Erthylu: Gwasanaeth llawfeddygol Cymru 'yw'r gwaethaf yn y DU'

Mae erthyliad yn gyfreithlon hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- Cyhoeddwyd
Mae cael erthyliad llawfeddygol ar ôl tri mis cyntaf beichiogrwydd yn anoddach yng Nghymru na gweddill y Deyrnas Unedig, yn ôl elusen flaenllaw.
Mae Gwasanaeth Ymgynghorol Beichiogrwydd Prydain (BPAS) yn dweud eu bod yn "synnu" bod Cymru yn llai blaengar na Gogledd Iwerddon, sydd ond wedi cyfreithloni erthyliad ers 2019.
Dywedodd un fenyw o dde Cymru ei bod yn teimlo "trawma" ac "euogrwydd" ychwanegol wrth feddwl am deithio ymhell am ofal meddygol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod angen gwella gwasanaethau erthylu wedi'r tri mis cyntaf, ac y dylai menywod gael gofal iechyd yn nes at adref.
Profiad 'llawn straen'
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban mae erthyliad yn gyfreithlon hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd gyda chymeradwyaeth dau feddyg.
Ond "darpariaeth gyfyngedig iawn sydd ar ôl 14 wythnos" yng Nghymru meddai BPAS.
Yng Ngogledd Iwerddon, dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn roedd erthylu'n cael ei ganiatáu cyn 2019.
Bellach mae erthyliadau llawfeddygol tu hwnt i 20 wythnos yn cael eu cynnig, gyda'r Alban yn cynnig gwasanaethau hyd at 20 wythnos.

Mae cynllun iechyd cyntaf menywod Cymru yn dweud dylai erthyliad fod ar gael yn lleol i fenywod
Yn annisgwyl, fe aeth Sarah - nid ei henw iawn - yn feichiog ddwy flynedd yn ôl.
Eisoes yn fam i ddau, dywedodd ei bod wedi dioddef iselder difrifol ar ôl geni un o'i phlant ac nad oedd yn gallu wynebu bod yn feichiog eto.
Dywedodd Sarah, sydd yn ei thridegau, nad oedd modd iddi gael erthyliad llawfeddygol yn lleol.
Roedd ganddi gyflwr meddygol, â'r angen felly ar gyfer anesthetig cyffredinol.
Pan oedd rhyw 16 wythnos yn feichiog, cafodd gynnig y driniaeth yn Llundain gyda chostau teithio a'i llety wedi'u talu am ddwy noson.
Ychwanegodd bod y profiad cyfan yn "wirioneddol llawn straen".
'Haf gwaethaf fy mywyd'
"Roedd yna deimlad ychwanegol o euogrwydd, oherwydd fy mod i'n cael fy anfon i ffwrdd," meddai.
"Roeddwn i'n dychmygu pobl gyda phlacardiau yn gweiddi, doeddwn i ddim yn gwybod pa ysbyty fyddwn i'n aros ynddo."
Roedd y pwysau o adael ei phlant hefyd yn anodd iddi gan ychwanegu at y "straen a'r trawma" meddai.
Yn sgil hynny penderfynodd Sarah barhau â'r beichiogrwydd, gan ei ddisgrifio fel "cyfnod anodd iawn".
"Yn emosiynol, dyna oedd haf gwaethaf fy mywyd," meddai.

Dywedodd Rachael Clarke o BPAS bod 175 o fenywod y flwyddyn yn gorfod teithio o Gymru i Loegr i gael y driniaeth lawfeddygol
Cyffuriau sy'n cael eu defnyddio mewn erthyliad meddygol.
Yn 2022 roedd 86% o'r erthyliadau yng Nghymru a Lloegr yn rhai meddygol.
Ond mae erthyliad llawfeddygol yn cynnwys llawdriniaeth i dynnu'r meinwe beichiogrwydd o'r groth gan ddefnyddio anesthetig.
Dywedodd Rachael Clarke o BPAS bod 175 o fenywod y flwyddyn, fel Sarah, yn gorfod teithio o Gymru i Loegr i gael y driniaeth lawfeddygol.
"Nid yw llawer o'r menywod yma eisiau siarad am eu profiadau, dy'n nhw ddim am gael eu hatgoffa ac mae'n ei gwneud hi'n hawdd iawn i bobl anwybyddu'r profiadau brawychus," meddai.
'Dim esgusodion'
Ychwanegodd Ms Clarke bod pryderon ganddi nad yw menywod yn gallu cael mynediad at wasanaethau lleol.
"Os nad oes gennych chi le mewn ysbyty, os nad oes gennych chi theatr llawdriniaethau, os nad oes gennych chi ward lle gall menywod fynd cyn ac ar ôl hynny, mae'n cyfyngu ar yr hyn y gallwch chi ei ddarparu," meddai.
Dywedodd bod y sefyllfa'n creu bwlch sgiliau peryglus gan nad yw meddygon yn gwneud erthyliad llawfeddygol yn rheolaidd neu driniaethau pan mae menyw'n colli baban wedi'r tri mis cyntaf.

Mae'r Aelod Senedd, Sioned Williams, yn galw am well gwasanaethau erthylu
Mae cynllun iechyd cyntaf menywod Cymru, a gafodd ei gyhoeddi fis Rhagfyr 2024, yn nodi y dylai erthyliad fod ar gael "yn lleol a heb oedi i bob menyw" i leihau "cymhlethdodau, gofid a chost".
Mae ariannu a darparu gwasanaethau ar gyfer gofal erthylu yn ystod mis 3-6 beichiogrwydd yn cael ei weld fel nod hirdymor i'w gyflawni mewn tua chwech i 10 mlynedd.
Mae'r Aelod Senedd, Sioned Williams, wedi codi'r mater yn y Siambr gan ddweud bod y grŵp trawsbleidiol iechyd menywod wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu ers 2018.
"Mae gyda ni gynllun newydd sy'n dweud bod hyn yn hawl ac ry'n ni'n gwybod, y realiti yw, nad dyna'r achos," meddai AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru.
"Mae'r gallu gyda ni yma yng Nghymru i gael y math yma o driniaeth, felly does dim esgusodion mewn gwirionedd."
'Derbyn bod angen gwelliannau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn derbyn bod angen gwelliannau i wasanaethau erthylu ar ôl tri mis cyntaf beichiogrwydd yng Nghymru ac yn cydnabod yn llawn y dylai menywod allu cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol yn nes at adref."
Ychwanegodd eu bod yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i fynd i'r afael â'r rhwystrau penodol i ddarparu gwasanaethau erthylu llawfeddygol yn lleol.
Dywedodd hefyd eu bod nhw'n edrych ar ba welliannau tymor byr sy'n bosib wrth "ddatblygu gwasanaeth cadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mai 2024