80 mlynedd ers marwolaeth David Lloyd George

Y Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Ryddfrydol rhwng 1916-1922, David Lloyd-George, wrth ei ddesg
- Cyhoeddwyd
Mae'n 80 mlynedd ers marwolaeth yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog ar Brydain, David Lloyd George.
Bu farw Lloyd George yn ei gartref yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy - sydd bellach yn ganolfan ysgrifennu - ar 26 Mawrth, 1945.
Ar 30 Mawrth 1945 sef Gwener y Groglith y flwyddyn honno, cynhaliwyd angladd Lloyd George yn Llanystumdwy, lle treuliodd ei blentyndodd a'i flynyddoedd olaf.
Casglodd cannoedd i wylio'r orymdaith a'r gladdedigaeth fawreddog - o Dŷ Newydd i'w fedd ar lannau Afon Dwyfor.
Amgueddfa Lloyd George sydd wedi rhannu lluniau o'r diwrnod hanesyddol gyda Cymru Fyw. Bydd yr amgueddfa'n ailagor ar 14 Ebrill.
Gwyliwch Dr William George, brawd David Lloyd George yn sgwrsio am ei frawd ar raglen Heddiw yn 1962
Llanystumdwy ar 30 Mawrth 1945

Cert fferm wedi ei dynnu gan geffyl, fel y dymunodd Lloyd George, yn ei gario i'w fan gorffwys ger Afon Dwyfor yn Llanystumdwy, y pentref lle y magwyd ef.
Fe ddychwelodd yno yn 1942, wedi prynu 'Tŷ Newydd', ddim yn bell o 'Brynawelon', Cricieth, ei gartref cyntaf gyda'i gyn-wraig, Margaret.

Llanystumdwy ar y diwrnod, a phawb yn ymgynnull yn gynnar yn eu gwisgoedd du.

Tyrfa'n casglu ar y lôn o Dŷ Newydd i ddangos eu parch.

Cario'r arch i'w fedd. Cynlluniwyd ei fedd ar lan Afon Dwyfor gan Clough Williams-Ellis, sylfaenydd Portmeirion, dan garreg yr hoffai eistedd arni pan oedd yn blentyn.

Paratoi'r bedd.

Galarwyr yn ymgynnull ger glannau Afon Dwyfor.

Pobl yr ardal yn gwylio'r gladdedigaeth a phlant yn dringo'r coed am olygfa well.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019