Angen cefnogaeth ar leoliadau cerddoriaeth byw sydd 'ar y dibyn'

LLun o'r plac yn cael ei ddadorchuddio
Disgrifiad o’r llun,

Mae Le Pub wedi cael ei brynu gan fenter gymunedol, Music Venue Properties, sydd â'r bwriad o warchod lleoliadau cerddoriaeth byw

  • Cyhoeddwyd

Mae lleoliadau cerddoriaeth byw "ar y dibyn" ac angen mwy o gefnogaeth gan gewri'r diwydiant os ydyn nhw am oroesi, yn ôl rheolwr tafarn sydd wedi cael ei arbed bellach.

Ers agor ei drysau yn 1992, mae Le Pub yng Nghasnewydd wedi llwyfannu cannoedd o artistiaid newydd ac adnabyddus gan gynnwys Goldie Lookin Chain, Kids in Glass Houses, Skindred ac Adwaith.

Mae'r lleoliad nawr wedi cael ei brynu gan fenter gymunedol, Music Venue Properties, sydd â'r bwriad o warchod lleoliadau cerddoriaeth byw.

Ond mae nifer o lefydd tebyg wedi gorfod cau dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl ymgyrchwyr sy'n dweud bod angen codi ffioedd ar leoliadau cyngherddau mawr er mwyn gwarchod dyfodol rhai llai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Dabb wedi bod yn rheolwr ar Le Pub ers dros 20 mlynedd

Le Pub yw'r pumed lleoliad cerddoriaeth i gael ei brynu gan Music Venue Properties (MVP), yn dilyn y Bunkhouse yn Abertawe, a llefydd ym Manceinion, Preston a Dover.

Mae MVP yn gynllun budd cymunedol, wedi'i greu gan Music Venue Trust, sydd wedi codi arian torfol yn ogystal â buddsoddiadau gan dros 1,300 o bobl er mwyn prynu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad, a'u cadw at y defnydd hwnnw.

Mae Sam Dabb wedi bod yn rheolwr ar Le Pub ers dros 20 mlynedd, ac yn cofio oes aur artistiaid o ardal Casnewydd yn yr 1990au, ond yn dweud bod llawer mwy i'r lle na dim ond y rheiny brofodd lwyddiant cenedlaethol.

"Mae rhai yn mynd ymlaen i bethau mawr, ond nid rheiny sydd wastad yn aros yn y cof," meddai.

"Mae pobl yn dod at ei gilydd, chwarae am ychydig flynyddoedd, ac wedyn maen nhw'n ffrindiau oes, felly mae e fwy am adeiladu'r gymuned yna a chyfeillgarwch rhwng pobl o'r un anian."

'Methu cysgu' oherwydd y sefyllfa

Er bod dyfodol ei lleoliad hi nawr yn saff, mae'n dweud nad yw'r un peth yn wir am nifer o rai eraill – gyda llefydd fel Gwdihw a'r Full Moon yng Nghaerdydd ymhlith y rheiny sydd wedi cau eu drysau yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae lleoliadau cerddoriaeth byw i gyd yn byw ar y dibyn, hyd yn oed y rhai llwyddiannus," meddai Ms Dabb.

"Mae'n frawychus i redeg rhywle fel yna, yn methu cysgu wrth feddwl oes gen i ddigon o arian i dalu cyflogau'r wythnos yma.

"Yr unig ffordd o daclo hyn yw codi treth ar arenas, rhywbeth sydd wir ei angen.

"Os 'dych chi'n edrych ar bêl-droed, mae'r clybiau mawr i gyd yn buddsoddi ar lawr gwlad achos os nad ydyn nhw, fydd 'na ddim pêl-droedwyr newydd yn dod drwyddo.

"Mae cewri'r diwydiant cerddoriaeth angen sylweddoli hynny hefyd.

"Roedd ystadegyn yr wythnos diwethaf... bod dim un artist Prydeinig yn y 10 Uchaf [o artistiaid 2024] achos dyw'r buddsoddiad ar lawr gwlad ddim yna.

"Maen nhw'n colli allan ar lefydd i berfformio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae llefydd fel Gwdihw a'r Full Moon yng Nghaerdydd ymhlith y rheiny sydd wedi cau eu drysau yn y blynyddoedd diwethaf

Un oedd yn arfer gweithio yn Le Pub yw drymiwr y grŵp Chroma, Zac Mather. Fe ddisgrifiodd y lleoliad fel "lle i'r gymuned yn llwyr".

Mae'r ganolfan, meddai ar raglen Dros Frecwast, wedi croesawu "bandiau bach ar y pryd sydd wedi tyfu a thyfu a thyfu".

Mae hefyd wedi galluogi staff a threfnwyr gigiau "i ddysgu sut mae'r byd cerddoriaeth yn digwydd", ac mae'n dadlau nad oes unlle tebyg o ran hynny yng Nghasnewydd.

Mae Chroma ymhlith noddwyr perchennog newydd Le Pub.

"Gyda Music Venue Trust fel landlordiaid, mae'r sefydliad yn saff ac mae cerddoriaeth a chelf gras roots wedi cael eu hachub ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.

Bydd gig yn Le Pub nos Wener i ddathlu pennod newydd y dafarn, gan gynnwys Murder Club, band pync-pop o ferched wnaeth gyfarfod drwy gysylltiadau gyda'r bar.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Matthew Otridge ei fod yn "ddiolchgar iawn o fod yn rhan o'r stori anhygoel hon"

Yn ôl eu drymiwr Elisha Djan, mae lleoliadau llai yn cynnig gwerth nid yn unig i'r artistiaid eu hunain, ond y rheiny sy'n dod i'w gwylio.

"'Dych chi'n gallu brolio mewn ffordd, eich bod chi wedi gweld y band mewn lleoliad llai cyn iddyn nhw fynd yn fawr," meddai.

"Ond mae hefyd yn neis gweld eich bod chi wedi eu cefnogi nhw o'r dechrau."

Dywedodd Matthew Otridge o Music Venue Properties: "Am flynyddoedd, roedd Le Pub yng nghanol ein mudiad Cyfranddaliadau Cymunedol o fewn y gymuned lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad.

"Felly mae ond yn teimlo'n iawn bod Music Venue Properties wedi sicrhau eu dyfodol hir dymor, gan ein bod ni'n sefydliad fyddai ddim yn bodoli oni bai am Gyfranddaliadau Cymunedol a'r rheiny fel Le Pub wnaeth arwain y ffordd.

"Rydw i'n ddiolchgar iawn o fod yn rhan o'r stori anhygoel hon".