Dyn, 56, wedi marw mewn digwyddiad ar fferm yn Sir Conwy

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 56 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar fferm yn Sir Conwy ddydd Iau.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar fferm yn ardal Betws-yn-Rhos ychydig cyn 10:00.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys fynychu, ond cafodd dyn 56 oed ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac mae'r mater wedi cael ei gyfeirio at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.