Cau bar gwesty yn Llanbed ar ôl darganfod chwilod duon

Chwilod DuonFfynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Roedd haint o chwilod du Almaenig tu ôl i'r prif far

  • Cyhoeddwyd

Mae gwesty yng Ngheredigion wedi gorfod cau y bar ar ôl darganfod chwilod duon (cockroaches) yno.

Mae Llys Ynadon Aberystwyth wedi rhoi Gorchymyn Gwahardd Brys i westy'r Royal Oak yn Llanbedr Pont Steffan.

Cafodd llawer o olion o chwilod duon eu darganfod yn ardal y bar a'r seler gan dîm Amddiffyn y Cyhoedd Cyngor Ceredigion ar 8 Medi wedi cwyn gan aelod o'r cyhoedd.

Roedd yno bla o chwilod du Almaenig (German Cockroach), yn ôl gweithiwr sy'n rheoli plâu, ac roedd yr olion yn parhau wythnos yn ddiweddarach pan gafodd asesiad dilynol ei gynnal.

Nid oedd unrhyw olion chwilod duon yn y gegin na'r caffi, meddai'r Cyngor.

Royal Oak HotelFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwesty'r Royal Oak yn Llanbedr Pont Steffan wedi derbyn Gorchymyn Gwahardd Brys

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd: "Rydym yn croesawu penderfyniad y llys.

"Pan fydd swyddogion yn canfod risg brys i iechyd, byddwn yn gweithredu ar unwaith.

"Bydd y gorchymyn hwn yn sicrhau bod yr ardaloedd dan sylw yn aros ar gau nes bod y pla wedi'i ddileu'n llwyr ac y gallwn fod yn sicr bod y risg i'r cyhoedd wedi mynd.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r busnes a'r gontractwr rheoli plâu i gefnogi ailagor diogel ac mewn modd sy'n cydymffurfio gyda'r anghenion cyn gynted ag y bo'n bosibl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig