Hanes UFOs Cymru dros y canrifoedd
- Cyhoeddwyd
O ryfeddod ‘Triongl Dyfed’ i ddirgelwch mynyddoedd y Berwyn mae rhai o ddigwyddiadau Pethau Hedegog Anhysbys – neu UFOs – mwyaf adnabyddus y byd wedi digwydd yng Nghymru.
Yr hanesydd Elin Tomos sy’n bwrw golwg ar hanes ambell wrthrych anesboniadwy sydd wedi ymddangos yn yr awyr ar hyd y canrifoedd.
Ym mis Ionawr 1694, mewn llythyr gan ŵr o’r enw Maurice Jones, Egryn, Sir Feirionnydd, ceir un o’r cofnodion ysgrifenedig cynharaf o unigolyn yn honni ei fod wedi gweld UFO yng Nghymru.
Yn y llythyr, mae Maurice yn disgrifio’r golygfeydd syfrdanol a welodd gwta fis ynghynt, ym mis Rhagfyr 1693. Mae’n cyfeirio at ryw fath o dawch tanllyd a gododd o’r môr gan achosi’r teisi gwair gerllaw i losgi â fflam las ysgafn.
Mae’n rhaid bod rhywbeth yn y dŵr yng nghyffiniau Egryn. Yn ystod y Diwygiad crefyddol a ysgubodd ar draws y wlad o 1904 ymlaen honnodd Mary Elizabeth Jones neu ‘Mari’r Golau’, Islawrffordd, ei bod wedi gweld goleuadau llachar yn ogystal â gweledigaethau o Iesu Grist, angylion, a’r diafol.
Cafodd y goleuadau eu gweld hefyd gan ddegau o dystion yn ystod pregethau Mary Jones, y tu mewn i adeiladau ac yn yr awyr agored.
Wrth geisio egluro’r ffenomen mae rhai’n credu mai hysteria torfol crefyddol oedd yr hyn a brofodd Mari a’i chymdogion.
Erbyn heddiw, mae gwyddonwyr o’r farn mai ffawtiau daearegol oedd wrth wraidd y goleuadau: mae Ffawt Mochras yn rhedeg o Harlech i’r Bermo.
'Goleadau rhyfedd'
Mewn cyfres o erthyglau a gyhoeddwyd ym mhapur newydd The Cambrian News ym 1875 honnodd Griffith Thomas Picton-Jones – cyn-faer Pwllheli – ei fod, ar sawl achlysur, wedi gweld goleuadau rhyfedd yn yr awyr ger ei gartref yn Aber-erch.
Wrth gerdded adref o fferm gyfagos roedd Thomas, ei frawd Llywelyn a’i fab Percy wedi gweld deuddeg pelydr llachar o olau, rhai ohonynt yn las ac eraill yn goch.
O’u cartref, roedd gwraig Thomas, Edith, a’r gweision wedi treulio dros awr a hanner yn gwylio’r goleuadau cyn iddynt ddiflannu o’r golwg yn llwyr.
Cafwyd cryn ymateb i’r erthyglau’n lleol gyda nifer yn ysgrifennu llythyrau yn honni eu bod hwythau wedi bod yn dyst i oleuadau rhyfedd yn yr ardal yn y blynyddoedd blaenorol.
Er doedd pawb ddim mor gefnogol ac un llythyrwr coeglyd yn gobeithio’n arw y byddai modd gweld y goleuadau yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd yn cael ei chynnal ym Mhwllheli y flwyddyn honno!
Mae cofnodion cynnar o Gymry yn gweld ‘awyrlong’ neu wrthrych yn hedfan yn yr awyr yn llai cyffredin. Serch hynny, ym 1743 mi honnodd William John Lewis – ffermwr o ardal Caergybi, Môn – ei fod wedi gweld gwrthrych enfawr tebyg i long yn hedfan uwchben mynyddoedd Eryri.
Roedd William yn daer ei fod wedi gweld gwrthrychau tebyg yn yr union fan pob deng mlynedd ers deng mlynedd ar hugain.
Ym mis Mai 1909 roedd degau o drigolion yn ardal Pont-y-pŵl yn honni eu bod wedi gweld 'ubiquitous airship’ yn yr awyr. O Bentyrch i Gaerffili, Caerdydd, Llantrisant a’r Mwmbwls cafwyd adroddiadau niferus am wrthrych siâp sigâr â golau pwerus yn hedfan trwy’r awyr. Aeth gŵr o’r enw ‘Mr C Lethbridge’ gam ymhellach eto gan honni ei fod wedi gweld dau ddyn yn neidio allan o’r ‘[l]longawyr’ ar ben Mynydd Caerffili!
Er i sawl unigolyn gwahanol gamu ymlaen yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am lansio’r gwrthrych ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw eglurhad boddhaol. Penderfynodd un gohebydd holi C. S. Rolls – cyd-sylfaenydd cwmni cynhyrchu ceir Rolls Royce ac arloeswr hedfan cynnar – beth oedd ei farn ef ynghylch â’r gwrthrych a welwyd yn ne Cymru.
Yn ôl Rolls, roedd yr holl beth yn ddirgelwch llwyr ond roedd ef o’r farn ‘there is either no airship at all or else it is a foreign one… I see nothing impossible in German airships coming across, because the new airships of the German army have a range of 800 miles.’
Roedd y wasg Gymraeg yn lledaenu negeseuon tebyg hefyd gyda phapur newydd radical Tarian y Gweithwyr yn awgrymu ‘mai perthyn i Germani yr oedd… a bod y rhai oedd ynddi yn ysbiwyr milwrol.’ Ymateb, sydd efallai’n adlewyrchu ofnau a fodolai bryd hynny am rym cynyddol yr Almaen ar drothwy’r Rhyfel Mawr.
Digwyddiad Ysgol Rhosybol
Un digwyddiad mwy diweddar oedd pan welodd blant ac athrawes yn ysgol Rhosybol ger Amlwch ar Ynys Môn "soser fawr" yn hedfan yn yr awyr ym mis Chwefror 1977.
Roedd y plant yn grediniol eu bod wedi gweld y soser yn hedfan tuag at Fynydd Parys.
Fe gadarnhaodd safle'r awyrlu yn y Fali nad oedd ganddyn nhw unrhyw awyrennau yn hedfan bryd hynny.
Daeth cadarnhad gan un o’r athrawon ar raglen Heddiw o'r cyfnod nad ei "dychymyg oedd o" gan ei bod wedi ei weld o ei hun.
"Tydw i ddim yn credu yn y petha yma fel arfer, neu doeddwn i ddim tan ddoe, ond mae'n rhaid coelio beth mae rhywun wedi ei weld efo ei llygaid ei hun," meddai.
Gwir neu gau, beth bynnag eich barn ynghylch UFOs neu oleuadau anesboniadwy does yna ddim dwywaith bod y Cymry wedi’u cyfareddu gan wrthrychau yn yr awyr uwchben ers canrifoedd lawer.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2021