Disgyblion ar eu colled yn sgil prinder athrawon cyflenwi

Ystafell ddosbarth gyda rhesi o ddisgyblion ac athro yn sefyll ar flaen y dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon am y drefn athrawon cyflenwi wedi arwain at gyfres o ymchwiliadau ac adroddiadau dros y ddegawd ddiwethaf

  • Cyhoeddwyd

Does yna ddim digon o athrawon cyflenwi i ateb y galw ac mae disgyblion yn dioddef o'r herwydd, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Senedd Cymru.

Dywedodd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus bod ysgolion weithiau'n gorfod cyflogi staff heb y cymwysterau angenrheidiol.

Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fonitro'r drefn a sicrhau'r ddarpariaeth orau posib "fel na fydd addysg plant yn dioddef yn ormodol".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "gweithio tuag at ddatblygu model athrawon cyflenwi cynaliadwy".

Dyma'r adroddiad diweddaraf am y drefn cyflenwi athrawon yng Nghymru ar ôl i'r Archwilydd Cyffredinol a phwyllgorau blaenorol godi pryderon am y system.

Dywedodd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus bod problemau'n codi o ddiffyg data ynglŷn ag absenoldebau athrawon a'r defnydd o staff cyflenwi a "bod effaith cyflwyno'r cwricwlwm, neu resymau eraill dros absenoldeb ac eithrio salwch, yn anhysbys o hyd".

Mae hynny yn effeithiol ar allu Llywodraeth Cymru i gynllunio'n effeithiol i sicrhau eu bod yn gallu ateb y galw am staff cyflenwi, meddai aelodau'r pwyllgor.

Yn ogystal, ategodd yr adroddiad bryderon yr Archwilydd Cyffredinol bod yna brinder athrawon cyflenwi mewn meysydd penodol - ardaloedd gwledig, ysgolion uwchradd, ysgolion cyfrwng Cymraeg, a rhai pynciau - a hynny'n adlewyrchu'r bylchau yn y proffesiwn yn fwy cyffredinol.

Roedd 4,051 o athrawon cyflenwi wedi cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg yn 2024 - cynnydd ers 2023 ond yn is na'r ffigwr o 4,635 yn 2020.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth nifer yr athrawon cyflenwi ostwng yn ystod y pandemig, ond mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd

Cynnydd yn 'rhy araf'

Dywedodd Mark Isherwood AS, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus bod safon y cyflenwad athrawon yn hollbwysig.

"Rhaid i ni ddarparu'r ddarpariaeth orau bosibl i gyflenwi absenoldebau addysgu yn yr ystafell ddosbarth fel na fydd addysg plant yn dioddef yn ormodol", meddai.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i wella'r sefyllfa ond bod cynnydd yn rhy araf a bod diffyg monitro yn golygu nad oes modd asesu os yw'r newidiadau'n llwyddiannus ai peidio.

"Mae'n bwysig nodi yr hoffai'r pwyllgor weld y 'pwll cyflenwi cenedlaethol' a drafodwyd ers tro yn cael ei wireddu'n genedlaethol a bod pob athro cyflenwi yn gallu manteisio ar gyflog uwch, pensiwn a hyfforddiant eu cydweithwyr," ychwanegodd.

Mae datblygu model cynaliadwy ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi yn un o addewidion rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Ond clywodd aelodau'r pwyllgor dystiolaeth bod yna broblemau'n parhau gydag ysgolion yn cyflogi staff heb gymwysterau i wneud gwaith athrawon cyflenwi.

Mae'r pwyllgor yn galw ar y llywodraeth i fonitro hynny a rhoi trefniadau mewn lle i sicrhau bod athrawon cyflenwi, goruchwylwyr llanw a gweithwyr cymorth dysgu yn gweithio o fewn eu disgrifiadau rôl.

'Argyfwng recriwtio'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu gwaith y pwyllgor ac yn gweithio i wella'r drefn.

"Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac undebau i drafod sefyllfa'r gronfa genedlaethol o athrawon cyflenwi ac yn ystyried opsiynau ar gyfer y camau nesaf."

Yn ôl un undeb penaethiaid, mae prinder athrawon cyflenwi yn deillio o'r argyfwng recriwtio ehangach.

Dywedodd Claire Armitstead, Cyfarwyddwr ASCL Cymru bod angen cynyddu cyflogau cychwynnol i'r proffesiwn a dod i'r afael a llwyth gwaith.

"Rhaid i unrhyw strategaeth recriwtio a chadw fod yn seiliedig ar wella cyflog ac amodau athrawon, a sicrhau bod hyn yn fforddiadwy i bob ysgol", meddai.

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i ymateb i adolygiad y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol ar gyflogau ac amodau athrawon cyflenwi .

Pynciau cysylltiedig