Cael tâl tra'n hyfforddi'n helpu denu athrawon uwchradd
![Disgyblion ac athrawes mewn ysgol uwchradd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/e2b0/live/73b7ef80-dcaa-11ef-bc01-8f2c83dad217.jpg)
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun sy'n galluogi pobl i ennill cyflog mewn ysgolion tra'n hyfforddi i fod yn athrawon wedi cael ei ddisgrifio fel un "amhrisiadwy".
Mewn ymateb i'r galw cynyddol am athrawon ysgol uwchradd mewn pynciau allweddol fel Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cynlluniau hyfforddi newydd i athrawon.
Un o'r rheiny ydy'r "llwybr cyflogedig" sy'n galluogi darpar athrawon i gwblhau cwrs ôl-radd tra'n gweithio'n llawn amser mewn ysgol.
Un o'r ysgolion sy'n rhan o'r cynllun yw Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst.
Yn ôl y pennaeth, mae recriwtio yn her fawr, gyda neb yn ceisio am rhai swyddi, felly mae'r cynllun newydd yn cael croeso mawr.
Un ymgeisydd am bob swydd ar gyfartaledd
Mae adroddiad i Lywodraeth Cymru o fis Tachwedd 2024, dolen allanol yn amlygu'r heriau sy'n wynebu ysgolion uwchradd Cymraeg o ran recriwtio.
Ar gyfartaledd, un ymgeisydd sydd ar gyfer pob swydd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion uwchradd, o'i gymharu ag wyth ymgeisydd ar gyfer pob swydd cyfrwng Saesneg.
Mae'r ffigyrau'n fwy addawol ar gyfer ysgolion cynradd Cymraeg, ble mae tua naw ymgeisydd am bob swydd, ond eto mae'r ffigwr yn llawer uwch ar gyfer ysgolion cynradd Saesneg - 24.
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
Dywed pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy, Owain Gethin Davies, eu bod yn gorfod ystyried ceisiadau mwy amrywiol er mwyn sicrhau bod athro o flaen pob dosbarth.
"Mi ydan ni dan bwysau pan mae'n dod i recriwtio," meddai.
"Yn aml iawn mae ysgolion yn gorfod mynd ati i ail hysbysebu fwy nag unwaith am swyddi - weithiau ddim yn cael ceisiadau o gwbl, weithiau yn cael ceisiadau ond efallai fod gan y bobl ddim y cymwysterau cywir ar gyfer gwneud y swydd.
"Ond hefyd weithiau yn gorfod ystyried ceisiadau gan athrawon amrywiol, oherwydd bod angen sicrhau bod gennym ni athrawon o flaen dosbarth.
"Yn amlwg i ni yma yn Ysgol Dyffryn Conwy mae'r Gymraeg yn cael lle pwysig, a ma' rhaid i ni sicrhau fod ein hathrawon yn meddu ar y sgiliau er mwyn gallu dysgu y pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Felly mae hynny'n ffactor arall."
![Owain Gethin Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4369/live/ec241240-dcab-11ef-a37f-eba91255dc3d.jpg)
Dywedodd Owain Gethin Davies bod neb yn ymgeisio am rai swyddi
Ond dywedodd fod yr ysgol wedi cael ymateb arbennig i'r cynllun llwybr cyflogedig, gyda chwech o aelodau staff yn gweithio yn yr ysgol ar hyn o bryd tra'n hyfforddi i fod yn athrawon ar draws y pynciau craidd.
"Dwi'n meddwl bod y llwybr cyflogedig yma yn un diddorol, yn un newydd ac yn syniad ffresh," meddai.
"Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni ddechrau gofyn y cwestiwn, be' ydy'r dull gorau o hyfforddi a sicrhau fod pobl yn cael eu denu i'r proffesiwn.
"Ma' rhaid gofyn y cwestiwn 'pam bod y niferoedd, dros gyfnod, wedi gostwng yn sylweddol?'.
"Mewn rhai pynciau, mae'r cyrsiau wedi diflannu ac wedi gorffen cael eu rhedeg mewn ambell brifysgol oherwydd bod neb yn ymgeisio amdanyn nhw.
"Felly mae'n rhaid arloesi a bod yn greadigol a gofyn i'r bobl sydd â diddordeb dod i'r maes yma 'sut fyddech chi yn licio cael eich hyfforddi er mwyn dod yn athrawon?'"
Beth yw'r llwybr cyflogedig?
Mae'r llwybr cyflogedig yn galluogi darpar athrawon i gwblhau cwrs ôl-radd dwy flynedd tra'n gweithio'n llawn amser mewn ysgol.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y costau.
Y gobaith yw y bydd cael profiad yn y dosbarth a chyflog cyn cymhwyso yn helpu i ddenu pobl sydd ag awydd newid gyrfa.
![Siwan Price](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2a92/live/70100b40-dcac-11ef-bc01-8f2c83dad217.jpg)
Mae'r cyfle i weithio tra'n hyfforddi wedi bod yn amhrisiadwy i Siwan Price
Fe benderfynodd Siwan Price, sydd wedi graddio yn y Gymraeg, ddechrau ar y llwybr cyflogedig am ei fod yn "rhoi cyfle i weithio a gwneud gwaith coleg ar yr un pryd".
Mae'r cwrs yn cynnig "cyfle hollol newydd a chyfoethog i gael profiad amhrisiadwy", meddai.
"Dwi'n angerddol dros yr iaith a hapusrwydd pobl ifanc," meddai.
"Mae cyfle i fod yn ddylanwad arnyn nhw a bod yn arweinydd iddyn nhw yn gyfle fyswn i ddim yn licio pasio."
![Steffan Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8ba2/live/ce1f7b30-dcac-11ef-a37f-eba91255dc3d.jpg)
Roedd Steffan Jones yn falch o'r cyfle i ddychwelyd i Gymru o Lundain a dilyn gyrfa newydd
Un arall sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun ydy Steffan Jones, symudodd o Lundain - lle'r oedd yn gweithio yn y maes recriwtio ariannol - yn ôl i Gymru i fod gyda'i deulu a dechrau ar ei yrfa addysgu.
Mae'n hyfforddi i fod yn athro mathemateg.
"Fues i'n byw a gweithio yn Llundain am chwe mlynedd, yn delio gyda hedge funds ac investment banks ac ati," meddai.
"Ond 'nes i'r penderfyniad i symud yn ôl.
"Mae'r rhan fwya' o' nheulu dal yn yr ardal yma, a gyda'r holl sôn am filiwn o siaradwyr, o'n i'n teimlo ei fod yn amser da ac yn gyfle da i ddod nôl i Gymru.
"Ond ar ôl bod yn gyflogedig am chwe mlynedd, doedd y syniad o ddilyn y llwybr traddodiadol a mynd yn ôl i'r brifysgol ddim yn apelio gymaint.
"Felly oedd y cynllun yn caniatáu i fi dal cael cyflog, cael dysgu, a dod yn rhan o gymuned yr ysgol yma."
'Athrawon yn gadael y proffesiwn'
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn cydnabod fod "recriwtio yn dipyn o her ar hyn o bryd".
"Does dim digon o athrawon yn ymuno â'r proffesiwn am amryw o resymau," meddai'r undeb mewn datganiad.
"Mae dulliau gwahanol o ddenu athrawon yn hollbwysig i fyd addysg Cymraeg."
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth ychwanegodd swyddog polisi UCAC, Iona Davies fod "athrawon yn gadael y proffesiwn, yn sicr yn ystod y blynyddoedd cynnar".
"Wrth i'r pwysau gynyddu mae 'na athrawon sydd yn gadael y swydd a mynd i chwilio am feysydd eraill lle mae 'na fwy o hyblygrwydd efallai, a llai o bwysau gwaith."
Er hynny, dywedodd fod y llwybr cyflogedig yn rhywbeth cadarnhaol o ran denu athrawon newydd, a'i fod yn opsiwn da i bobl sydd eisoes yn gweithio mewn ysgolion - fel technegwyr neu gynorthwywyr dosbarth - sy'n dymuno datblygu i fod yn athrawon.
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O 2024/25 mae Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) y Brifysgol Agored yn cynnwys 302 o ysgolion partner.
"Yn 2024/25 mae 275 o fyfyrwyr wedi cofrestru ac yn astudio'r Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR) yng Nghymru gyda'r Brifysgol Agored.
"Mae tua 700 o bobl wedi manteisio ar y cyfle i astudio naill ai drwy'r TAR rhan-amser neu'r TAR cyflogedig ers blwyddyn academaidd 2020/21 ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd."