Cannoedd o bobl yn angladd y cyn-filwr Neville Bowen

Bu farw Neville Bowen ym mis Ionawr yn 102 oed
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 100 o bobl at ei gilydd ar gyfer angladd y cyn-filwr Neville Bowen ddydd Mercher.
Fe ymunodd Mr Bowen o Rydaman â'r Llynges Frenhinol yn 1942 pan oedd yn 19 oed.
Bu farw fis Ionawr yn 102 oed.
Yn ôl rhai o'i gyd-filwyr, roedd rôl Mr Bowen yn "hanfodol" i sicrhau diogelwch pobl y Deyrnas Unedig.

Roedd cyn-filwyr yn sefyll ar ochr y ffordd i ddangos parch wrth i'r hers fynd heibio
Ymhlith y rai oedd yn bresennol yn amlosgfa Llanelli oedd yr Arglwydd Raglaw Sara Edwards a James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, yn ogystal ag uwch swyddogion o'r Llynges Frenhinol, yr Awyrlu Brenhinol a'r Fyddin Brydeinig.
Yn ôl yr Uwchgapten Ken Burton roedd "yn fraint" bod yn ffrind i Mr Bowen, a dywedodd ei bod yn bwysig bod ei genhedlaeth yn cael eu cofio.
"Mae'n bwysig, achos i bobl fel Neville, mae debt ofnadwy gyda ni iddyn nhw.
"Dwi'n gobeithio bydd pob un sy'n dod yma heddiw yn falch o beth wnaeth e yn y rhyfel."
Clip o Neville Bowen yn siarad gyda BBC Cymru yn 2023
Ychwanegodd yr Uwchgapten Burton bod Mr Bowen yn "fachan hapus iawn" gydol ei oes, oedd yn hoff o ganu.
"Aethon ni ar y trên lan i Landrindod i gael peint neu ddau - dechreuodd Neville ganu Maggie May!
"Daeth y dafarn i gyd fewn i'r ystafell i wrando - doedden nhw ffaelu credu oedd e'n 101 oed!"

Roedd Jeep o'r Ail Ryfel Byd yn rhan o'r orymdaith angladd
Cafodd Mr Bowen ei eni yn 1922 yn Rhydaman.
Gadawodd yr ysgol yn 14 oed ac aeth i weithio ym mhwll glo Saron o 1936 tan 1940.
Yn 19 oed cafodd ei alw i wasanaethu yn y lluoedd arfog adeg yr Ail Ryfel Byd, fel rhan o'r Llynges Frenhinol.
Roedd yn rhan o Frwydr yr Iwerydd, ac ymhlith ei fedalau mae Seren yr Iwerydd, Seren y Môr Tawel a Seren yr Eidal.

Roedd Neville Bowen yn rhan o'r ymdrech i amddiffyn llongau masnach ar Fôr Iwerydd, ac fe welodd nifer o longau'n suddo
Wrth gael ei gyfweld ar Sul y Cofio 2023 dywedodd Mr Bowen wrth BBC Cymru fod y dyddiau o ymladd ar Fôr Iwerydd yn fyw yn ei gof.
Yn ôl Mr Bowen, "lwc" llwyr oedd y ffaith iddo oroesi'r rhyfel, a disgrifiodd pa mor agos y daeth torpido at daro'r llong yr oedd yn gwasanaethu arni.
Wrth gael ei holi beth oedd ei gyngor i bobl ifanc dywedodd: "Joiwch bywyd yn llawn fel se' ddim fory i ga'l."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr