Pennod newydd yn hanes stadiwm eiconig San Helen

San HelenFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stadiwm San Helen yn leoliad chwaraeon hanesyddol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae un o stadiymau mwyaf eiconig Cymru yn wynebu pennod newydd yn ei hanes.

Mae Stadiwm San Helen ger traeth Abertawe yn un o gonglfeini chwaraeon yng Nghymru ers dros 150 o flynyddoedd.

O gêm ryngwladol cyntaf tîm rygbi Cymru, Clwb Rygbi Abertawe yn curo pencampwyr y byd Awstralia, a meithrin rhai o gewri'r gamp yng Nghymru, mae gan San Helen le yn hanes chwaraeon y genedl.

Ond mae'r safle yn wynebu trawsnewidiad am mai dyma fydd cartref newydd tîm rygbi rhanbarthol y Gweilch erbyn y tymor nesaf.

Mae San Helen hefyd wedi bod yn gartref i gemau criced dros y blynyddoeddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae San Helen wedi bod yn gartref i Glwb Criced Abertawe ers 1873

Ond cymysg yw'r teimladau am y datblygiad.

Wrth edrych ymlaen at y newid, dywedodd cyn fewnwr Abertawe, Cymru a'r Llewod Robert Jones: "Mae'n drist mewn un ffordd achos wrth gwrs mae'r cae mynd i newid, mae 4G mynd i ddod mewn a fi'n gwybod pam.

"Ond roedd gan San Helen un o'r caeau gorau ym Mhrydain."

Aeth ymlaen i ddweud: "Mae'n neis bod y Gweilch yn dod lawr fan hyn a taw fan hyn fydd cartref nhw yn y dyfodol.

"Mae hynny'n bwysig nid jyst i Glwb Rygbi Abertawe ond i'r ardal i gyd."

Rob Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyn-chwaraewr Robert Jones fod y datblygiad "yn bwysig nid jyst i Glwb Rygbi Abertawe ond i'r ardal i gyd"

Er bydd Clwb Rygbi Abertawe yn dal i chwarae ar y cae hwn, mi fydd hi'n ddiwedd cyfnod ddydd Sadwrn cyn i'r Gweilch symud i Fae Abertawe.

Nid ar chwarae bach mae adnewyddu un o stadiymau enwocaf rygbi Cymru, a'r Gweilch fydd yn gyfrifol am hynny.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gweilch, Lance Bradley mai eu blaenoriaeth yw moderneiddio'r stadiwm yn ogystal â chynnal yr hyn sydd yno'n barod.

Argraff artist o'r stadiwm ar ôl datblyguFfynhonnell y llun, URC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi rhannu argraff artist o'r stadiwm ar ôl y datblygu

Dywedodd: "Rydym yn teimlo'n freintiedig iawn i fod yn dod i'r maes hanesyddol yma a gallu rhoi bywyd newydd iddo ac mi fydd Clwb Rygbi Abertawe yn rhan o hynny."

"Mae angen iddo fod yn faes rygbi Cymreig hen ffasiwn ond gyda'r holl rinweddau modern y gallwn eu cynnig fel y cae 4G.

"Gobeithio y bydd y gorau o'r ddau fyd i bawb."

Lance
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prif Weithredwr y Gweilch, Lance Bradley mai eu blaenoriaeth yw moderneiddio'r stadiwm yn ogystal â chynnal yr hyn sydd yno'n barod

Mae un a fu'n serennu ar y cae yn gobeithio gweld rygbi Abertawe yn dychwelyd i'r dyddiau da.

Dywedodd Robert Jones: "Fi wedi bod mewn gemau fan hyn pan oedd y banc yn llawn a fi jyst yn gobeithio bydd y cefnogwyr yn dod mas ac yn cefnogi'r tîm.

"Gobeithio gallwn ni fynd nôl i le'r oedd Abertawe blynyddoedd yn ôl, ond nawr wrth gwrs gyda chrys y Gweilch arno."

Pynciau cysylltiedig