Parc cenedlaethol newydd yn hollti barn wrth i ymgynghoriad gau

Dyffryn Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y bydd ardaloedd fel Dyffryn Clwyd yn rhan o barc cenedlaethol newydd yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru gam yn nes at ddarganfod a fydd parc cenedlaethol newydd yn cael ei greu yn y gogledd-ddwyrain.

Ers dechrau mis Hydref mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gofyn i bobl rannu eu barn ar y cynllun fel rhan o ail gyfnod ymgynghoriad.

Dydd Llun yw cyfle olaf trigolion yr ardal i ddweud eu dweud ar y parc, a hynny'n union 75 mlynedd ers i Lywodraeth y DU basio deddf i sefydlu parciau cenedlaethol.

Cam nesaf y broses yw dadansoddi'r ymatebion, yn ôl CNC, gyda'r nod o alluogi Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniad cyn yr etholiad nesaf yn 2026.

Mae gan Gymru dri pharc yn barod - Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

Ond mae'r cynllun i greu parc newydd yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1957 yn hollti barn.

Mae Sharon Jones wedi byw ar ei fferm ger Llangollen ers dros 35 mlynedd.

Mae'r fferm yn rhan o'r ardal sy'n cael ei hystyried ar gyfer y parc.

"Dwi ddim wedi gweld dim byd eto sydd yn gwneud i fi feddwl bod hwn yn gam da i ni," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Jones yn poeni am effaith y cynllun i greu parc cenedlaethol newydd ar ddiwylliant yr ardal

Mae'n teimlo bod y cynllun yn "wastraff pres" ac yn pryderu am yr effaith ar yr iaith Gymraeg.

"Does dim cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad, ac mae hynny'n beth drwg i gymdeithas," meddai.

"Ofn arna' i be' sy'n mynd i ddigwydd os 'da ni'n cael mwy o ymwelwyr eto."

Mae Ms Jones hefyd yn poeni dros ei mab, sydd newydd ddechrau rhedeg y fferm drws nesaf iddi.

"Dwi'n rhagweld Parc Cenedlaethol yn gwneud pethau'n anoddach i bobl fel fo.

"Mae'n mynd i fod yn fwy anodd iddo newid cyfeiriad y fferm efo rheolau cynllunio ac ati sy'n dod gyda pharc."

'Cyfle cyffrous i amddiffyn byd natur'

Ond nid pawb sy'n cytuno.

Wedi ei magu ym mhentref Y Waun ger Wrecsam, mae Ffion Mitchell-Langford yn gweld y cynllun fel "cyfle cyffrous iawn i amddiffyn byd natur".

"Dwi yn meddwl dyma'r amser cywir i wneud hyn achos os 'da chi'n edrych ar gyflwr natur a'r hinsawdd a'r heriau maen nhw'n wynebu, 'da chi'n gweld bod ni angen gweithredu rŵan," meddai.

"Dyma ffordd wych i sicrhau dyfodol ein hamgylchedd i genedlaethau'r dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Mitchell-Langford yn gobeithio bydd statws parc cenedlaethol yn helpu amddiffyn natur yr ardal

Ar y cychwyn, roedd yr ardal oedd yn cael ei hystyried yn ymestyn o'r glannau yng ngogledd Sir Ddinbych, i lawr am Fryniau Clwyd ac yna i Ddyffryn Ardudwy.

Ond mae ffiniau'r parc posib wedi lleihau ers dechrau'r broses, gan ddilyn ffiniau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn agosach.

Mae'n newid sydd wedi "siomi" Ms Mitchell-Langford.

"O'n i really isio gweld twyni Gronant a Thalacre ar arfordir y gogledd yn dod yn rhan o'r parc," meddai.

"Dyma'r unig le yng Nghymru sy'n gartref i'r aderyn y môr-wennol fach.

"Mae'n bwysig amddiffyn nhw ac felly dwi isio gweld yr ardal nôl yn rhan o'r parc."

Disgrifiad o’r llun,

Y ffiniau gwreiddiol oedd yn cael eu hystyried ar y chwith, a'r ffiniau llai sydd bellach dan ystyriaeth ar y dde

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cynnal sesiynau trafod ar draws yr ardal dros y ddeufis diwethaf fel rhan o ail gyfnod yr ymgynghoriad.

Roedd y diwethaf yn Llangollen ble roedd y farn yn gymysg.

Yn wreiddiol o Borthmadog ond bellach yn byw yn Llangollen, mae Gareth Lloyd o blaid statws parc cenedlaethol i'r ardal.

"Dwi'n dod o ardal Eryri, felly dwi'n gwybod be' mae statws yn medru gwneud i'r ardal," meddai.

"Mwy o dwristiaid i mewn a gobeithio mwy o bres i fusnesau."

Ond anghytuno mae Christine Ellis o Ruthun.

"Byddai'n well gen i fod o ddim yn digwydd. Dwi'n gallu gweld o'n achosi pob math o broblemau gyda rheolau cynllunio," meddai.

"Fy mhrif bryder yw'r baich ariannol ar Gyngor Sir Ddinbych, pan mae'r cyngor eisoes yn ei chael hi'n anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth yn cefnogi'r cynlluniau am barc cenedlaethol, ond mae Christine yn anghytuno

Mae Keith Davies, prif gynghorydd tirweddau dynodedig CNC, wedi bod yn bresennol yn sawl un o'r sesiynau trafod.

"Yr argraff 'da ni'n gael yw bod 'na rhyw split 50/50," meddai.

"Yn y flwyddyn newydd byddwn ni'n dadansoddi a gwerthuso pob un o'r ymatebion 'da ni wedi cael cyn rhoi adroddiad o flaen bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru fel eu bod nhw'n gallu penderfynu os fydd y cynllun yn symud i'r cam nesaf, sef ymgynghoriad statudol ar ffiniau'r parc yn hydref 2025."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Keith Davies bod tua hanner y boblogaeth yn cefnogi'r syniad, a hanner yn gwrthwynebu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pawb i rannu eu barn cyn i'r cyfnod ymgynghori gau am 23:55 nos Lun.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar y broses o ddynodi parc cenedlaethol newydd, arfaethedig.

"Rydym wedi rhoi'r dasg i CNC i gyflawni gwaith – a fydd yn cynnwys asesiad manwl, ystyriaeth o'r dystiolaeth, ymgysylltu ac ymgynghori – a bydd hyn yn llywio penderfyniad terfynol ar unrhyw ddynodiad newydd."

Pynciau cysylltiedig