Llys yn clywed am fenyw'n gorfod gwisgo penwisg i guddio cleisiau

- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod menyw, oedd yn cael ei churo gan ei phartner pan roedd hi'n gwrthod cael rhyw gydag ef, yn cael ei gorfodi i wisgo penwisg Islamaidd i guddio'i chleisiau.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Antonio Villafane, 68, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Anthony Manson o ardal Tyndyrn, Sir Fynwy, wedi dweud wrth yr heddlu iddo dagu ei gyn-bartner tan iddi golli ymwybyddiaeth "fwy nag deg gwaith" yn ystod eu perthynas wyth mlynedd.
Ar un achlysur mae'r fenyw'n honni bod ei thraed a'i dwylo wedi cael eu clymu at ei gilydd cyn i'w phen gael ei wthio i focs plastic llawn dŵr glaw.
Mae Mr Villafane yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
'Troi o fod yn flin i fod yn dawel'
Mewn cyfweliad fideo gafodd ei roi i'r heddlu a'i chwarae i'r rheithgor, dywedodd Sally Ann Norman, 64, wrth yr heddlu: "'Nes i drio ymladd yn ei erbyn, ond roedd yn rhy gryf.
"Roeddwn i'n meddwl ei fod yn mynd i fy moddi i."
Eglurodd yn ei chyfweliad ei fod yn stopio ar y funud olaf.
Dywedodd y byddai'n troi o fod yn flin i fod yn dawel, "fel pe bai'n teimlo'n euog".
"Byddai'n dweud 'Mae'n rhaid i mi weithio ar fy hun'. Yna bydde ni'n cusanu ac yn cymodi.
"Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'n gwneud hynny eto," meddai.
Mae Mr Villafane yn gwadu cyhuddiadau o ymddygiad o reoli drwy orfodaeth, anafu anghyfreithlon, achosi niwed corfforol gwirioneddol a thwyll.
'Perthynas yn troi'n dreisgar'
Clywodd y rheithgor o saith menyw a phump dyn fod y cwpl wedi cyfarfod yn 2015 pan roedd Mr Villafane yn dosbarthu taflenni ar gyfer gweithdy canu yn Glastonbury, yng Ngwlad yr Haf.
Dywedodd Ms Norman wrth yr heddlu ei bod wedi bod yn briod am fwy na 30 mlynedd ar y pryd, ond disgrifiodd y briodas fel un "anhapus".
Roedd hi'n adnabod Mr Villafane fel Tai ac fe ddatblygodd perthynas yn gyflym rhyngddyn nhw.
Ond clywodd y llys bod Ms Norman wedi dweud wrth yr heddlu i'r berthynas droi'n dreisgar yn gyflym.
Clywodd y rheithgor hefyd fod Ms Norman wedi dweud wrth yr heddlu ei bod wedi ymuno â chymuned grefyddol Islamaidd Sufi.
Ar ôl cael llygad ddu a chleisiau yn dilyn un ymosodiad honedig, dywedodd Ms Norman fod Mr Villafane wedi gorchymyn iddi wisgo gorchudd wyneb llawn i guddio ei hanafiadau, gan ddweud wrthi "os bydd unrhyw un yn gofyn mae'r mater rhyngot ti a dy Dduw, dyw e ddim byd i'w wneud â nhw."
'Aros mewn carafan'
Dywedodd Ms Norman fod Mr Villafane wedi ei gorchymyn ar adegau i aros mewn carafán ar eu tir, gan ddweud wrthi am "weddïo am faddeuant".
Dywedodd nad oedd hi'n cael gadael heb ganiatâd Mr Villafane.
Fe gafodd Ms Norman £300,000 fel setliad yr ysgariad ac fe gafodd yr arian ei ddefnyddio i brynu tir ac anifeiliaid yn Sir Fynwy.
Roedd yr eiddo yn enw Mr Villafane er iddo ddweud ei fod yn enwau'r ddau ohonyn nhw.
Clywodd y llys fod y cwpl wedi dod o hyd i dir i'w brynu yn Nhyndyrn yn Nyffryn Gwy.
Dywedodd Ms Norman fod prynu darn o dir ei hun yn rhywbeth yr oedd hi wedi bod eisiau ei wneud erioed, gan ei bod am fod yn hunangynhaliol.
'Teulu mewn perygl'
Ychwanegodd Ms Norman y byddai Mr Villafane yn mynd â hi i'r banc i gael arian parod "yn ddyddiol".
Dywedodd hefyd bod Mr Villafane wedi dweud wrthi y byddai ei theulu mewn perygl pe bai'n ceisio dod â'r berthynas i ben ac y byddai'n "lladd fy mhlant, fy nheulu ac yna'n fy lladd i".
Yn ystod yr wythnos y gadawodd Mr Villafane ym mis Gorffennaf 2023, disgrifiodd Ms Norman wrth yr heddlu sut y cafodd ei llusgo o adeilad allanol gerfydd ei gwallt cyn iddo wasgu "cyllell yn eithaf caled" ar ei gwddf a dweud wrthi y byddai'n "ei thorri hi i fyny ac yn ei bwydo i'w cŵn".
Dywedodd fod Mr Villafane wedi dweud wrthi: "Does neb yn gallu eich clywed chi'n sgrechian yng nghanol y goedwig."
Mae Mr Villafane yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.