Rhybudd am garthion yn y môr yn Sir Benfro

Dinbych-y-pysgod
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliad wedi ei lansio i ddigwyddiad yn ymwneud â llygredd yn y môr yn Ninbych-y-pysgod

  • Cyhoeddwyd

Mae nofwyr yn Ninbych-y-pysgod wedi cael eu rhybuddio y gallen nhw fod yn nofio mewn dŵr brwnt.

Mae ymchwiliad wedi cychwyn i ddigwyddiad yn ymwneud â llygredd yn y môr yn Sir Benfro, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd CNC bod prif bibell wedi byrstio – pibell sy'n tynnu carthion i'r system garthffosiaeth gyhoeddus - gan arwain at garthion yn mynd i mewn i Afon Ritec, sy’n llifo i’r môr ar Draeth y De Dinbych-y-pysgod.

Dywedon nhw fod yna risg posib o lygredd ar y traeth hwnnw, Traeth y Castell a Thraeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod yn ogystal â thraeth cyfagos Penalun.

Dywedodd Dŵr Cymru bod y bibell wedi cael ei thrwsio erbyn nos Fawrth.

Ffynhonnell y llun, Dŵr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dŵr Cymru fod "dim mwy o lygredd wedi gollwng tra bod y gwaith atgyweirio yn digwydd"

Un oedd wedi ei siomi gyda'r sefyllfa oedd Chase Blont, 18 o Gwmbrân.

Dywedodd: "Ni wedi bod yma ers bore 'ma, oedd 'da ni paddle boards a phopeth allan.

"Wedyn daeth yr RNLI allan gyda baneri coch a dweud am y llygredd."

Aeth ymlaen i ddweud mai ond am wythnos y maen nhw yn Ninbych-y-pysgod "a dyma un o’r diwrnodau oedd yn edrych yn dda so ni’n eithaf crac.

"Mae’n drist gweld llawer o bobl yn methu mynd mewn i’r môr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Chase, 18, ei fod yn flin gyda'r sefyllfa

Dywedodd Chase ei bod yn "bwysig bod cwmnïau yn cymryd cyfrifoldeb am y digwyddiad."

Un arall oedd ar y traeth oedd Ellis Harries, 18 o Bont-y-pŵl.

Dywedodd ei fod yn "eithaf siomedig".

"Dwi wastad yn clywed am hyn ar y newyddion, nawr fi’n deall y broblem.

"Gwnaethom ni weld yr arwyddion, i fod yn onest mae’n eithaf gwael bod dim ond arwyddion ar y traeth achos ni wedi teithio’n bell."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ellis ei fod "wastad yn clywed am hun ar y newyddion a'i fod nawr yn deall y broblem"

Dywed Andrea Winterton o CNC: "Mae Dŵr Cymru wedi rhoi gwybod i ni am bibell ymgodol sydd wedi byrstio ger Dinbych-y-pysgod sydd wedi arwain at garthffosiaeth yn mynd i mewn i Afon Rhydeg.

"Mae’r bibell ymgodol wedi’i hynysu felly ni ddylai fod unrhyw lygredd pellach i’r afon o’r bibell.

"Oherwydd y potensial i’r llygredd effeithio ar y dyfroedd ymdrochi i lawr yr afon, rydym wedi datgan sefyllfa annormal ac wedi hysbysu Cyngor Sir Penfro a fydd yn gosod arwyddion ar y traethau i rybuddio pobl o’r risg llygredd posib."

Dywedodd Dŵr Cymru ddydd Mawrth bod criwiau'n "atgyweirio pibell sydd wedi ei difrodi ger Heol Clickett, Dinbych-y-pysgod, wedi i ni ddarganfod ei bod wedi byrstio ddoe.

Yn ôl llefarydd roedd y gwaith atgyweirio hwnnw "yn heriol" a bod y criwiau yn rhoi ymdrech fawr i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn saff.

"Er bod y gwaith yn cymryd yn hirach na'r disgwyl, fe gafodd y bibell ei hadnabod yn fuan ddoe felly does dim mwy o lygredd wedi gollwng tra bod y gwaith atgyweirio yn digwydd."

Fe ychwanegon nhw eu bod yn "rheoli llif yr ardal ac nid oes effaith ar ddefnydd gwastraff dŵr yn ardal Dinbych-y-pysgod".

Mewn datganiad pellach nos Fawrth fe ddywedodd y cwmni bod y gwaith atgyweirio "wedi ei gwblhau yn llwyddiannus" a'u bod yn diolch pobl leol "am eu hamynedd".