Pleidlais o ddiffyg hyder yn Gething ar 5 Mehefin

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething o dan bwysau yn sgil rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i arwain Llafur Cymru a'i benderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn o'i gabinet

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddydd Mercher nesaf, 5 Mehefin.

Cafodd y cynnig ei roi ger bron gan y Ceidwadwyr yn y Senedd yn dilyn wythnosau o ddadlau am arian o roddwyd i'w ymgyrch ddiweddar i fod yn arweinydd ei blaid.

Bu cwestiynau hefyd am negeseuon testun o gyfnod Covid, a diswyddo gweinidog yn ei gabinet yn sgil honiadau iddi hi ollwng gwybodaeth i'r cyfryngau - rhywbeth y mae'n ei wadu.

Mae Mr Gething yn dweud "nad yw'n disgwyl" colli pleidlais o ddiffyg hyder, a'i fod yn teimlo'n obeithiol am ddyfodol ei blaid a'i gyfnod fel arweinydd.

Ychwanegodd ei fod yn canolbwyntio ar ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol ac yn "bwrw 'mlaen a'i waith fel Prif Weinidog".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae'r rhestr o gwestiynau heb eu hateb wedi parlysu Llywodraeth Cymru i'r graddau fod Gething wedi methu'n llwyr i fynd i'r afael gyda rhestrau aros hiraf y GIG, safonau addysg sy'n llithro a segurdod economaidd uchel.

"Mae'n bryd dod â'r brwydro mewnol a'r cymylu i ben a chynnal pleidlais o ddim hyder yn Vaughan Gething."

Mae Plaid Cymru wedi cael cais am ymateb.

Mae Mr Gething wedi bod o dan bwysau mawr, gan gynnwys gan rai o fewn ei blaid, yn dilyn ei benderfyniad i dderbyn rhoddion gwerth £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth ddiweddar gan gwmni sy’n eiddo i ŵr sydd wedi eu erlyn ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae gan Lafur 30 o’r 60 sedd yn y Senedd, felly i’r cynnig o ddiffyg hyder lwyddo byddai angen i o leiaf un AS Llafur bleidleisio o blaid neu ymatal.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth

Ar 17 Mai, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, ei bod hi bron yn anochel y byddai pleidlais o ddiffyg hyder yn digwydd.

Daeth y sylw ar ôl i Mr Gething ddiswyddo un o'i weinidogion, Hannah Blythyn, am rannu negeseuon testun gyda newyddiadurwr heb ganiatâd. Mae hi’n gwadu gwneud hynny.

Ar fater y rhoddion, mae Mr Gething wedi mynnu'n gyson bod y taliadau wedi eu cofrestru’n gywir.

Bydd yr arian sy’n weddill o’i ymgyrch – dros £31,000 – yn cael ei ddosbarthu i “achosion blaengar”, yn ôl Llafur.

Hyd yn oed pe bai Mr Gething yn colli’r bleidlais o ddiffyg hyder fyddai hi ddim yn orfodol iddo ymddiswyddo, ond byddai’r canlyniad yn ei roi mewn sefyllfa anodd iawn.

Byddai’r bleidlais hefyd yn digwydd ar adeg lletchwith i Lafur ar ganol ymgyrch etholiadol.

Byddai’n rhaid i Blaid Cymru hefyd gefnogi’r cynnig iddo lwyddo.

Fe wnaeth Plaid Cymru dynnu allan o’r Cytundeb Cydweithio oedd gan y blaid gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn y Senedd yn gynharach y mis hwn yn sgil y ffrae am roddion i ymgyrch Mr Gething a’r penderfyniad i ddiswyddo Ms Blythyn.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sunday Supplement BBC Cymru ar 19 Mai, ni wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, gadarnhau sut y byddai ei blaid yn pleidleisio pe bai pleidlais o ddiffyg hyder.

Ychwanegodd nad oedd “llawer o bwynt” dod â phleidlais o ddiffyg hyder, gan fod aelodau Llafur yn debygol o gefnogi’r arweinydd.