Dynes yn gorfod talu dros £3,500 am beidio codi baw ci o'i gardd ei hun

- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i berchennog ci o Sir Gâr dalu dros £3,500 ar ôl cael ei herlyn am beidio â chodi baw ci o'i gardd.
Cafodd Kelly Williams, o Deras Gorsddu, Pen-y-groes, ddirwy o £215, gorchymyn i dalu costau cyfreithiol o £3470.50 a gordal dioddefwr o £86.
Nid oedd Ms Williams - a fethodd â chodi'r baw ci ar sawl achlysur - yn bresennol yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener, 21 Chwefror, ond plediodd yn euog cyn y gwrandawiad.
Wrth siarad ar ôl yr erlyniad, dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin â chyfrifoldeb dros orfodaeth: "Hoffwn ddiolch i'n Tîm Iechyd yr Amgylchedd am sicrhau'r erlyniad hwn.
"Hyd yn oed yn eu gerddi eu hunain, rhaid i berchnogion cŵn waredu baw eu cŵn mewn modd cyfrifol, oherwydd yn ogystal â'r arogl cas a'r llanast sy'n cael ei greu, mae yna risg i iechyd sy'n gysylltiedig â baw cŵn."