Dathlu cysylltiad tref yng Ngwynedd â chriw o filwyr arbenigol
- Cyhoeddwyd
Bydd y cysylltiad rhwng tref fach yng Ngwynedd ac uned o filwyr Iddewig arbenigol o'r Ail Ryfel Byd yn cael ei ddathlu ddydd Sul.
Roedd uned X Troop wedi'u hyfforddi i frwydro y tu ôl i linellau amddiffyn y Natsïaid, ac yn arbenigwyr ar gwestiynu milwyr ar faes y gad.
Ond fe fuon nhw'n hyfforddi yn Harlech ac Aberdyfi yng Ngwynedd, dan ofal Cymro Cymraeg lleol.
Dydd Sul bydd plac yn cael ei ddadorchuddio ar yr adeilad yn Harlech ble cafodd y grŵp ei ffurfio.
Cafodd X Troop - a oedd yn cael ei adnabod yn ffurfiol fel No.3 (Jewish) Troop, No.10 Commando - ei sefydlu yn 1942, ac roedden nhw wedi cael hyfforddiant brwydro llawer mwy soffistigedig nag y byddai'r mwyafrif llethol o filwyr.
Roedd bron pob un aelod yn ffoadur Iddewig o'r Almaen ac Awstria, oedd yn golygu bod ganddynt y sgiliau ieithyddol i gwestiynu milwyr Almaeneg pan roedden nhw'n cael eu dal.
Ond roedden nhw'n gweithredu y tu ôl i linellau amddiffyn Yr Almaen hefyd, gan gynnwys bod yn rhan o gynllun i ddwyn peiriant Enigma gan y gelyn.
Yn hwyrach yn y rhyfel, fe lwyddodd un aelod X Troop i achub ei rieni o wersyll Theresienstadt, hyd yn oed.
Y swyddog oedd yn gyfrifol am y criw oedd yr Uwchgapten Bryan Hilton-Jones - Cymro Cymraeg a gafodd ei eni yn Harlech, a'i fagu yng Nghaernarfon.
I baratoi'r milwyr ar gyfer eu gwaith cudd, byddai'n eu cael i ddringo waliau Castell Harlech a gwneud eu ffordd i mewn heb gael eu gweld.
Wedi iddyn nhw wneud hynny, roedd yn rhaid iddynt wneud y daith 38 milltir i gopa'r Wyddfa ac yn ôl.
'Y person perffaith i arwain yr uned'
Merch Bryan Hilton-Jones, Nerys Pipkin, fydd yn dadorchuddio'r plac ddydd Sul.
"Roedd dad yn ddyn distaw, ond yn enwog am ei ffitrwydd a'i synnwyr digrifwch," meddai.
"Ond roedd o'n ddyn caled iawn, a'r math o ddyn oedd yn ysbrydoli pobl - y person perffaith i arwain yr uned yma."
Bu farw Bryan Hilton-Jones mewn gwrthdrawiad ffordd ger Barcelona yn 1969, ag yntau ond yn 51 oed.
Yn 1999 cafodd cofgolofn ei chodi yn Aberdyfi i gofio am filwyr X Troop - yno roedden nhw'n gwneud llawer o'u hyfforddiant.
Ond tan nawr, doedd dim byd wedi'i osod yn Harlech i gofio eu cyfraniad i'r Ail Ryfel Byd.