Amgueddfa 'unigryw' Lloyd George ar ei newydd wedd

Fe agorodd yr amgueddfa, sydd gerllaw hen gartref a bedd Lloyd George, yn 1960 a dyw'r safle ddim wedi'i adnewyddu ers y 1990au
- Cyhoeddwyd
Mae amgueddfa yng Ngwynedd sy'n olrhain hanes cyn-brif weinidog y Deyrnas Unedig, David Lloyd George, wedi'i thrawsnewid yn sgil buddsoddiad o £280,000.
Y gobaith ydy gwneud y profiad ar y safle yn Llanystumdwy yn un mwy cyfoes a pherthnasol.
Mae'r amgueddfa a'r cyngor sir yn gobeithio y bydd yn denu mwy o bobl leol ag ymwelwyr i ddysgu am fywyd a gwaith ffigwr arwyddocaol ond dadleuol mewn hanes.
Fel rhan o'r prosiect, cafodd y dylunwyr amgueddfeydd Mather & Co eu comisiynu i foderneiddio'r arddangosfeydd ac integreiddio'r arteffactau â'r stori.
Y nod, meddai Megan Corcoran, Swyddog Datblygu Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd, ydy galluogi i ymwelwyr gael "dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o Lloyd George a chyd-destun ei oes".
Ychwanegodd bod rhai pethau newydd wedi'u hychwanegu at y casgliad: "Un o'r straeon 'da ni'n adrodd am y tro cynta' ydy stori telegram gan deulu JFK i deulu Lloyd George ar be' fyddai wedi bod ei ben-blwydd yn 100 oed.
"Mae 'na gysylltiad rhwng JFK a Lloyd George gan fod JFK wedi dyfynnu araith Lloyd George ei hun, ac araith ydy hi am yr hyn dwi'n credu ydy Cwm Pennant."

"Yn yr hen arddangosfa o'dd 'na lot o 'sgwennu ar y waliau, o'dd y creiriau i gyd mewn casys heb stori iddyn nhw," meddai Megan Corcoran
Mae trefn yr arddangosfa hefyd wedi newid gyda'r adrannau wedi'u rhannu'n bedair thema yn hytrach nag adrodd yr hanes yn gronolegol.
Meddai Megan Corcoran: "Yn yr hen arddangosfa o'dd 'na lot o 'sgwennu ar y waliau, o'dd y creiriau i gyd mewn casys heb stori iddyn nhw.
"Erbyn hyn 'da ni'n defnyddio'r creiriau i dd'eud y stori mewn ardaloedd gwahanol, thematig.
"Mae adran 'Y Gwleidydd' yn dilyn stori gronolegol sy'n cyflwyno adegau allweddol o yrfa gynnar Lloyd George yn y Senedd, ei rolau arwyddocaol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chyfnodau olaf ei fywyd gwleidyddol.
"Ymlaen wedyn i adran 'Y Bobl', sy'n edrych ar sut mae'r wasg yn portreadu ffigurau gwleidyddol a'u penderfyniadau, gan lunio barn y cyhoedd.
"Mae adran 'Y Dyn' yn dod i'r amlwg drwy ddwy is-thema ar draws gwahanol adrannau o'r Amgueddfa: Bywyd Cynnar a Bywyd Teuluol.
"Ac i gloi, mae adran 'Y Gwaddol' yn edrych ar effaith gweithredoedd a phenderfyniadau gwleidyddol Lloyd George, ochr yn ochr â'r gydnabyddiaeth ryngwladol a gafodd."

"Mae'n wych bod ni'n medru d'eud stori person o Wynedd oedd mor ddylanwadol," meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys
Fe agorodd yr amgueddfa, sydd gerllaw hen gartref a bedd Lloyd George, yn 1960 a dyw'r safle ddim wedi'i adnewyddu ers y 1990au.
Mae'r gwaith wedi bod yn bosib yn sgil cyllid o £250,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Cyngor Gwynedd a Chronfa Iarlles Lloyd George.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, arweinydd Cyngor Gwynedd: "Dyma i chi amgueddfa hollol unigryw.
"Dwi ddim yn meddwl bod 'na amgueddfa i brif weinidog 'nunlle arall drwy Brydain.
"Felly mae'n wych bod ni'n medru d'eud stori person o Wynedd oedd mor ddylanwadol.
"Mae pobl yn dod yma o ar draws y byd, pobl yn dod o ar draws Cymru yma. Ond dwi isho i blant, pobl ifanc a phobl Gwynedd i ddod yma i glywed am pwysig dyn o'n sir ni."

Yn ôl Megan Corcoran, dim ond cychwyn ymdrech barhaus yw hyn i roi sylw i David Lloyd George, ac mae'n awyddus i bobl ymweld a dod i'w casgliadau eu hunain ynglyn â'i waddol.
Ychwanegodd: "Mae'r ffeithiau i gyd yr un peth - hanes ydy hanes, fedra' ni ddim newid hynny a dydan ni ddim isho newid hynny.
"Gobeithio bod pobl yn mynd i ddysgu o'r ffeithiau hanesyddol sydd yma, ac yn cael amser i feddwl ac adlewyrchu a gwneud eu penderfyniad eu hunain am fywyd a gyrfa Lloyd George."
Mae'r amgueddfa wedi agor ei drysau ar ei newydd wedd yn barod ac mae Cyfeillion yr Amgueddfa yn trefnu agoriad swyddogol ar 26 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019