Hen bont yn ailymddangos yn ystod un o'r cyfnodau tri mis sychaf erioed

Y gred ydy fod y bont yn dyddio yn ôl i tua 1800 ac wedi gorwedd o dan ddŵr y gronfa yn Llwyn-onn ym Merthyr Tudful ers 1911
- Cyhoeddwyd
Mae hen bont garreg, a gafodd ei boddi wrth adeiladu cronfa ddŵr ganrif yn ôl, wedi gwneud ymddangosiad prin yn dilyn cyfnod o dywydd sych iawn.
Y gred ydy fod y bont yn dyddio yn ôl i tua 1800 ac wedi gorwedd o dan ddŵr y gronfa yn Llwyn-onn ym Merthyr Tudful ers 1911, yn ôl Coflein, dolen allanol - sef Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Mae gan y strwythur ddau fwa, ac mae hi wedi ailymddangos yn ystod cyfnodau sych eraill, gan gynnwys ym mis Gorffennaf 2022 ac Ebrill 1976.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mai mis Mawrth oedd y sychaf ers 1944, ac wrth i ragor o amodau sych ddychwelyd ym mis Mai, dim ond 59% o'r glawiad disgwyliedig gafodd Cymru - gan ei wneud yn un o'r cyfnodau tri mis sychaf erioed.

Mae CNC wedi dweud bod llif y rhan fwyaf o afonydd Cymru ar hyn o bryd yn isel neu'n eithriadol o isel.
Nododd Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy lefelau is mewn rhai cronfeydd dŵr na'r disgwyl yr adeg yma o'r flwyddyn.
Mae Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, gan gynnwys CNC, cwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Dywydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, undebau ffermio ac awdurdodau lleol, wedi cynyddu monitro ledled y wlad - yn dilyn cyngor i ddefnyddwyr i beidio â gwastraffu dŵr.