Gwyddonydd o Gymru: 'Gorddefnydd o wrthfiotigau yn bryder'
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonydd blaenllaw o Gymru yn dweud bod rhaid i ni gyd ddysgu i beidio â chamddefnyddio cyffuriau gwrthfiotig neu mi fyddwn ni’n wynebu problemau mawr yn y dyfodol.
Mae’r Athro Emeritws Colin Hughes wedi treulio blynyddoedd yn yr Unol Daleithiau, Ewrop ac ym Mhrifysgol Caergrawnt yn astudio sut mae bacteria yn achosi heintiau a sut mae nhw’n datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau - a bellach mae o wedi ymgartrefu ar lannau’r Fenai ar Ynys Môn.
“Mi fydd pawb sydd wedi cael llawdriniaeth yn gwybod pa mor bryderus ydi ysbytai ar hyn o bryd am heintiau ymwrthol – pethau fel MRSA. Mae disgwyl i’r sefyllfa waethygu yn sylweddol.
"Mae ein hymwrthedd ni’n cynyddu oherwydd y gorddefnydd o wrthfiotigau. Felly i atal y sefyllfa rhag mynd yn waeth bydd rhaid i ni wneud rhai pethau - yn enwedig peidio gwastraffu neu gamddefnyddio gwrthfiotigau mewn meddygaeth – pob un ohona ni," meddai wrth raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.
Mae Colin Hughes, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caergrawnt a Chymrawd Coleg y Drindod Caergrawnt, hefyd o’r farn bod angen i gwmnïau cyffuriau rhyngwladol fuddsoddi mwy i ddatblygu cyffuriau gwrthfiotig newydd gan ein bod ni’n defnyddio’r cyffuriau presennol ers degawdau.
“Ar hyn o bryd does gan y cwmnïau cyffuriau mawr ddim diddorddeb mewn datblygu gwrthfiotigau newydd am ein bod ni yn pryderu am gansar, am glefyd y galon, am ddementia - dyna lle mae’r arian,” meddai.
Ond mae o’n dweud bod yna ffyrdd newydd cyffrous i ddatblygu cyffuriau newydd – sydd yn cynnig gobaith ar gyfer y dyfodol.
Yn wreiddiol o Fagillt, Sir y Fflint daeth Colin Hughes i amlygrwydd yn ddiweddar am ennill medal y dysgwyr yn Eisteddfod Môn - a hynny am yr eildro yn olynol am waith creadigol.
“Dwi ddim wedi siarad Cymraeg o gwbl rili fel plentyn ond o’n ni wedi arfer hefo sŵn yr iaith so bob dydd clywais ychydig o eiriau fel cariad, tyd yma, cau’r drws ac yn eitha aml dwi’n cofio cythraul bach!”
Rhyw ddeng mlynedd yn ôl ar ôl symud i fyw i gyrion Porthaethwy mi aeth ati go iawn i gyfoethogi ei Gymraeg.
“Ar ôl i mi weithio yn America, Ewrop a Chaergrawnt 'nes i ddechrau symud adra i ogledd Cymru 10 mlynedd nôl.
"A deud y gwir roedd dysgu, neu adennill yr iaith, yn rhan annatod o hynny. 'Nes i ddechrau ar fy mhen fy hun - jyst darllen - cyn i mi ymuno â chyrsiau yn Llanbed, Nant Gwrtheyrn a Bangor. Dwi’n dal i ddysgu. So ers y pandemig dwi mewn grŵp ar-lein - criw difyr iawn o ogledd Cymru a thu hwnt.”
Ond mae’n dweud bod ysgrifennu’r Gymraeg yn haws na’i siarad ar y cyfan.
“Fel arfer mae’n well gen i ysgrifennu. Mae gen i fwy o amser i feddwl a chywiro fy hun. Mae posib defnyddio geiriadur Cysill ar-lein, gofyn am gyngor wrth ymlacio hefo panad. Wrth siarad dwi’n teimlo, fel pob dysgwr, fy mod yn gadael llwybr o wallau y tu ôl i mi.“
Bydd cyfweliad yr Athro Emeritws Colin Hughes i'w glywed ar y Post Prynhawn am 17:00 dydd Llun, 12 Awst ac yna ar BBC Sounds.