Nansi Rhys Adams yn ennill Gwobr Richard Burton yn Eisteddfod Wrecsam

Nansi Rhys AdamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Nansi Rhys Adams yw'r cyntaf i ennill Gwobr Richard Burton a'r Unawd Theatr Gerdd yn yr un flwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Nansi Rhys Adams wedi ennill Gwobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Fe wnaeth Nansi, 21 oed o Gaerdydd, hefyd ennill yr unawd allan o sioe gerdd i rai dros 19 oed prynhawn Sadwrn. Hi yw'r cystadleuydd cyntaf erioed i gipio'r ddwy wobr yn yr un flwyddyn.

Cystadleuaeth i unigolion rhwng 16 ac o dan 25 oed yw Gwobr Richard Burton, gydag ymgeiswyr yn gwneud cyflwyniad dramatig byr.

Beirniaid y Wobr oedd Ffion Dafis a Mark Lewis Jones a ddisgrifiodd safon y gystadleuaeth yn "wych".

Pwy yw'r enillydd?

Mae Nansi yn ei trydedd flwyddyn yn astudio BA Actio yn Academi Mountview, Llundain. Cyn hynny, treuliodd flwyddyn ar gwrs Sylfaen Theatr Gerdd yn Mountview.

"Mae blwyddyn ar ôl o'r cwrs ac wedi hynny fuaswn yn hoffi mynd ymlaen i berfformio'n broffesiynol," meddai.

Fe wnaeth Nansi gyrraedd y tri olaf yng nghystadleuaeth Richard Burton y llynedd ym Mhontypridd.

Chwaraeodd un o'r prif rolau, Eli, yn y gyfres deledu i bobl ifanc, 'Itopia', a ddarlledwyd ar S4C fis Rhagfyr diwethaf.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, chwaraeodd y brif rôl Nel yn y sioe deuluol 'Na, Nel!' a berfformiwyd yn y prif babell o flaen cynulleidfa lawn.

Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023, enillodd y gystadleuaeth Unawd Theatr Gerdd ac o ganlyniad cafodd wahoddiad i ganu unawdau a pherfformio yng Ngŵyl Gymreig Gogledd America yn Nebraska.

Ifan Coyle, hefyd o Gaerdydd, oedd yn ail yng nghystadleuaeth Richard Burton ac ef dderbyniodd Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts.

Wrth siarad ar S4C brynhawn Sadwrn, fe soniodd Nansi am ei balchder o rannu'r llwyfan gyda Ifan yn y gystadleuaeth.

"Fe aethom ni i ysgol uwchradd gyda'n gilydd a nawr ry'n ni yn yr un ysgol ddrama - ni oedd yr unig siaradwyr Cymraeg yn ein blwyddyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig