Stadiwm Sain Helen fydd cartref newydd y Gweilch

Sain HelenFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweilch yn gobeithio chware yno o ddechrau tymor 2025/26

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gweilch wedi cyhoeddi y bydd eu stadiwm newydd yn Sain Helen yn Abertawe.

Gobaith y rhanbarth yw gallu chwarae yno o ddechrau tymor 2025/26.

Ers 2005 mae'r Gweilch wedi bod yn chwarae yn stadiwm Swansea.Com - safle maen nhw wedi bod yn ei rannu gyda thîm pêl-droed Abertawe.

Roedd y rhanbarth, sy'n ymestyn o Abertawe i Gastell-nedd, a Phen-y-bont ar Ogwr yn y dwyrain, hefyd wedi ystyried symud i Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweilch wedi bod yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Swansea.com

Ar ôl cyhoeddi mai Sain Helen fyddai'r cartref newydd, dywedodd y clwb y byddai'r symudiad yn golygu buddsoddiad helaeth yn y safle, gan gynnwys gosod cae 4G ac eisteddleoedd newydd.

Dywedodd y Gweilch mewn datganiad: "Mae'n fraint i gael y man lle chwaraeodd Cymru eu gêm ryngwladol gyntaf erioed yn 1882 yn gartref newydd i'r rhanbarth.

"Dyw'r symudiad nid yn unig yn golygu ein bod ni'n aros yn agos i fwyafrif ein cefnogwyr, ond mae hefyd yn ein galluogi i weithio'n agos gyda Chyngor Abertawe i ddod â bywyd newydd i gae Sain Helen.

"Bydd buddsoddiad o filiynau o bunnau yn gweld ni'n gosod cae 4G newydd, eisteddleoedd newydd, adfywio'r tŷ clwb a chyflwyno porth cefnogwyr newydd."