaenaf ei genhedlaeth, gwnaeth gyfraniad aruthrol i ymchwil a dysg yng Nghymru, gan lywio Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru rhwng 1993 a 2008.
"Roedd yn awdur toreithiog ac yn gymwynaswr mawr i'w genedl ac ysbrydolodd genedlaethau o ymchwilwyr. Diolchwn am ei waith a'i gwmni a danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei weddw Ann ac at ei ferched a'u teuluoedd."
Dywedodd yr Athro Mary-Anne Constantine y bydd hi "wastad yn ddiolchgar i'r Athro Geraint Jenkins am fy nghyflwyno i fyd byrlymus Iolo Morganwg a chyfnod cyffrous Cymru'r 1790au".
"Treuliais bum mlynedd ar 'Brosiect Iolo' gyda thîm o ymchwilwyr gwych dan arweinyddiaeth Geraint, yn pori trwy lawysgrifau a darganfod rhyfeddodau.
"Roedd gan y ddau – Iolo a Geraint – weledigaeth angerddol am hanes a diwylliant Cymru.
"Yn ffodus inni, roedd sgiliau trefnu a llywodraethu Geraint tipyn yn well na rhai ei arwr!
"Bydd sawl un heddiw yn talu teyrnged i ddyn a oedd wedi rhoi cymaint o'i egni a'i amser i droi'r Ganolfan Geltaidd yn safle ymchwil byd-enwog, ac i sicrhau dyfodol i lawer o ymchwilwyr ar draws y disgyblaethau."
Mae'n gadael ei wraig Ann Ffrancon, a'u merched Gwenno, Angharad a Rhiannon a saith o wyrion.