Tad wedi ceisio achub mab cyn i'r ddau foddi yn Awstralia - cwest

Cafodd Robin Reed ei lusgo i'r môr wrth geisio achub ei fab Owen
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth tad geisio achub ei fab, cyn i'r ddau ohonyn nhw foddi oddi ar arfordir Awstralia, mae cwest wedi clywed.
Bu farw Robin ac Owen Reed, o'r Coed-duon yn Sir Caerffili, yn y dŵr yn Round Hill Head yn nhref Seventeen Seventy, Queensland ar 13 Ebrill 2025.
Wrth agor y cwest i'w marwolaeth, dywedodd y crwner Rose Farmer fod Robin Reed, 46, wedi bod ar y traeth ger y Great Barrier Reef gyda'i deulu, tra bod ei blant yn chwarae yn y môr mewn dŵr "nad oedd yn ddyfnach na'u canol".
Clywodd y cwest yng Nghasnewydd fod Owen, 17, "hanner medr i ffwrdd o'r prif grŵp" pan ddaeth "ton annisgwyl gan lusgo Owen allan i'r môr".
Dywedwyd fod Robin Reed wedi "deifio i'r dŵr i geisio achub Owen, ond yna cafodd yntau ei lusgo allan i'r môr."

Bu farw'r ddau ar ôl cael eu tynnu o'r dŵr gan hofrennydd achub yr heddlu
Fe wnaeth criwiau chwilio ac achub fynychu'r safle gan dynnu'r ddau o'r môr, ond bu farw'r ddau yn y fan a'r lle.
Cafodd marwolaeth y ddau eu nodi fel achosion o foddi.
Clywodd y llys fod ymholiadau'n parhau, ac fe gafodd y cwest ei ohirio nes y bydd gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal fis Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill