Dyn yn yr ysbyty a bachgen, 17, wedi'i arestio ar ôl gwrthdrawiad

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ger Maenordeilo am 01:45 fore Sul
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 yn Sir Gaerfyrddin fore Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger Maenordeilo am 01:45 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau gar.
Ar ôl dioddef anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai "difrifol" gan yr heddlu, cafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty.
Cafodd y bachgen 17 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus ac o yrru dan ddylanwad alcohol.
Mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw dystion, neu unrhyw un a oedd yn gyrru yn yr ardal ar y pryd ac sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.