Cymeradwyo hwb a chaffi dadleuol mewn ardal o harddwch naturiol

Mae tua 300,000 yn cyrraedd copa Moel Famau pob blwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau dadleuol ar gyfer hwb ymwelwyr a chaffi ar un o fryniau prysuraf Dyffryn Clwyd wedi derbyn caniatâd.
Bydd yr adeilad, a fydd yn cynnwys caffi, toiledau a swyddfa wardeniaid, yn cael ei adeiladu ar waelod y prif lwybr i fyny Moel Famau - pwynt uchaf Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Cyngor Sir Ddinbych wnaeth y cais, a Phwyllgor Cynllunio'r cyngor wnaeth ei gymeradwyo o 13 pleidlais i 3.
Mae'r rheiny sydd o blaid y cynlluniau yn dadlau dros yr angen am gyfleusterau yn yr ardal ac yn rhagweld buddion economaidd.
Ond mae'r rhai sydd yn erbyn yn pryderu am yr effaith ar fusnesau lleol a byd natur.
Mae'r cyngor wedi derbyn cais am ymateb.
'Nid caffi fydd o'
Cododd rhai cynghorwyr bryderon yn ymwneud â chynnydd mewn taflu sbwriel a phlismona pharcio.
Pryder arall oedd rhagweld pwysau ariannol yn y dyfodol allai golygu na fyddai'r cyngor yn gallu fforddio rhedeg yr adeilad - gan ei adael yn "graith ddiangen" ar yr ardal.
Ond roedd aelodau eraill yn cefnogi'r datblygiad, gan ei weld fel ffordd o reoli'r 300,000 o ymwelwyr blynyddol a'u hannog i ymweld ag ardaloedd eraill yn Sir Ddinbych.

Y bwriad yw i'r adeilad gynnwys caffi, toiledau a swyddfa wardeniaid
Un o'r rhain oedd yr aelod lleol y Cynghorydd Huw Williams a ddywedodd fod y Pwyllgor Cynllunio wedi "tawelu ei feddwl".
Er bod ganddo bryderon o hyd am sbwriel a mynediad ffordd - dywedodd y byddai'r hwb yn "gyfleuster gwych".
"Nid caffi fydd o, ond rhywle i gael te a chacennau - nid wy a sglodion."
"Bydd yn dda i'r ardal gael 300,000 o ymwelwyr i lawr i'n trefi ac i mewn i'n tafarndai a'n caffis."

Mae Sara Mak yn gwrthwynebu adeiladu caffi newydd ger Moel Famau
Gyda Moel Famau yn denu cannoedd o filoedd o gerddwyr y flwyddyn, nod yr adeilad ydy helpu i gwrdd â'r "heriau" sy'n gysylltiedig â'r nifer cynyddol o ymwelwyr, meddai'r cyngor.
Ond mae rhai, fel Sara Mak sydd o'r ardal yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Sir Caer, yn ofni'r effaith y gallai mwy o bobl ei gael ar y bryniau.
"Does dim angen caffi yma," meddai.
"Dwi'n meddwl byddai fo'n sbwylio'r ardal hyfryd yma. Ti'n edrych ar Eryri a'r problemau yna a dwi ddim eisiau gweld yr un problemau fan hyn.
"Mae'n arbennig i mi a dwi ddim eisiau rhannu fo efo pawb arall. Yn ystod Covid roedd gormod o bobl a sbwriel pobman a doedd hynny ddim yn dda i fyd natur."
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2023
Ond mae 'na gefnogaeth hefyd. Mae Alun Jones yn cerdded yn yr ardal o leiaf unwaith pob pythefnos, ac yn rhagweld yr hwb yn "dod â daioni i'r ardal".
Dywedodd: "Gallai 'mond credu bydd caffi o gymorth ac yn atyniad deniadol iawn i lawer iawn o bobl sy'n dod yma, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw fwynhau'r golygfeydd godidog sydd yma.
"Dwi'n meddwl bod o'n syniad da iawn ac yn gyfle i ddod a mwy o arian i'r ardal," ychwanegodd.

Mae Alun Jones yn dringo Moel Famau pob pythefnos
Gyda tho twmpath pridd wedi'i orchuddio â phlanhigion sy'n deillio o'r ardal, y nod yw creu adeilad ym maes parcio Bwlch Pen Barras sy'n rhan o'r tirlun a ddim yn sefyll allan yn amlwg.
Yn Llanferres, dafliad carreg o'r maes parcio, mae'r dafarn ble mae Elyse Gerrard yn gweithio.
Mae hi'n dweud ei bod hi'n gallu "gweld manteision y cynlluniau i ymwelwyr", ond mae hi yn "poeni" am yr effaith ar fusnesau lleol.

Mae pryder y byddai caffi ar y safle yn golygu llai o gwsmeriaid i'r dafarn ble mae Elyse Gerrard yn gweithio
"Da ni'n cael llawer o bobl sy'n dod am ddiod neu ychydig o ginio ar ôl cerdded i fyny Moel Famau a dwi'n meddwl y bydd llai yn gwneud hynny os oes caffi ar y safle.
"Felly nid yw'n newyddion gwych i ni fel busnes ac i sawl busnes arall."
Nid ymysg pobl leol yn unig mae'r cynlluniau wedi hollti barn. Mae Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd hefyd wedi'u "rhannu" ar y mater yn ôl y cadeirydd, Julie Masters.
"Mae llawer o bobl yn poeni am yr effaith ar seilwaith os ydyn ni'n denu mwy o bobl i Foel Famau", meddai.
"Mae'r ffyrdd yn gul. Maen nhw'n poeni y bydd pethau'n gwaethygu eto.
"Ond mae eraill yn teimlo os oes wardeniaid fyny yna drwy'r amser, y bydd hynny'n helpu.
"Gallai helpu i roi gwell syniad i bobl o'r hyn sydd ar gael yma a hybu busnes."

Dan y cynlluniau presennol byddai'r hwb ar agor bob dydd rhwng 10:00 a 16:00 gan gynnig system 'prynu a mynd' o gegin fach.
Mae'r cais cynllunio yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ddinbych i'w bwyllgor cynllunio ddydd Mercher.
Byddai'r prosiect yn cael ei ariannu gan £1.3m o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth Cymru am greu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru a fyddai'n cynnwys yr AHNE.
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal ymgynghoriad ar y cynigion hynny'r llynedd.