Mam mewn galar eisiau atebion nid 'cydymdeimladau gwag'

Dylan CopeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dylan Cope yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 14 Rhagfyr 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni bachgen naw oed fu farw o sepsis yn dilyn "methiant dybryd" gan fwrdd iechyd yn dweud ei bod yn "hurt" nad ydyn nhw'n cael helpu i adnabod y meddyg anhysbys a welodd eu mab.

Aeth Dylan Cope o Gasnewydd i uned frys Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân ar 6 Rhagfyr 2022 gyda phoen yn ei abdomen.

Ond cafodd ei yrru adref gyda thaflen yn cynghori sut i ddelio â pheswch ac annwyd, a bu farw ychydig dros wythnos yn ddiweddarach.

Roedd gan ei dad nodyn gan y meddyg teulu yn gofyn i'r ysbyty ystyried llid y pendics (appendicitis), ond ni chafodd y nodyn ei ddarllen gan staff yn yr ysbyty.

Clywodd cwest ym mis Mai 2024 byddai Dylan wedi goroesi pe na fyddai wedi cael ei "yrru adref mewn camgymeriad”.

Dywedodd y crwner ar y pryd bod hwn "gyfystyr â methiant difrifol gofal sylfaenol".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn ymwybodol o'r straen achoswyd gan nad yw'r aelod o staff wedi cael ei adnabod, ond eu bod yn teimlo eu bod wedi "archwilio pob opsiwn".

Mae’r bwrdd iechyd eisoes wedi cyfaddef bod marwolaeth Dylan yn ganlyniad o "fethiant system sefydliadol" ac wedi ymddiheuro.

Ond mae rhieni Dylan - Corrine a Laurence Cope - yn poeni am ddiogelwch, ar ôl i'w mab gael ei weld gan feddyg sydd heb gael ei adnabod.

“Rydyn ni eisiau’r darlun llawn, ac i rieni’r dyfodol fod yn ddiogel… nid cydymdeimladau gwag,” meddai Mrs Cope.

Dywedodd bod doctor gwrywaidd wedi chwarae “rôl ganolog” yn ystod amser ei mab yn yr ysbyty oherwydd “o’r holl bobl welodd fy mab, roedd hi'n ymddangos mai ef oedd y mwyaf profiadol”.

Er hynny, dywedodd nad oedd hi'n gwybod os mai’r person hwn oedd wedi caniatáu i’w mab fynd adref.

'Wedi diystyru problem gyda’r pendics'

Mae'r teulu yn credu mai llawfeddyg oedd y person dan sylw.

Mae'r bwrdd iechyd yn dweud nad oes cofnod bod llawfeddyg wedi cael ei alw, ond maen nhw'n dweud ei bod hi'n debygol fod y person yn feddyg.

Ychwanegodd Mrs Cope nad oes tystiolaeth bod y doctor wedi cynnal archwiliad corfforol o Dylan, a'i fod dim ond wedi cael “sgwrs am y poen” gydag ef a'i dad.

Fe wnaeth y meddyg hefyd "ddiystyru" problem gyda’r pendics, meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Corrine Cope nad yw hi eisiau i deuluoedd eraill orfod mynd trwy'r un profiad â nhw

Yn ôl Mrs Cope, fe wnaeth ei gŵr roi disgrifiad clir o’r aelod staff gan ei fod yn "cofio manylion y noson honno yn hyderus".

Ychwanegodd y dylai’r ymchwiliad i adnabod yr aelod o staff gael ei gymryd yn fyw difrifol.

Dywedodd Mrs Cope fod y broses o chwilio drwy system rota a chofnodion cleifion yr ysbyty i geisio adnabod pwy allai'r aelod o staff fod, ond wedi digwydd tua naw mis ar ôl marwolaeth Dylan.

Roedd hynny ar ôl iddi "herio'r bwrdd iechyd yn gyson" i wneud hynny, meddai.

Dywedodd ei bod hi hefyd wedi gofyn iddyn nhw edrych ar deledu cylch cyfyng yr ysbyty, dim ond i gael gwybod ei fod yn "annigonol".

Fe ddaeth i wybod yn ddiweddarach bod hynny'n golygu fod y deunydd fideo wedi cael ei ddileu ar ôl 28 diwrnod.

'Hollol annigonol'

Yn ôl Mrs Cope mae’r bwrdd iechyd wedi dweud nad oedd modd dangos lluniau dienw o aelodau staff iddyn nhw am resymau diogelu data.

Dywedodd fod hynny'n "hurt" o ystyried bod ei gŵr yn "dyst allweddol".

Ychwanegodd: "O'n safbwynt ni, mae camgymeriadau'n digwydd, ac wastad yn mynd i ddigwydd.

"Ond sut maen nhw'n delio â chamgymeriadau yw popeth."

Dywedodd ei bod mewn trafodaethau parhaus gyda'r bwrdd iechyd ynglŷn â gwelliannau o ran mesurau rhyddhau cleifion, sydd wedi cael eu rhoi ar waith ers marwolaeth ei mab.

Ond yn ei barn hi, mae’r mesurau yma yn "hollol annigonol".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd cwest ym mis Mai 2024 byddai Dylan wedi goroesi pe na fyddai wedi cael ei "yrru adref mewn camgymeriad”

Mae Mrs Cope hefyd yn rhan o grŵp sy'n ymgyrchu i gynnal ymchwiliadau'r GIG gan "gorff cwbl annibynnol, diduedd" mewn achosion fel un ei mab.

"Ddylen nhw ddim cael ymchwilio i'w hunain. Dyw'r bobl yma ddim yn dditectifs," meddai.

"Ar ddiwedd y dydd, mae plentyn wedi marw a gallai hyn fod wedi cael ei atal.

"Os nad ydyn nhw'n gallu ateb y pethau yma [am bwy welodd ei mab], sut maen nhw'n gallu dweud eu bod nhw wedi dysgu? Sut mae cleifion yn ddiogel?

"Does dim byd am ddod â Dylan yn ôl, a'r cyfan ry'n ni eisiau yw mesurau addas i atal achos tebyg rhag digwydd eto."

'Wedi archwilio'r holl opsiynau

Dywedodd Dr James Calvert, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Rydym yn ymwybodol o'r straen parhaus y mae'r teulu yn ei brofi oherwydd ein anallu i adnabod y meddyg a siaradodd â thad Dylan, er gwaethaf ymchwiliad helaeth.

"Yn dilyn asesiad clinigol ffurfiol, byddai meddyg fel arfer yn gwneud cofnod meddygol claf.

"Ni wnaed hyn yn yr achos hwn ac felly nid oes gennym gofnod yn y nodiadau i'n galluogi i adnabod yr unigolyn.

“Rydym wedi gofyn am gyngor gan sefydliadau allanol ac yn credu ein bod wedi archwilio'r holl opsiynau sydd ar gael i ni i adnabod yr unigolyn y mae'r teulu'n chwilio amdano."

Dywedodd Mr Calvert fod y bwrdd iechyd wedi esbonio’r canfyddiadau i'r teulu ac nad oedd y crwner wedi gofyn iddo wneud ymchwiliad pellach.

Ychwanegodd bod mesurau gwella yn cael eu rhoi ar waith a bod yr adran frys i blant "yn parhau i fod yn ardal ddiogel, gyda mynediad wedi'i gyfyngu i staff sy'n ymwneud â thrin cleifion yn yr ardal honno yn unig".