600,000 awr o ollwng carthion i ddyfroedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cwmni Dŵr Cymru ryddhau carthion i afonydd a moroedd Cymru am bron i 600,000 o oriau y llynedd.
Mae hynny'n gyfystyr â thros 25% o'r holl oriau o ollyngiadau i ddyfroedd Cymru a Lloegr.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd yn dangos bod yna fwy na 83,000 o ollyngiadau yn 2022, ac roedd 77,000 o'r rheiny'n "sylweddol".
Dywed Dŵr Cymru bod cael gwared ar orlifoedd storm yn rhy ddrud, ond eu bod targedu buddsoddiad ar sail yr effaith amgylcheddol.
Er nad yw'n anghyfreithlon, mae ymgyrchwyr ac arbenigwyr yn dadlau bod rhyddhau carthion yn peryglu iechyd pobl ac anifeiliaid.
Yn ystod glaw trwm, mae mwy o ddŵr yn cyrraedd system garthffosiaeth sy'n cario dŵr glaw a dŵr gwastraff. Mae'n rhaid i gwmnïau wedyn ryddhau'r carthion gwanhaëdig i leihau pwysedd trwy Orlifoedd Storm Cyfun (CSOs).
Mae rhannau o'r seilwaith yn dyddio i Oes Fictoria.
Pan mae'r dŵr gwastraff yn cael ei ryddhau yn modd uchod mae'n gallu cynnynwys gwastraff dynol, papur tŷ bach a deunyddiau hylendid - sy'n peri risg difrifol i fywyd gwyllt a nofwyr.
Dywed Dŵr Cymru bod gorlifoedd storm cyfun yn bod erioed, ond mae'n bosib eu bod yn rhyddhau mwy o ddŵr a gwastraff yn sgil mwy o stormydd a newid hinsawdd.
Mae hefyd yn dweud bod mwy o ddŵr yn llifo i gwteri o balmantau ac arwynebau concrid, ble fyddai fel arall wedi suddo'n ôl i'r tir.
Serch hynny, mae cyfanswm oriau'r gollyngiadau o 592,569 (602,988 o oriau ar draws yr holl ardal y mae'n cwmni'n ei gwasanaethu, gan gynnwys o amgylch Henffordd a Chaer) oddeutu 25% yn is na chyfanswm 2021.
Y tywydd sy'n bennaf gyfrifol am hynny, wedi i Gymru weld y cyfnod sychaf rhwng Ionawr ac Awst ers 1976 a'r statws sychder swyddogol cyntaf ers 2005-6.
Dywed Dŵr Cymru y byddai cael gwared ar bob gorlif storm cyfun yn amhosib i'w fforddio ac yn cymryd degawdau, ac felly mae'n canolbwyntio ar y rhai â'r effaith amgylcheddol fwyaf.
Fe allai eu gwaredu gostio rhwng £9bn a £14bn, medd y cwmni nid-er-elw, a fyddai'n cael "effaith niweidiol sylweddol" ar filiau.
Fe fyddai hefyd yn golygu gwaith cloddio drud i osod carthffosydd newydd.
'Mae'n destun pryder'
Daw'r ffigyrau newydd ddyddiau wedi i'r cwmni rybuddio bod cwsmeriaid yn wynebu "cynnydd sylweddol mewn biliau" er mwyn talu am fesurau i atal rhyddhau carthion.
Yr afonydd ble gafodd y mwyaf o garthion eu gollwng yn 2022 oedd Afon Garw, Afon Tawe, Afon Teifi, Afon Wysg, Afon Rhymni ac Afon Taf.
Yr ardal ar frig y rhestr oedd Sir Gâr, gyda thros 11,000 o ollyngiadau am gyfanswm o oddeutu 88,000 o oriau.
Mae Lloyd Nelmes, 29 oed ac o Sir Benfro, yn cynrychioli'r mudiad Surfers Against Sewage ac yn gweithio i'r elusen Sea Trust Wales. Mae'n dweud bod y llygredd yn ei wneud yn sâl.
"Mae'n destun pryder ac yn gorfforol rwy'n teimlo poen," meddai. "Rwy'n cael haint i'r glust yn aml trwy syrffio a nofio.
"Mae'n mynd i gostio arian mawr a dyw pobl ddim mo'yn biliau i godi ond rwy'n siŵr bod modd gwneud rhywbeth.
"Rwy' ychydig filltiroedd i ffwrdd [o safle] sy'n sianelu hylif brown i'r môr... mae'n arogli'n ofnadwy.
"Rwy'n gobeithio y bydd y cynnydd mewn amryw weithgareddau dŵr yn cynyddu'r pwysau a'r ymwybyddiaeth. Mae hyn wedi bod yn digwydd am amser hir.
"Mae pethau'n newid... mae yna fwy o bwysau yn bendant ar fywyd gwyllt."
Dr Robin Parry yw cadeirydd Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru a Chymdeithas Pysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni yng Ngwynedd.
"Dydi o ddim yn syndod i mi," meddai. "Mae wedi bod yn mynd ymlaen am ddegawdau.
"Dwi'n falch bod y cyhoedd yn fwy ymwybodol ohono ac mae'n ddychrynllyd y ffordd 'dan ni'n trin ein hafonydd.
"Nathon nhw ollwng carthion 109 o weithiau am gyfanswm o 722 o oriau i Lyn Padarn [yn Llanberis] - 30 diwrnod o garthion mewn dŵr ymdrochi mewndirol.
"Dydi o ddim yn ddymunol iawn i nofio mewn dŵr efo carthion ynddo.
"Mae angen addysgu'r cyhoedd… sut 'dan ni'n defnyddio ein system garthffosiaeth... be sy'n mynd i lawr y tŷ bach ac yn y blaen.
"Rhaid buddsoddi yn y seilwaith. Mi wn bod Dŵr Cymru'n gwneud petha' fel trio lleihau ffosffadau… ond mae'n dal yn broblem fawr ac mae angen mwy o fuddsoddiad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022